polisi preifatrwydd

1. Pwy ydyn ni, beth ydyn ni’n ei wneud.

Maethu Cymru RhCT yw gwasanaeth maethu awdurdodau lleol Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

Mae ein tîm recriwtio rhanbarthol yn rheoli’r holl ymholiadau maethu a dderbynnir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf hyd at yr adeg pan ddyrennir darpar ymgeiswyr i’w hasesu.

Mae rhagor o wybodaeth am y camau i ddod yn rhiant maeth yn https://rhct.maethucymru.llyw.cymru/y-broses/

2. Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni’n ei chadw ac am bwy?

P’un a ydych chi’n gwneud ymholiadau neu’n dymuno gwneud cais i ddod yn rhiant maeth byddwn ni’n prosesu gwybodaeth amdanoch chi, eich partner – unrhyw un yn eich cartref a fydd yn rhan o’r broses.

Gall hyn gynnwys:

Gwybodaeth bersonol – enw, dyddiad geni, cyfeiriad, manylion cyswllt (rhif ffôn / cyfeiriad e-bost), cyflogaeth, gwybodaeth am eich teulu/perthnasoedd a phartneriaid blaenorol.

Gwybodaeth categori arbennig – unrhyw broblemau iechyd sydd gyda chi, eich ethnigrwydd, euogfarnau troseddol blaenorol ac unrhyw gysylltiad blaenorol â’r gwasanaethau cymdeithasol.

3. O ble mae’r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?

Byddwn ni’n casglu’r wybodaeth gennych chi, pan fyddwch chi’n gwneud eich cais/ymholiad.

4. Beth fyddwn ni’n ei wneud gyda’ch gwybodaeth bersonol?

Byddwn ni’n defnyddio’r wybodaeth rydych chi’n ei rhoi i ymateb i’ch ymholiad.

Os byddwch chi’n penderfynu parhau â’ch cais i ddod yn rhiant maeth, byddwn ni’n ymweld â’ch cartref a chasglu rhagor o wybodaeth gennych chi i’n helpu ni i benderfynu a ydych chi’n addas.

Efallai byddwn ni’n monitro eich galwadau ffôn chi i ni, neu ein galwadau ni i chi.

Efallai y proseswn eich data personol i gyflawni ein rhwymedigaethau, a gall hyn gynnwys prosesu eich data personol ar gyfer un neu’r cyfan o’r dibenion canlynol:

  • Prosesu atgyfeiriad argymell ffrind a gwobrwyo’r atgyfeiriwr
  • I anfon cylchlythyrau e-bost atoch gyda’ch caniatâd optio i mewn
  • Creu proffil gofalwr maeth ar-lein i’w rannu gyda phlant/pobl ifanc pan gewch eich cymeradwyo fel gofalwr maeth

5. Sut a phryd y byddwn yn cysylltu â chi

Byddwn yn cysylltu â chi ar ôl i chi wneud ymholiad.

Byddwn yn anfon cylchlythyrau e-bost atoch, gyda’ch caniatâd optio i mewn, pan fyddwch yn tanysgrifio i’n newyddion Maethu Cymru.

6. Beth yw’r sail gyfreithiol o ran defnyddio’r wybodaeth yma?

Mae’r ddeddf Diogelu Data yn nodi ein bod ni’n cael defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol dim ond lle mae gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny.

Ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu ymholiadau a cheisiadau gan ddarpar rieni maeth yw er mwyn cydymffurfio â:

Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2018 https://www.legislation.gov.uk/cy/wsi/2018/1339/contents/made/welsh

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 https://www.legislation.gov.uk/cy/anaw/2014/4/contents/enacted/welsh

Deddf Plant 1989

https://www.legislation.gov.uk/cy/ukpga/1989/41/contents

Deddf Plant 2004

https://www.legislation.gov.uk/cy/ukpga/2004/31/contents

7. Ydy’r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?

Ni fydd y garfan recriwtio maethu yn rhannu’ch gwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei rhannu’n fewnol gyda’r garfan asesu maethu i bennu eich addasrwydd i ddod yn rhiant maeth.

Os bydd ein hymweliad cychwynnol yn llwyddiannus a’ch bod chi’n cael eich gwahodd i symud ymlaen i asesiad llawn, gofynnir ichi lenwi ffurflen gais. Yn ystod y cam yma bydd ein carfan asesu maethu yn gofyn ichi roi caniatâd i’ch gwybodaeth bersonol gael ei rhannu â sefydliadau eraill sy’n rhan hanfodol o’ch asesiad llawn. Byddech chi’n cael rhagor o wybodaeth am y sefydliadau yma pe byddech chi’n symud ymlaen i gael asesiad llawn.

8. Am ba mor hir caiff fy ngwybodaeth ei chadw?

Byddwn ni’n cadw’ch gwybodaeth cyhyd ag y byddwn ni’n rheoli eich ymholiad.

Os ydyn ni o’r farn eich bod chi’n addas i gael eich asesu byddwn ni’n cadw eich gwybodaeth nes bod yr asesiad wedi dod i ben. Os byddwch chi’n penderfynu peidio â symud ymlaen i gael eich asesu, byddwn ni’n cadw eich gwybodaeth ar ein cronfa ddata am 12 mis o’r dyddiad y caiff eich ymholiad ei gau.

9. Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae’r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i’w defnyddio nhw.

10. Cysylltu â ni

Rydyn ni’n croesawu eich sylwadau ynghylch y Datganiad Preifatrwydd yma. Os ydych chi o’r farn dydy Fostercwmtaf.co.uk ddim wedi cadw at y Datganiad yma, cysylltwch â ni:

Drwy anfon e-bost at [email protected]

Dros y ffôn: 01443 425007

Drwy ysgrifennu at Maethu Cymru RhCT, Ty Catrin, Unit 1, Maritime Industrial Estate, Pontypridd, CF37 1NY