
pwy all faethu?
Mae angen rhywbeth gwahanol ar bob plentyn, ac mae hyn yn golygu bod angen amrywiaeth eang o ofalwyr maeth arnon ni – a allai eich cynnwys chi.
dysgwch mwycydweithio i adeiladu gwell dyfodol i blant lleol
Rydyn ni’n gwybod pa mor werthfawr yw cydweithio fel tîm, rhannu ein gwybodaeth a chreu dyfodol gwell i blant yn ein cymuned – gyda’n gilydd.
Rydyn ni’n rhan o Maethu Cymru, y rhwydwaith cenedlaethol o 22 o wasanaethau maethu Awdurdodau Lleol Cymru, gan gynnwys Rhondda Cynon Taf.
Byddwn ni allan yn y gymuned a hoffen ni gwrdd â chi! Big Welsh Bite Y 05 & 06 Awst ym Mharc Coffa Ynysangharad Summer Fun Day 26 Awst ym Mharc Coffa Ynysangharad Charity Fun Day Llanharan September
Mis Mehefin yma, rydyn ni’n dathlu cyfraniad eithriadol i ofal maeth er anrhydedd y rhiant maeth Ken Mason. Mae ein gweithiwr cymdeithasol goruchwyliol wedi enwebu rhieni maeth sydd wedi mynd tu hwnt i’r arfer ar gyfer y plant sydd yn eu gofal nhw.
Mae angen rhywbeth gwahanol ar bob plentyn, ac mae hyn yn golygu bod angen amrywiaeth eang o ofalwyr maeth arnon ni – a allai eich cynnwys chi.
dysgwch mwySut yn union mae maethu yn gweithio a beth allwch chi ei ddisgwyl? Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.
dysgwch mwyMae’n ymwneud â dewis helpu eich cymuned leol a gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau plant. Rydyn ni’n gwasanaethu rhanbarthau Rhondda, Cynon a Thaf yn y de, ac yn gweithio gyda phobl ymroddedig fel chi.
Rydyn ni’n darparu popeth sydd ei angen arnoch i fod yn ofalwr maeth gwych, gan eich helpu i adeiladu ar eich sgiliau presennol gyda hyfforddiant pwrpasol a chefnogaeth arbenigol. Y cyfan sydd ei angen arnoch yw ystafell sbâr!
Rydyn ni hefyd yn cynnig amrywiaeth o gefnogaeth a manteision. Dysgwch fwy am bopeth y gallai maethu ei olygu i chi, yma.
Sut ydych chi’n cymryd y cam cyntaf ar eich taith tuag at fod yn ofalwr maeth, a beth sy’n digwydd wedyn?
Mae maethu yn ymrwymiad ac mae’n newid bywyd. Mae’n fwy na swydd. Bydd yn eich herio, ond bydd yn werth chweil hefyd – mewn mwy o ffyrdd na’r ydych chi’n gwybod.
Dysgwch sut mae cymryd y camau cyntaf ar eich taith faethu, a beth i’w ddisgwyl wrth i chi symud ymlaen.
dysgwch mwyRydyn ni’n eich cefnogi chi, ym mhob ffordd y gallwn ni. Felly, sut bynnag a phryd bynnag y bydd arnoch ein hangen ni, byddwn ni yma i chi.
dysgwch mwyYdych chi’n meddwl sut mae dod yn ofalwr maeth yn Rhondda Cynon Taf? Mae’n symlach nag y byddech yn ei feddwl, a gallwch gymryd y cam cyntaf heddiw.