blog

Syniadau ar gyfer diwrnodau allan i’r teulu yn Ne Cymru

Does dim dal pa dywydd gawn ni felly rydyn ni wedi gofyn i’n carfanau i rannu eu hoff lefydd i fynd am ddiwrnodau allan – a hynny ar ddiwrnodau braf o haf, diwrnodau llwyd neu pan fydd hi’n bwrw glaw! Dyma rai o’u syniadau ar gyfer diwrnodau allan i’r teulu yn Ne Cymru…

Parc Antur a Sw Folly Farm, Cilgeti, Sir Benfro

Mae’n safle mawr, ac yn lle hyfryd i gerdded o gwmpas a gweld yr holl anifeiliaid yn ystod tywydd braf. Mae hefyd atyniadau dan do yno, gan gynnwys yr hen ffair dan do os yw’r tywydd yn arw.

Mae modd i chi ddod â phicnic gyda chi neu brynu bwyd ar y safle. Mae’n hawdd i’w gyrraedd ac mae digonedd o le i barcio. Mae dewis o lety ar y safle hefyd os ydych chi awydd aros dros nos neu’n hirach.

Oriau agor dros y gwyliau 6 wythnos yw 10am tan 5pm bob dydd a chost tocynnau yw £23.95 i oedolion, £21.95 i blant 3-15 oed, £14.95 i blant bach (2 oed). Mae tocynnau teulu ar gael hefyd.

Pysgod a Sglodion – mynnwch bryd ar glyd o fwytai Marina, Argosy, Beachside Barbeque ac ati ac ewch i’w fwyta ar y traeth yn Saundersfoot. Mae plât mawr o bysgod a sglodion yn costio oddeutu £10 ond mae’r gost yn amrywio.

Taith Pyllau Glo Cymru ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda

Dyma le gwych ar gyfer diwrnodau gwlyb a chymylog oherwydd mae modd i chi aros dan do. Cewch chi hyd yn oed fynd dan ddaear os byddwch chi’n cadw lle ar-lein ymlaen llaw ar gyfer Taith yr Aur Du!

Mae yna lwybrau cerdded hawdd o gwmpas, ac mae modd i chi gael rhywbeth i’w fwyta yng Nghaffi Bracchi, neu fentro i fyny’r ffordd i Westy’r Parc Treftadaeth, sydd â bwyty a chyfleusterau sba. Mae yna lawer yn digwydd yn y Parc Treftadaeth ac yn aml mae achlysuron celfyddydol yn cael eu cynnal i blant – felly edrychwch ar y wefan i gynllunio’ch eich ymweliad.

Lido Ponty

Dyma atyniad sy’n boblogaidd gyda theuluoedd ledled de Cymru. Mae’r lido wedi’i gynhesu wedi’i leoli yng nghanol Pontypridd, ar ben isaf cymoedd dee Cymru.

Mae’n cynnwys un pwll mawr 25 metr o hyd sydd wedi’i rannu’n bedair lôn ac ardal dull rhydd, ac mae pwll llai ar gael sy’n addas ar gyfer plant bach yn ystod rhai sesiynau sydd wedi’i lenwi â theganau gwynt i blant hŷn ar adegau eraill o’r dydd.

Mae angen i chi drefnu’ch taith ymlaen llaw gan fod angen i chi gadw lle ar gyfer sesiynau ar-lein, a hynny o 7.30am yr wythnos cyn i chi ymweld – mae sesiynau’n aml yn gwerthu allan yn gyflym.

Mae’r Lido ym Mharc Ynysangharad ac mae yna nifer o feysydd parcio i chi eu defnyddio o amgylch canol tref Pontypridd, felly mae modd i chi barcio a cherdded draw i’r parc. Mae caffi yn y Lido sy’n gweini prydau bwyd parod, ac mae yna nifer o lefydd i fwyta yng nghanol y dref hefyd.

Hwyl i’r teulu ym Mharc Aberdâr

Mae Parc Aberdâr yn lleoliad da i dreulio ychydig oriau ac yn lle perffaith i’r plant ddefnyddio’u hegni.

Mae gan y parc Fictoraidd traddodiadol ffynnon, meini hirion, lle i chwarae bowls, cyrtiau tenis, parc sblashio newydd sbon, lle chwarae a llyn â chychod. Dyma le perffaith i gael picnic pan fydd y tywydd yn braf, neu mae modd i chi brynu bwyd o’r caffi ger y llyn cychod. Ar hyn o bryd dydy’r cychod ddim yn hwylio, ond mae digon i’w wneud o hyd yn y parc hyfryd yma! Mae lle i barcio ar y stryd o amgylch y parc a’r cod post yw CF44 8BN. Mae modd i chi hefyd barcio ym meysydd parcio’r Colisëwm a Stryd Las. Beth am ychwanegu at yr antur trwy deithio ar y trên i Aberdâr, a cherdded i’r orsaf fysiau i fynd i’r parc ar un o’r bysiau rheolaidd?

Corff-fyrddio a chwarae criced yn Aberafan

Traeth Aberafan yw un o’r traethau hiraf yng Nghymru, ac mae ganddo bromenâd sy’n edrych dros Fae Abertawe. Dyma le gwych i deuluoedd gan ei bod yn hawdd ei gyrraedd ac mae mynediad da i’r traeth.

Ar y traeth 3 milltir o hyd, mae achubwyr bywyd yr RNLI yno i’ch cadw’n ddiogel yn ystod eich ymweliad dros yr haf.

Mae’n lle perffaith os oes gyda chi blant iau fyddai efallai ddim yn ymdopi â’r teithiau hirach i’r traethau yng Ngŵyr a Gorllewin Cymru. Mae lle i barcio ar hyd y promenâd ac yn y meysydd parcio ar Ocean Way, Scarlet Avenue a Bay View.

Cafodd y parc sblashio ei adnewyddu’n ddiweddar ac mae bellach ar agor – bydd y plant wrth eu boddau. 

Nofio yn y Sinc yn Abereiddi

Os hoffech chi fynd ychydig ymhellach, rydyn ni wrth ein boddau yn mynd draw i arfordir Sir Benfro lle mae llawer o opsiynau ar gyfer cerdded, nofio, bwyta, chwarae ac ymlacio.

Os yw’n ddiwrnod cynnes mae modd i chi gadw’n oer yn y Sinc. Dyma le delfrydol ar gyfer plant ychydig yn hŷn sy’n hapus i gerdded o’r maes parcio draw i’r safle gan ddringo i lawr i’r traeth er mwyn mynd i mewn i’r pwll.

Nofwyr, byddwch yn wyliadwrus – mae’r pwll yn ddwfn iawn mewn rhannau ac mae modd i’r tymheredd fod yn oer iawn, hyd yn oed ar ddiwrnodau poeth. Mae’n lle gwych i gadw’n oer, ond byddwch yn ddiogel. Chwarel llechi ddofn sydd wedi’i llenwi â dŵr yw’r Sinc, ac mae hyn yn rhoi lliw gwyrdd trawiadol iddo. Mae’n lle hardd iawn i nofio. Os ydych chi’n teimlo’n ddewr, cewch ddringo i fyny hen adeiladau’r chwarel a neidio i mewn i’r pwll o wahanol uchderau.

Mae cyfleusterau newid a thoiledau ar y llwybr o’r maes parcio i safle’r Sinc.. Mae’n costio £5 i barcio a gall fod yn brysur. Mae’n cymryd tua 10 munud i gerdded i’r safle, gydag un rhan eithaf heriol i sgrialu/llithro i lawr i’r pwll! Beth am alw draw i Dyddewi ar y ffordd yn ôl i gael rhywbeth i’w fwyta? Rydyn ni’n argymell yr hufen iâ blasus yn The Bench ar y Stryd Fawr J

Techniquest

Amgueddfa wyddoniaeth yw Techniquest. Mae cymaint o hwyl i’w gael yma, ac yn wir dyma un o’n hoff weithgareddau ar gyfer diwrnod glawiog, p’un a ydych chi’n frwd am wyddoniaeth ai peidio! Mae’r amgueddfa ym Mae Caerdydd ac mae lle parcio hygyrch ar gael mewn lleoedd fel Cei’r Fôr-forwyn, a llawer o leoedd i fwyta ac ymlacio gerllaw. Mae modd i chi gael gostyngiad yn eich costau parcio os ydych chi’n prynu tocynnau ymlaen llaw ac yn parcio yn Q-Park, sydd oddeutu 5-10 munud i ffwrdd ar droed.

Mae angen i chi brynu tocynnau ymlaen llaw ar-lein. Pris tocynnau arferol yw £11.81 i oedolion a £10.00 i blant. Mae tocynnau am ddim i blant dan 3 oed. Ewch i’w gwefan i weld manylion am eu hachlysuron arbennig fel sesiynau i Blant Bach a sioeau Deinosor.

Os ydych yn byw yng Nghymru, ewch i wefan Maethu Cymru lle mae’r holl wybodaeth ar gael a chysylltu â’ch gwasanaeth awdurdod lleol.

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn