y broses
Dysgwch sut mae cymryd y camau cyntaf ar eich taith faethu, a beth i’w ddisgwyl wrth i chi symud ymlaen.
y brosescydweithio i adeiladu gwell dyfodol i blant lleol
Rydyn ni’n gwybod pa mor werthfawr yw cydweithio fel tîm, rhannu ein gwybodaeth a chreu dyfodol gwell i blant yn ein cymuned – gyda’n gilydd.
Rydyn ni’n rhan o Maethu Cymru, y rhwydwaith cenedlaethol o 22 o wasanaethau maethu Awdurdodau Lleol Cymru, gan gynnwys Rhondda Cynon Taf.
Cysylltwch â ni i holi am faethu.
Sut ydych chi’n cymryd y cam cyntaf ar eich taith tuag at fod yn ofalwr maeth, a beth sy’n digwydd wedyn?
Mae maethu yn ymrwymiad ac mae’n newid bywyd. Mae’n fwy na swydd. Bydd yn eich herio, ond bydd yn werth chweil hefyd – mewn mwy o ffyrdd na’r ydych chi’n gwybod.
Mae’n ymwneud â dewis helpu eich cymuned leol a gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau plant. Rydyn ni’n gwasanaethu rhanbarthau Rhondda, Cynon a Thaf yn y de, ac yn gweithio gyda phobl ymroddedig fel chi. Rydyn ni’n darparu popeth sydd ei angen arnoch i fod yn ofalwr maeth gwych, gan eich helpu i adeiladu ar eich sgiliau presennol gyda hyfforddiant pwrpasol a chefnogaeth arbenigol. Y cyfan sydd ei angen arnoch yw ystafell sbâr! Rydyn ni hefyd yn cynnig amrywiaeth o gefnogaeth a manteision.
Rydyn ni’n eich cefnogi chi, ym mhob ffordd y gallwn ni. Felly, sut bynnag a phryd
bynnag y bydd arnoch ein hangen ni, byddwn ni yma i chi.
galwch heibio i ddweud helo wrthym yn unrhyw un o'r digwyddiadau hyn i ddysgu mwy am faethu
Yn meddwl tybed sut beth yw bod yn ofalwr maeth yn Rhondda Cynon Taf? Darllenwch ein blogiau gan ofalwyr maeth go iawn i glywed am eu profiadau. Mae dod yn ofalwr maeth yn symlach nag y gallech feddwl, a gallwch gymryd y cam cyntaf heddiw.
Mae pobl yn aml yn dweud na fyddent yn gallu maethu pobl ifanc yn eu harddegau.
Rydym wedi edrych ar rai o’r rhesymau pam – ac wedi rhannu profiadau go iawn rhai o’n gofalwyr maeth sy’n chwalu’r mythau hyn.
Darllenwch mwy yma…