pam faethu gyda ni?
pam ein dewis ni?
pam ein dewis ni?
Yma ym Maethu Cymru Rhondda Cynon Taf dydyn ni ddim fel eich asiantaeth faethu safonol. Rydyn ni’n rhan o rwydwaith cenedlaethol. Rydyn ni’n sefydliad nid-er-elw, a gofalu yw’r hyn rydyn ni’n ei wneud.
Pam dod yn ofalwr maeth yn Rhondda Cynon Taf? Mae’n ymwneud â rhoi plant lleol yn gyntaf, ac ymrwymo i wneud yr hyn sydd orau iddyn nhw. Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio fel tîm gyda’n gofalwyr maeth er mwyn sicrhau hyn.
Ein pwrpas yw creu dyfodol gwell i blant lleol, ac rydyn ni’n gwneud hyn drwy eu helpu i aros yn eu hardal leol pan fydd hynny’n iawn iddyn nhw.

ein cenhadaeth
Mae yna blant yn Rhondda Cynon Taf sydd ein hangen ni, ac sydd eich angen chithau hefyd.
Mae gan bob un stori wahanol, ond mae ein cenhadaeth yr un fath ar gyfer pob plentyn: creu dyfodol gwell.

ein cefnogaeth
Rydyn ni’n cynnig yr holl gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i wneud i chi deimlo’n hyderus, yn abl ac yn barod i wynebu pob diwrnod newydd. Ni yw’r rhwydwaith cefnogi lleol cyflawn ar eich cyfer chi a’r plant yn ein gofal.
Mae taith faethu pawb yn wahanol, ond lle bynnag byddwch chi’n mynd ar eich taith, byddwn ni yno. Byddwn yn cynnig yr holl wybodaeth arbenigol bwrpasol, y cyngor a’r hyfforddiant y bydd eu hangen arnoch yn ystod pob cam, gan eich galluogi i dyfu a
ffynnu yn eich rôl.

ein ffyrdd o weithio
Dydyn ni ddim yn sefydliad pell. Rydyn ni’n rhan o’ch cymuned, ac rydyn ni’n credu’n llwyr ym mhwysigrwydd cadw mewn cysylltiad. Rydyn ni’n rhan o wead eich bywyd bob dydd, a gallwch gysylltu â ni pryd bynnag y bydd angen.
Rydyn ni’n gwerthfawrogi natur unigol pob plentyn yn ein gofal, ac yn gwybod bod gan bob un ohonyn nhw anghenion unigryw. Mae ein gofalwyr maeth yn unigryw hefyd, felly ein rôl ni yw eu helpu i fod y gorau y gallan nhw fod, drwy fod yn nhw eu hunain. Rydyn ni’n dathlu ac yn datblygu eu talentau presennol drwy ddarparu cefnogaeth, hyfforddiant ac arweiniad arbenigol. Mae’n ymwneud â gwneud ein gorau, a bod y gorau, i’r plant rydyn ni’n gofalu amdanyn nhw.

eich dewis
Mae’r penderfyniad i ddod yn ofalwr maeth yn ymrwymiad, a chi biau’r dewis. Y cam nesaf yw dewis yr asiantaeth faethu iawn i chi. Gyda Maethu Cymru Rhondda Cynon Taf, mae hyn yn golygu gweithio gyda thîm o bobl sy’n gofalu. Pobl sydd wedi’u hyfforddi gan arbenigwyr ac sy’n ymroddedig. Pobl go iawn sy’n byw lle rydych chi’n byw, sy’n deall, ac sydd wedi ymrwymo i fod gyda chi yn ystod pob cam.
Cysylltwch â ni heddiw er mwyn cychwyn ar eich taith.