y broses

yr ymweliad cartref
Ar ôl eich ymholiad cychwynnol, rydyn ni’n dechrau dod i’ch adnabod chi ac yn dysgu am bopeth sy’n bwysig i chi. Byddwn yn dod i ymweld â chi gartref os gallwn ni. Fel arall, byddwn yn dechrau gyda sgwrs fideo anffurfiol.
Mae meithrin perthynas â chi a’ch teulu yn bwysig, a dyma lle mae’n dechrau. Rydyn ni’n gweithio i ddeall beth sy’n bwysig yn eich bywyd a phwy sy’n bwysig, ble rydych chi’n ei alw’n gartref, a sut rydych chi’n gweld eich hun fel gofalwr maeth.

hyfforddiant
Mae cam cyntaf eich hyfforddiant a’ch datblygiad yn dysgu mwy i chi am faethu, er mwyn i chi fod yn siŵr mai dyma’r llwybr iawn i chi. Mae hefyd yn gyfle i chi gwrdd â gofalwyr maeth newydd eraill ar yr un cam o’u taith. Enw’r cwrs hyfforddi cyntaf hwn yw “Paratoi i Faethu”, neu weithiau “sgiliau maethu”. Bydd yn digwydd dros ychydig ddyddiau neu
gyda’r nos.
Mae’n ymwneud â datblygu gwybodaeth, cysylltiadau a rhwydweithiau gwerthfawr sy’n para.

yr asesiad
Mae’r asesiad yn broses raddol lle byddwn yn casglu’r holl wybodaeth bwysig am bwy ydych chi fel person. Dydy hwn ddim yn brawf. Yn hytrach, mae’n gyfle i chi siarad â gweithwyr cymdeithasol medrus a chael gwybod beth allai maethu ei olygu i chi. Bydd gennych chi’r amser a’r rhyddid i ofyn unrhyw gwestiynau, ac i siarad am unrhyw beth sydd ar eich meddwl.
Dyma pryd rydyn ni’n edrych yn ofalus ar sut mae eich teulu’n gweithio hefyd, ac yn ystyried yr holl gryfderau a gwendidau.
Mae’n ymwneud â pharatoi ar gyfer y manteision a’r heriau a all ddod yn sgil gofal maeth.

y panel
Mae gan bob tîm Maethu Cymru banel. Dyma lle bydd popeth rydyn ni’n ei ddysgu yn ystod y broses asesu yn cael ei ystyried. Mae’r panel yn cynnwys cymysgedd amrywiol o bobl fedrus a phrofiadol, gan gynnwys gweithwyr gofal cymdeithasol ac aelodau annibynnol. Mae aelodau’r panel yn edrych ar bob darpar ofalwr maeth fel unigolyn, ac yn canfod beth yw’r ffordd orau ymlaen.
Dydy’r panel ddim yno i wneud penderfyniad nac i’ch atal chi rhag maethu – yn hytrach, mae aelodau’r panel yn ystyried eich cais o bob ongl ac yn gwneud argymhellion ar sail gwybodaeth ynghylch beth fyddai’n gweithio orau i chi.

y cytundeb gofal maeth
Byddwch yn cael cytundeb gofal maeth ar ôl i’r panel gyfarfod ac ar ôl i argymhellion gael eu gwneud. Mae’r cam pwysig hwn yn nodi’n union beth mae bod yn ofalwr maeth yn ei olygu – o’r cyfrifoldebau bach bob dydd i’r holl gefnogaeth ac arweiniad ehangach y byddwch yn eu darparu.
Mae’n ymwneud â’r hyn y gallwch ei gynnig, a’r hyn rydyn ni’n ei gynnig hefyd. Mae’r cytundeb hefyd yn nodi’r holl arbenigedd a’r gwasanaethau y byddwn ni’n eu cynnig i chi fel eich rhwydwaith cefnogi.