sut mae'n gweithio

sut mae’n gweithio

Dydy gofal maeth ddim yn rhywbeth rydych chi’n ei wneud ar eich pen eich hun. Mae ein teuluoedd maeth anhygoel wrth galon yr hyn rydyn ni’n ei wneud, ond mae cymaint mwy i hyn. Rydyn ni’n fwy cysylltiedig nag yr ydych chi’n ei feddwl.

Mae maethu yn Rhondda Cynon Taf yn golygu gweithio gyda rhwydwaith pwrpasol o unigolion sydd wedi’u hyfforddi’n fedrus. Mae’n golygu cael cefnogaeth broffesiynol, rhannu gwybodaeth a chefnogaeth bedair awr ar hugain y dydd. Ble bynnag a sut bynnag y bydd angen hynny arnoch chi.

Family having fun all together, teenage son and adult female high five across table

gwell gyda’n gilydd

Rydyn ni’n gallu cynnig pecyn mor drawiadol o gefnogaeth a manteision am ein bod ni’n rhan o Maethu Cymru: sefydliad cenedlaethol sy’n cynnwys pob Awdurdod Lleol yng Nghymru. Rydyn ni i gyd yn gweithio gyda’n gilydd, ac rydyn ni i gyd yn sefydliadau nid-er-elw.

Mae popeth sydd gennyn ni, a’r holl gyllid rydyn ni’n ei dderbyn, yn mynd yn ôl i’r gwasanaeth rydyn ni’n ei ddarparu. Dyma sy’n ein gwneud ni’n unigryw, a beth sy’n ein galluogi ni i wneud ein gorau glas dros blant lleol.

Everyone in the family is outside having fun

beth sy'n ein gwneud ni'n wahanol?

Rydyn ni’n wahanol i’ch asiantaeth faethu gyffredin. Mae Maethu Cymru Rhondda Cynon Taf yn rhan o rwydwaith cenedlaethol – ond rydyn ni’n lleol hefyd. Mae ein tîm ymroddedig yn cynnwys pobl sy’n rhan o’r gymuned yma yn Rhondda Cynon Taf. Rydyn ni yma, ac rydyn ni’n malio.

Rydyn ni bob amser yn blaenoriaethu cynnal y cyswllt a’r cysylltiadau pwysig sydd gan blant â’r ardaloedd maen nhw’n eu hadnabod ac yn eu caru – pan mae’n iawn i wneud hynny. Mae hyn yn ein gwneud ni’n unigryw.

Rydyn ni’n edrych ar y darlun cyfan: beth sy’n bwysig iddyn nhw, a beth fydd yn helpu i gynnal eu synnwyr o berthyn a’u ‘hunaniaeth’. Mae’n ymwneud â deall, gofalu a gwneud yr hyn sydd orau i bob plentyn unigol. Mae’n ymwneud â rhoi pobl o flaen elw.

dysgwch mwy am maethu cymru rhondda cynon taf


cysylltwch

  • Nodwch eich cyngor lleol
  • Cyngor Rhondda Cynon Taf yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.