trosglwyddo i ni
dewiswch faethu cymru RhCT
Maethu Cymru Rhondda Cynon Taf yw gwasanaeth maethu eich awdurdod lleol. Pobl, nid elw, sy’n ein llywio ni, ac rydyn ni’n ymroi i weithio gyda chi i adeiladu dyfodol gwell i’n plant lleol yn RhCT.
Rydyn ni’n rhan o’r rhwydwaith cenedlaethol ar gyfer y gwasanaethau maethu ledled y 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Os ydych chi eisoes yn maethu gyda’ch awdurdod lleol, rydych chi eisoes yn rhan o’n tîm Maethu Cymru.
Nod Gwasanaethau i Blant ym Maethu Cymru RhCT yw cyfyngu ar nifer y plant sydd angen derbyn gofal yn y lle cyntaf. Drwy gael rhieni maeth yn gweithio gyda ni yn hytrach nag ar gyfer asiantaethau annibynnol, mae modd i ni ganolbwyntio’n well ar y nod yma. Mae’n golygu mwy o fuddsoddi mewn gwasanaethau cymorth i blant, eu teuluoedd, a rhieni maeth.
Os ydych chi’n rhiant maeth gydag awdurdod lleol arall, asiantaeth, neu sefydliad trydydd sector, ond rydych chi am drosglwyddo i Faethu Cymru RhCT, darllenwch isod am ragor o wybodaeth.

manteision maethu gyda'ch awdurdod lleol
Fel awdurdod lleol, ni sy’n bennaf gyfrifol am yr holl blant sy’n derbyn gofal yn ein hardal. Ein prif nod yw rhoi cyfle i blant aros yn lleol, ffynnu a gwella eu cyfleoedd bywyd trwy rieni maeth sy’n cael eu cefnogi’n dda. Mae’r plant wrth wraidd popeth rydyn ni’n ei wneud.
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu lefel eithriadol o ofal a chymorth i blant a rhieni maeth. A ninnau’n sefydliad nid-er-elw, mae’r holl gyllid rydyn ni’n ei dderbyn yn mynd tuag at y gwasanaeth rydyn ni’n ei ddarparu, at eich hyfforddiant a’ch cymorth, ac yn cael ei ailfuddsoddi yn ein rhieni maeth. Dydyn ni ddim yn gwneud elw ar blant sy’n derbyn gofal.
Rydyn ni’n cynnig cymorth ac arweiniad rhagorol, ond hefyd mae gyda ni becyn cystadleuol o gyllid a buddion. Rydyn ni’n gwybod nad arian sy’n eich cymell chi i faethu, ond rydyn ni hefyd yn deall bod angen i chi fod mewn sefyllfa gadarn yn ariannol er mwyn cyflawni eich rôl fel rhiant maeth yn effeithiol.

beth rydyn ni'n ei gynnig ym maethu cymru RhCT
- Rhwydwaith cymorth o dros 230 o rieni maeth yn RhCT, gyda chymorth mentora gan gynhalwyr profiadol
- Lwfansau ariannol hael. Er enghraifft, ar hyn o bryd yn RhCT mae yna rieni maeth sy’n derbyn rhwng £15,522 a £41,600 y flwyddyn
- Ffi gadw flynyddol wedi’i rhannu’n ddau daliad y flwyddyn
- Cymorth ar alwad 24 awr
- Aelodaeth hamdden am ddim i’ch cartref
- Rhaglen gadw 12 wythnos, ar gyfer y cyfnodau rhwng gofalu am blant
- Arweiniad, cymorth a hyfforddiant, gan gynnwys Gwasanaeth Cymorth Sefydlogrwydd Amlasiantaethol (MAPSS), sef gwasanaeth ymyrraeth therapiwtig gan The Behaviour Clinic
- Ymgynghoriadau misol i rannu barn, ynghyd â gweithgareddau cymdeithasol ac achlysuron gwerthfawrogi blynyddol
Darllenwch ragor am y cymorth a’r buddion yma.

“Rydyn ni’n teimlo bod y cymorth sydd ei angen arnon ni bob amser yno, o fore gwyn tan nos. Rydyn ni wedi maethu gyda RhCT ers 9 mlynedd. Dydyn ni ddim yn difaru trosglwyddo o’r asiantaeth, dyna oedd y dewis iawn i ni. Bydden ni wir yn argymell bod pawb yn maethu gydag Awdurdod Lleol RhCT.”
Amanda, RhCT gofalwr maeth awdurdod lleol

sut i drosglwyddo i ni
Mae’r broses drosglwyddo yn eithaf syml i symud o’ch asiantaeth faethu bresennol i’r awdurdod lleol. O’n sgwrs gychwynnol, byddwn ni’n siarad yn agored am sut y bydd y broses yn gweithio. Gan eich bod chi eisoes yn rhan o’r byd maethu, bydd y broses yn benodol i chi.
Mae nifer o rieni maeth eraill wedi trosglwyddo i Faethu Cymru RhCT eisoes, felly rydyn ni wedi dysgu sut i wneud y broses mor ddidrafferth â phosibl, a byddwch chi’n cael eich cynnwys yn rhan o bethau drwy gydol y broses.
Rydyn ni eisiau gwybod sut i’ch cefnogi chi orau wrth symud ymlaen, gan nodi unrhyw anghenion sydd gyda chi a gwneud yn siŵr ein bod ni’n gwybod popeth amdanoch chi er mwyn pennu pa blant fyddai’n gweddu i chi a’ch teulu.
Mae’r cyfan yn dechrau gyda sgwrs.