ffyrdd o faethu
llety â chymorth
beth yw llety â chymorth i bobl ifainc?
Mae Llety â Chymorth yn gartrefi sy’n croesawu’r rhai sy’n gadael gofal, pobl ifainc mewn gofal, neu blant digartref – yn debyg i gartref pontio rhwng gofal maeth a byw ar eu pen eu hunain. Mae yna bobl ifainc sydd efallai ddim yn barod i fyw ar eu pennau eu hunain ac sydd angen ychydig o arweiniad a chymorth.
Yn aml, dim ond lle cefnogol sydd ei angen arnynt i’w alw’n gartref wrth iddynt ddysgu byw’n annibynnol.
Mae’r person ifanc yn byw gyda chi yn eich cartref, ac mae’n talu rhent o’i arian ei hun. A chithau’n landlord, telir rhent i chi i ddarparu ystafell a phrydau i’r person ifanc yn eich gofal. Byddwch chi’n cael eich annog i fod yn ffrind iddyn nhw a’u helpu i ddysgu sgiliau a fydd yn eu paratoi ar gyfer byw’n annibynnol. Mae’r rhan fwyaf o bobl ifainc yn aros am tua 6-12 mis cyn symud ymlaen, ond mae modd i hyn amrywio.

pwy sy'n cael byw mewn llety â chymorth?
Dyma’r math o bobl ifainc y mae modd iddyn nhw gael Llety â Chymorth:
- Digartref, 16 neu 17 oed
- Dal yn derbyn gofal, 16 neu 17 oed
- Person sy’n gadael gofal, 16 – 21 oed.
Mae’r cynllun yn cael ei hwyluso gan y Tîm 16+ yn y Gwasanaethau Plant.
Os ydych chi’n rhiant maeth i berson ifanc, ac mae’r ddau ohonoch chi’n dymuno i’r plentyn aros yn eich gofal pan fydd yn cyrraedd 18 oed, mae cyfle i droi’r lleoliad yn llety â chymorth.

alla i fod yn landlord?
Mae landlordiaid, fel rhieni maeth, i gyd yn wahanol!
Does dim ots os ydych chi’n sengl, yn byw gyda phartner neu os oes plant yn byw gyda chi. Does dim ots chwaith beth yw eich oedran, eich rhywioldeb, rhyw, statws priodasol neu ethnigrwydd. Rydyn ni ond yn gofyn ei bod hi’n bwysig eich bod chi’n:
- hoffi pobl ifainc
- eisiau helpu pobl ifainc i ddysgu sut i ymdopi â byw ar eu pen eu hunain
- yn gallu bod yn ffrind iddyn nhw, os bydden nhw’n gadael i chi wneud hynny.
Bydd angen i bob landlord gael ei gymeradwyo gan yr awdurdod lleol.
Bydd hyn yn cynnwys cael gwiriadau meddygol a Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, yn ogystal â chael eu cymeradwyo gan ein carfan.

lleoliadau llety â chymorth
Mae lleoliadau llety â chymorth ar gael ar hyd a lled Rhondda Cynon Taf.
Os byddwch yn penderfynu yr hoffech wybod mwy, byddwn yn trefnu ymweliad cychwynnol â’ch cartref, i wneud yn siŵr ei fod yn gartref addas i berson ifanc ei rentu. Yna byddwn yn cysylltu â chi pan fydd gennym berson ifanc i letya gyda chi

ar gyfer pwy y dylwn i ddarparu cartref, ac a allaf osod rheolau fy nhŷ fy hun?
Y meini prawf ar gyfer lleoli pobl ifainc mewn llety â chymorth yw:
- eu bod nhw eisiau bod yno
- eu bod nhw mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant
- bod yn ddigon aeddfed i fyw yn nhŷ rhywun arall a pharchu eu barn.
Rydyn ni yn eich annog i fod yn agored ac yn onest ynghylch rheolau’r tŷ o’r cychwyn cyntaf. Eich cyfrifoldeb chi fydd trafod pethau a all fod yn bwysig i chi yn y tŷ, megis: ysmygu, cariad yn aros draw, coginio, glanhau, aros allan yn hwyr ac ati.
Bydd cyfarfodydd rheolaidd, cyfeillgar gyda’ch gweithwyr cymdeithasol trwy gydol arhosiad y lletywyr. Mae hyn er mwyn gwirio bod pethau’n mynd yn dda i bob parti, i wirio sut mae pawb yn dod ymlaen, a hefyd i gynllunio ar gyfer pryd y bydd eich lletywr yn symud allan.

faint o rent fydda i'n ei dderbyn fel landlord?
Bydd swm y rhent a delir i chi yn amrywio ac yn cael ei drafod fesul achos cyn i’r person ifanc symud i mewn.
Bydd y person ifanc yn talu rhent yn uniongyrchol i chi. Byddan nhw’n gallu fforddio hyn oherwydd byddan nhw’n cael eu talu os ydyn nhw ar gynllun hyfforddi, mewn cyflogaeth, neu os oes ganddyn nhw lwfans wythnosol fel rhywun sy’n gadael gofal.
Bydd eich taliadau’n cynnwys rhent a bwyd, mae hyn yn golygu y byddwch chi, y landlord, yn darparu’r holl brydau bwyd. Bydd y rhain yn cael eu cyllidebu ar eu cyfer yn y rhent y cytunwyd arno.
Pe hoffech chi drafod y mater o dalu ymhellach, mae croeso i chi gysylltu â ni.

beth os nad yw'n gweithio allan, neu beth os nad yw i mi?
Mae’n arferol i rai pethau fynd o chwith ar y dechrau, ac weithiau mae lleoliadau’n methu. Mae gennych chi’r hawl i benderfynu bod angen i berson ifanc adael eich cartref, ond rydyn ni’n gofyn i chi roi gwybod i ni a rhoi cymaint o rybudd â phosibl fel bod modd i ni roi cynllun ar waith ar gyfer y person ifanc.
Rydyn ni’n gwybod ei fod ddim yn addas i bawb, felly mae hynny’n iawn!
Efallai yr hoffech chi ystyried gofal maeth llawn yn lle hynny? Cysylltwch â ni i drafod eich opsiynau.
Dydy rhannu cartref rhywun arall ddim wedi bod yn hawdd bob amser, ond roedd fy landlord yn gyfeillgar iawn, ac rydw i wedi magu llawer mwy o hyder.
Rydw i’n hoffi dod adref a chael rhywun i siarad â nhw am fy niwrnod, ac mae’n braf bod fy ffrindiau’n gallu ymweld.
Rydw i’n sylweddoli nawr fyddwn i ddim wedi ymdopi â byw ar fy mhen fy hun a dechrau yn y coleg – mae’n braf bod fel y myfyrwyr eraill sy’n byw mewn cartref teuluol, ond yn cael fy annibyniaeth hefyd.