ffyrdd o faethu yn rhondda cynon taf
mathau o faethu
mathau o ofal maeth yn rhondda cynon taf
Yn ei hanfod, mae gofal maeth yn golygu darparu ystafell sbâr i blentyn sydd ei hangen. Mae’r ystafell hon yn llawer mwy nag ystafell sbâr – mae’n rhywle diogel, rhywle i ddysgu a rhywle i gael hwyl.
Mae llawer o wahanol fathau o ofal maeth, ond mae pwrpas pob un yr un peth. Mae’n ymwneud â theimlo’n gartrefol, gyda theulu cefnogol.
Gall maethu fod yn unrhyw beth o aros dros nos neu seibiant byr, i rywbeth mwy hirdymor. Mae pob plentyn yn wahanol a bydd angen gofal maeth gwahanol ar bob un. Dyna pam does na ddim y fath beth â theulu maeth nodweddiadol yn Rhondda Cynon Taf.
gofal maeth tymor byr
Does dim llinell amser benodol ar gyfer gofal maeth tymor byr. Yn y bôn, mae’n golygu bod y cynlluniau ar gyfer plentyn yn dal i gael eu hystyried. Felly, o ran y gofal rydych chi’n ei ddarparu, gallai fod am awr, am ddiwrnod, am fis neu am flwyddyn!
Fel gofalwr maeth tymor byr, rydych chi’n gweithio’n agos gyda ni wrth i ni sicrhau’r ‘tymor hir’ (sydd weithiau’n cael ei alw’n sefydlogrwydd). Mae hyn yn golygu eich bod chi yno am gyhyd ag sydd angen, gan gynnig cefnogaeth a chariad. Rydych chi hefyd yno pan fydd hi’n amser i helpu’r plentyn i symud ymlaen – at ei deulu, at deulu maeth arall neu i gael ei fabwysiadu. Chi yw’r bont i’r cam nesaf hollbwysig hwn.
Felly, dydy seibiant byr ddim yn golygu effaith fach. Yn aml, y mathau hyn o leoliadau yw’r cam cadarnhaol cyntaf mewn taith hirach – un sy’n wahanol i bob plentyn yn ein gofal, ac i bob gofalwr maeth hefyd.
gofal maeth tymor hir
Mae llawer o feddwl a gofal yn mynd i baru pawb, yn enwedig gyda gofal maeth tymor hir. Mae hyn oherwydd bod y math yma o ofal yn ymwneud â darparu sefydlogrwydd. Mae’n hanfodol ein bod yn dod o hyd i’r teulu maeth cywir ar gyfer pob un plentyn – ac mae angen rhywbeth unigryw ar bob un ohonyn nhw.
Dyna lle gallwch chi helpu. Fel gofalwr maeth tymor hir, rydych chi’n darparu amgylchedd saff a lle diogel. I blentyn, mae’n golygu teulu maeth sefydlog am oes.
mathau arbenigol o ofal maeth
Mae’r holl fathau arbenigol o ofal maeth sydd gennyn ni yma yn Rhondda Cynon Taf yn dod o dan benawdau tymor byr a thymor hir, er bod angen math penodol o gymeradwyaeth ar rai. Maen nhw’n cynnwys:
gofal cefnogi
Mae gofal cymorth yn cynnig seibiant bach i blentyn sydd ei angen fwyaf. Nid yw wedi’i ddiffinio gan hyd penodol o amser, ond gallai fod yn seibiant byr am noson, penwythnos neu hyd yn oed ychydig oriau yn unig.
Mae gofal cymorth yn cael ei gynllunio ymlaen llaw lle bo modd ac yn cynnig cyfleoedd newydd gwych i blentyn brofi teulu a chartref gwahanol, gan helpu i adeiladu atgofion newydd iddynt, a chael oedolyn dibynadwy ychwanegol.
Yn aml, mae gofalwyr maeth cymorth yn dod yn estyniad o deulu. Mae’n ddelfrydol ar gyfer pobl a allai fod â rhwymedigaethau eraill gyda gwaith neu deulu, ond sydd eisiau bod yn rhan o’r cylch ehangach o gymorth a chariad sydd ar gael o amgylch plentyn.
rhiant a phlentyn
Efallai na fydd rhai rhieni’n barod i wynebu’r byd ar eu pen eu hunain, a dyna lle gall maethu rhiant a phlentyn helpu.
Gyda lleoliadau rhiant a phlentyn, rydych chi’n camu i mewn i gynnig profiad gwerthfawr – profiad magu plant a phrofiad bywyd yn gyffredinol. Rydych chi’n rhannu eich doethineb ac yn cynnig cefnogaeth, er mwyn i’r rhieni hyn allu gwneud yr un fath ymhen amser. Mae’n ymwneud â’u helpu i fagu hyder a datblygu sgiliau ar gyfer y dyfodol.
Darllenwch fwy: maethu rhiant a phlentyn yn rhondda cynon taf
gofal therapiwtig
Mae gennyn ni rai plant yn ein gofal sydd ag anghenion emosiynol neu ymddygiadol mwy cymhleth. Gall hyn olygu bod angen math gwahanol o ofal arnyn nhw, a dyna lle mae lleoliadau therapiwtig yn helpu.
Mae cefnogaeth ychwanegol a hyfforddiant arbenigol ar gael ar gyfer gofalwyr therapiwtig yn rhondda cynon taf, er mwyn eu helpu i ddiwallu anghenion unigol pob plentyn yn eu gofal.