ffyrdd o faethu

pwy all faethu

pwy all faethu yn rhondda cynon taf?

Mae pob plentyn yn wahanol, a dyna pam ein bod yn cefnogi ac yn trysori cymysgedd mor amrywiol o ofalwyr maeth – o bob cefndir.

Rydyn ni’n ffodus o gael amrywiaeth eang o ofalwyr maeth a bydden ni wrth ein bodd yn eich croesawu chi i’n tîm. Gallwch chi faethu, p’un ai ydych chi’n berchen ar eich cartref neu’n ei rentu, p’un ai ydych chi’n briod neu’n sengl, beth bynnag yw eich ethnigrwydd neu gyfeiriadedd rhywiol.

Yr hyn sy’n bwysig i ni, yw’r sgiliau a’r profiad sydd gennych chi, a’r rhinweddau sy’n eich gwneud chi’n unigryw. Gorau po fwyaf amrywiol ac eang yw ein sgiliau a’n persbectif yn ein barn ni.

Ydych chi’n dal i fod yn ansicr a yw maethu yn addas i chi? Daliwch ati i ddarllen i gael gwybod.

mythau maethu: gwahaniaethu rhwng ffaith a ffuglen

Efallai fod gennych chi syniad pendant o bwy all faethu – ond y gwir amdani yw, mae’n bosibl i unrhyw un sydd ag ystafell sbâr ymuno â ni.

Mae sicrhau bod gennyn ni amrywiaeth eang o ofalwyr, gyda chefndiroedd, profiadau a straeon gwahanol, yn bwysig i ni. Rydyn ni’n dathlu popeth sy’n eich gwneud chi’n unigryw.

Felly, allwch chi wneud gwahaniaeth, ac ydych chi eisiau gwneud hynny? Dyma’r cwestiynau pwysicaf os ydych chi’n ystyried maethu.

alla i faethu os ydw i’n gweithio’n llawn amser?

Mae’n bosibl gweithio yn ogystal â maethu – ond efallai y bydd yn rhaid meddwl a chynllunio’n fwy gofalus. Gallai olygu bod angen cefnogaeth ychwanegol arnoch yn eich rôl fel gofalwr maeth, a hynny gan deulu a ffrindiau.

Y peth pwysig i’w ystyried yw a ydych chi’n barod i fod yno, pryd bynnag y bydd eich angen. Yn y pen draw, mae maethu yn ymrwymiad. Ond mae hefyd angen gweithio fel tîm. Dydych chi ddim ar eich pen eich hun – rydych chi’n gweithio gyda thîm ymroddedig o weithwyr cymdeithasol, athrawon, therapyddion a ffrindiau. Rydyn ni yma i’ch cefnogi chi, yn ystod pob cam.

alla i fod yn ofalwr maeth os ydw i’n byw mewn llety rhent?

Mae llawer o ofalwyr maeth yn rhentu yn hytrach nag yn berchen ar eu cartrefi eu hunain, felly peidiwch â phoeni os yw'r un peth yn wir amdanoch chi. P’un ai ydych chi’n rhentu neu’n talu morgais, teimlo’n ddiogel yn lle rydych chi’n byw sy’n bwysig. Os ydych chi’n teimlo felly, yna gallai plentyn hefyd.

Rydyn ni’n gweithio gyda chi i weld beth fydd orau i chi yn dibynnu ar ble rydych chi’n ei alw’n gartref.

alla i faethu os oes gen i blant fy hun?

Mae pob teulu maeth yn wahanol – mae gan rai gofalwyr maeth eu plant eu hunain, ac eraill ddim. Yn y naill achos a’r llall, mae derbyn plentyn maeth i’ch cartref yn golygu ehangu eich teulu a chael un person arall i’w garu ac i ofalu amdano.

Gall y profiad o gael brawd neu chwaer fod yn fuddiol i’ch plant ac i’r plentyn maeth. Mae’n golygu gwneud ffrindiau newydd a dysgu sut i ofalu. Mae’n dysgu dirnadaeth, trugaredd a dealltwriaeth – ac mae’r rhain yn rhinweddau sy’n para am oes.

ydw i’n rhy hen i faethu?

Does dim terfyn oedran uchaf o ran maethu, felly p’un ai ydych chi’n oedolyn ifanc neu’n fwy profiadol, fe allech chi fod yn ofalwr maeth.

Beth bynnag yw eich oedran, byddwch yn cael yr un gefnogaeth a hyfforddiant lleol arbenigol. Rydyn ni’n darparu popeth sydd ei angen arnoch i’ch paratoi ar gyfer y daith o’ch blaen.

ydw i’n rhy ifanc i faethu?

Gall unrhyw un sy’n 21 oed a hŷn faethu. Dydy’r rhif ddim yn bwysig, dim ond y gefnogaeth a’r ymroddiad y gallwch eu cynnig.

Felly, er bod profiad bywyd yn gallu bod yn ddefnyddiol, gallwch fod yn ofalwr maeth gwych os ydych chi’n iau hefyd. Gyda’n rhwydwaith cefnogi i’ch arwain, byddwch yn teimlo’n barod ac yn gallu symud ymlaen yn eich rôl fel gofalwr maeth.

a oes rhaid i gyplau sy'n maethu fod yn briod neu mewn partneriaeth sifil?

Does gennyn ni ddim gofynion arbennig o ran hyd na statws eich perthynas. Does dim rhaid i chi fod yn briod nac mewn partneriaeth sifil i faethu – ac rydyn ni’n derbyn gofalwyr maeth sengl hefyd.

Mae angen sefydlogrwydd ar blant, felly’r prif gwestiwn rydyn ni’n ei ofyn i chi yw allwch chi gynnig hyn? Os felly, fe allech chi faethu.

alla i faethu os ydw i’n drawsryweddol?

Gallwch. Dydy eich rhywedd ddim yn ffactor o ran beth fydd yn eich gwneud yn ofalwr maeth gwych. Rydyn ni’n gwerthfawrogi ac yn parchu popeth sy’n eich gwneud chi pwy ydych chi, a’r rhinweddau sydd bwysicaf i ni yw eich personoliaeth, eich sgiliau a’ch natur ofalgar.

alla i faethu os ydw i’n hoyw?

Rydyn ni’n dathlu ac yn cefnogi ein gofalwyr maeth LGBTQ+ yn Rhondda Cynon Taf, ac mae hyn yn wir am bob Awdurdod Lleol yng Nghymru. Dydy eich cyfeiriadedd rhywiol ddim yn effeithio ar eich gallu fel gofalwr maeth – yn hytrach, rydyn ni’n ystyried eich ymrwymiad i fod y sawl sy’n gwrando ac yn gofalu, sy’n cynnig lle diogel i blentyn.

alla i faethu os oes gen i gi neu gath?

Gall anifeiliaid anwes gynnig math gwahanol o gariad a chefnogaeth i blant maeth, ac rydyn ni’n cydnabod eu bod yn aelodau o’ch teulu. Dyma pam mae pob anifail anwes yn cael ei gynnwys mewn asesiad gofalwr maeth.

Rydyn ni’n dod i adnabod eich anifeiliaid anwes, yn union fel rydyn ni’n dod i adnabod pawb arall sy’n rhan o’ch bywyd, ac rydyn ni’n edrych ar sut gallen nhw gyd-dynnu â phlant maeth yn y dyfodol.

alla i faethu os ydw i’n ysmygu?

Fydd ysmygu ddim yn eich atal rhag dod yn ofalwr maeth, ond gall effeithio ar y math o blant y gallwch eu maethu. Mae gwahanol reoliadau ynghylch gofal maeth ac ysmygu (gan gynnwys e-sigaréts) ond y peth pwysicaf yw bod yn onest. Os ydych chi’n penderfynu eich bod am roi’r gorau i ysmygu, gallwn gynnig arweiniad a chefnogaeth i’ch helpu.

Yn y pen draw, rydyn ni bob amser yn ceisio paru pob plentyn gyda’r teuluoedd maeth sydd fwyaf addas ar eu cyfer, ac rydyn ni’n ystyried eich holl rinweddau.

alla i faethu os ydw i’n ddi-waith?

Mae rhai gofalwyr maeth yn maethu’n llawn amser, a dyna yw eu hunig swydd, ond mae eraill yn gweithio’n rhan amser neu’n llawn amser. Rydyn ni’n gwybod bod gwaith yn rhywbeth sy’n gallu bod yn gyfnewidiol iawn, felly dydy bod yn ddi-waith ddim yn rhwystr.

O ran bod yn rhiant maeth da, mae eich gallu i gynnig cefnogaeth, arweiniad a chariad bob dydd yn bwysig. Felly, dim ots beth yw eich statws cyflogaeth, gallwch ymgeisio. Byddwn yn gweithio gyda chi i wneud yn siŵr bod yr amser yn iawn.

alla i faethu os nad oes gen i dŷ mawr?

Mae pob un cartref maeth yn wahanol, a dyna sut dylai fod. Dydy cael tŷ mawr ddim yn amod ar gyfer bod yn ofalwr maeth – gallwch gael unrhyw fath o gartref.

Yr un peth fydd ei angen arnoch chi yw ystafell sbâr. Bydd yr ystafell hon yn dod yn fan diogel i’ch plentyn maeth, lle gall fod yn ef ei hun a theimlo’n ddiogel.

rhagor o wybodaeth am faethu

An adolescent boy and an adult woman with garden gloves on their hands

mathau o faethu

Mae nifer o ffyrdd o wneud gwahaniaeth. Gall maethu fod yn rhywbeth tymor byr, tymor hir, neu rywbeth yn y canol.

dysgwch mwy
A smiling adolescent boy looking down

cwestiynau cyffredin

Beth mae maethu yn ei olygu o ddydd i ddydd a pha fath o gefnogaeth sydd ar gael? Dewch o hyd i’r atebion i gwestiynau cyffredin, yma.

dysgwch mwy

cysylltu â ni

  • Nodwch eich cyngor lleol
  • Cyngor Rhondda Cynon Taf yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.