pam maethu gyda ni?

cefnogaeth a manteision

cyllid a lwfansau

Fel gofalwr maeth gyda’ch tîm Maethu Cymru Rhondda Cynon Taf, byddwch yn derbyn lwfansau ariannol hael. Rydyn ni’n seilio’r rhain ar wahanol ffactorau, gan gynnwys y math o faethu rydych chi’n ei wneud, faint o blant rydych chi’n eu maethu, ac am ba hyd.

Er enghraifft, mae rhai gofalwyr maeth yn Rhondda Cynon Taf yn derbyn rhwng £15,522 a £41,600 y flwyddyn ar hyn o bryd.

manteision eraill

Mae amrywiaeth ehangach o fanteision i fod yn ofalwr maeth nag y byddech chi’n ei sylweddoli. Yn ogystal â’r gefnogaeth a’r lwfansau y soniwyd amdanyn nhw eisoes, yn Rhondda Cynon Taf, byddwch hefyd yn cael y canlynol:

  •  Cynllun ffioedd cadw: bydd holl ofalwyr maeth cymeradwy Maethu Cymru Rhondda Cynon Taf sy’n cael lwfans ychwanegol yn cael tâl cadw blynyddol o £1,000, wedi’i rannu’n ddau swm o £500 dros y flwyddyn.
  • Ffi cadw: mae ffioedd gofalwyr maeth yn cael eu diogelu, sy’n golygu y byddwch yn dal i gael eich lwfansau ychwanegol am hyd at dri mis ar adegau pan does dim plentyn wedi’i leoli gyda chi.
  • Aelodaeth hamdden am ddim i’r gofalwr maeth a’r teulu cyfan, sy’n golygu eu bod yn gallu defnyddio campfeydd, pyllau nofio a dosbarthiadau’r Awdurdod Lleol faint fynnan nhw.
  • Gweithgareddau cymdeithasol rheolaidd a digwyddiadau gwerthfawrogi blynyddol ar gyfer ein teuluoedd maeth yn ogystal â chyfleoedd ymgynghori rheolaidd i chi gael rhoi eich barn. Rydyn ni hefyd yn darparu cefnogaeth a mentora gan ofalwyr maeth profiadol drwy ein cynllun Arloeswyr Gofal Maeth.
  • Ystod eang o gyfleoedd dysgu a datblygu sy’n cael eu darparu mewn ffyrdd hyblyg gan gynnwys e-ddysgu, podlediadau, deunyddiau darllen a gweithdai, gyda swyddog hyfforddi amser llawn yn arbennig ar gyfer ein gofalwyr maeth ni.

ymrwymiad cenedlaethol maethu cymru

A dim dyna’r cyfan! Mae pob Awdurdod Lleol yng Nghymru, gan ein cynnwys ni, wedi ymrwymo i’r hyn rydyn ni’n ei alw yn Ymrwymiad Cenedlaethol. Mae hwn yn becyn penodol o hyfforddiant, cefnogaeth a manteision, ac mae pob un o’n gofalwyr maeth yng Nghymru yn ei dderbyn. Felly, os byddwch chi’n dod yn ofalwr maeth gyda Maethu Cymru, byddwch yn cael y buddion canlynol:

Happy senior man smiling with young boy on shoulders

un tîm

Mae tîm Maethu Cymru Rhondda Cynon Taf yn cydweithio â gweithwyr cymdeithasol, athrawon, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a phawb sy’n ymwneud â gofal plant. Rydyn ni’n un tîm, oherwydd ein bod ni i gyd yn rhan o’r Awdurdod Lleol.

Rydych chi’n rhan ganolog o’r tîm hwn, ac oherwydd hyn byddwch chi bob amser yn cael eich cynnwys, eich gwerthfawrogi a’ch parchu ym mhopeth rydyn ni’n ei wneud – ac yn y ffordd rydyn ni’n symud ymlaen.

Mae ymuno â’n tîm yn golygu ymuno â’r rheini sy’n bennaf gyfrifol am bob plentyn sy’n derbyn gofal yng Nghymru. Mae hefyd yn golygu rhoi’r pethau sy’n bwysig yn gyntaf, oherwydd rydyn ni’n falch o ddweud mai pobl, dim elw, sy’n bwysig i ni. Yn wahanol i asiantaethau maethu eraill, byddwn bob amser yn helpu plant i aros yn eu hardal leol pan mai hynny sydd orau iddyn nhw. Dyna sy’n gwneud y tîm hwn yn
unigryw.

Adult and young girl baking together in kitchen

dysgu a datblygu

Mae’r adnoddau a’r cyfleoedd datblygu yn rhan o’r gwasanaethau craidd rydyn ni’n eu cynnig, oherwydd mae eich helpu chi i dyfu’n bwysig i ni.

Mae’r fframwaith a’r gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu yn gyson ar draws Cymru gyfan. Mae hyn yn golygu y byddwch yn elwa o becyn cymorth sydd wedi cael ei ystyried, ei brofi ac sy’n cael ei rannu.

Rydyn ni’n darparu popeth sydd ei angen arnoch er mwyn diwallu anghenion y plant yn eich gofal yn llawn: cyfleoedd hyfforddi, arbenigedd ein tîm, a chefnogaeth ddydd a nos. Mae’n ymwneud â gwneud yn siŵr eich bod yn hyderus ac yn abl.

Rydyn ni’n cadw cofnod o’ch taith unigol gyda chofnod dysgu personol a chynllun datblygu sy’n unigryw i chi. Mae’r cynllun hwn yn cydnabod yr holl sgiliau a phrofiadau trosglwyddadwy gwerthfawr a oedd gennych chi pan ddaethoch chi aton ni, ac mae’n cynllunio sut gallwn ni adeiladu ar y rhain. Mae’n ffordd o gadw golwg ar yr holl gynnydd rydych chi’n ei wneud, yn ogystal â chynllunio ar gyfer y dyfodol.

Young boy laughing

cefnogaeth

Fel gofalwr maeth gyda thîm Maethu Cymru Rhondda Cynon Taf, fyddwch chi byth yn teimlo eich bod ar eich pen eich hun. Bydd gennych dîm wrth eich ymyl, yn eich cefnogi ac yn eich annog bob dydd. Hefyd, bydd gennych chi weithiwr cymdeithasol proffesiynol medrus a phrofiadol wrth law i helpu pryd bynnag y bydd angen.

Ar ben hyn, byddwch chi’n gallu cael mynediad at amrywiaeth o grwpiau cefnogi lle byddwch chi’n dod i adnabod gofalwyr maeth o bob cefndir. Efallai y bydd gan rai brofiadau tebyg iawn i’ch rhai chi, tra bydd eraill yn rhoi persbectif gwahanol. Mae’n ymwneud â rhannu profiadau. Mae cefnogaeth gan gymheiriaid ar gael gan bob tîm Maethu Cymru lleol, a gall wneud byd o wahaniaeth.

Mae cefnogaeth broffesiynol ar gael bob amser hefyd – a dim o fewn oriau swyddfa yn unig. Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio fel tîm gyda’n gofalwyr maeth, ac mae hynny’n golygu bod wrth law pryd bynnag y bydd ein hangen arnoch chi, ddydd neu
nos.

Byddwch yn dod o hyd i gymunedau newydd yma. Pobl sy’n deall. Byddwch yn newid eich bywyd eich hun – a bywyd rhywun arall.

Group of 5 children and young teenagers dancing in street

y gymuned faethu

Rydyn ni’n sefyll gyda’n gilydd, drwy bopeth. Ni yw eich rhwydwaith cefnogi chi, yn ogystal â’ch cymuned a’ch ffrindiau chi. Byddwn yn eich gwahodd i ddigwyddiadau a gweithgareddau rheolaidd i ddod â chi’n agosach at deuluoedd maeth eraill. Er mwyn i chi gael profiadau newydd, ac i’ch helpu i wneud ffrindiau newydd a chreu atgofion sy’n para.

Ar ben hyn, byddwch hefyd yn gallu cael gafael ar ddigonedd o wybodaeth a chyngor ar-lein. Rydyn ni’n talu i chi fod yn aelod o’r Rhwydwaith Maethu (TFN) a Chymdeithas Maethu a Mabwysiadu (AFA) Cymru. Mae’r sefydliadau maethu arbenigol hyn yn cynnig ystod eang o gefnogaeth annibynnol, arweiniad a chyngor preifat, yn ogystal â llawer o fanteision ychwanegol. Rydyn ni’n gwybod bod hyn yn bwysig, felly dyna pam mae hyn yn fater o drefn.

cymryd y cam cyntaf

cysylltu â’n tîm maethu cymru lleol

  • Nodwch eich cyngor lleol
  • Cyngor Rhondda Cynon Taf yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.