sut rydyn ni’n eich cefnogi chi ym Rhondda Cynon Taf
cefnogaeth a lwfans
sut rydyn ni’n eich cefnogi chi
Rydyn ni yma i’ch cefnogi chi. Mae hynny’n golygu y byddwn ni’n gwneud ein gorau glas i’ch helpu i roi cartref sefydlog a chariadus i blentyn maeth.
Hyd yn oed cyn i blentyn gyrraedd, mae Maethu Cymru Ceredigion yn darparu arweiniad a hyfforddiant manwl i wneud yn siŵr bod maethu yn addas i chi a’ch teulu. Ond dyw’r cymorth ddim yn dod i ben yno.
Unwaith eich bod yn maethu plentyn, rydyn ni’n cynnig:
- cefnogaeth a goruchwyliaeth gan weithiwr cymdeithasol ymroddedig
- tâl maethu i dalu costau byw hanfodol
- cymuned o deuluoedd maeth lleol sy’n gallu rhannu profiadau
- cyfeillgarwch a digwyddiadau cymdeithasol
- a llawer mwy o fuddion.
Mae’n bwysig ystyried yr holl fuddion lleol er mwyn cael gwell dealltwriaeth, cyn cymharu taliadau gofalwyr maeth.
Darllenwch ymlaen i ddysgu mwy am y cymorth maethu a’r gwobrau rydyn ni’n eu cynnig.
lwfans gofal maeth
ydy gofalwyr maeth yn cael eu talu?
Ydyn, mae gofalwyr maeth yn derbyn taliad i dalu costau gofalu am blentyn. Bydd y swm hwn yn amrywio ar sail sawl ffactor, gan gynnwys
- faint o blant rydych chi’n eu maethu
- oedran y plant
- ac ers pryd rydych chi wedi bod yn maethu
Fodd bynnag, dyw bod yn ofalwr maeth ddim yn swydd gonfensiynol. Nid yw’n ffitio mewn bocs. Mae’n alwedigaeth fedrus 24-7 gartref rydyn ni’n eich cefnogi’n ariannol i’w gwneud.
Yn Maethu Cymru mae’n bwysig i ni bod plant yn cael popeth sydd ei angen arnyn nhw i ffynnu, felly rydyn ni’n rhannu’r taliad yn 3 ran: y lwfans plant wythnosol + ffi’r gofalwr + taliadau ychwanegol.
lwfans plentyn
ffi gofalwr maeth
taliadau ychwanegol
ein hymrwymiad i chi
Mae pob Awdurdod Lleol yng Nghymru wedi cytuno i'r hyn rydyn ni'n ei alw'n 'Ymrwymiad Cenedlaethol'. Mae hwn yn becyn y cytunwyd arno o hyfforddiant, cefnogaeth a gwobrau sy'n cael ei fwynhau gan bob un o'n gofalwyr maeth yng Nghymru.
eich tîm maethu lleol yn RCT
Mae tîm Maethu Cymru Rhondda Cynon Taf yn cydweithio â gweithwyr cymdeithasol, athrawon, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a phawb sy’n ymwneud â gofal plant. Rydyn ni’n un tîm, oherwydd ein bod ni i gyd yn rhan o’r Awdurdod Lleol.
Rydych chi’n rhan ganolog o’r tîm hwn, ac oherwydd hyn byddwch chi bob amser yn cael eich cynnwys, eich gwerthfawrogi a’ch parchu ym mhopeth rydyn ni’n ei wneud – ac yn y ffordd rydyn ni’n symud ymlaen.
Mae ymuno â’n tîm yn golygu ymuno â’r rheini sy’n bennaf gyfrifol am bob plentyn sy’n derbyn gofal yng Nghymru. Mae hefyd yn golygu rhoi’r pethau sy’n bwysig yn gyntaf, oherwydd rydyn ni’n falch o ddweud mai pobl, dim elw, sy’n bwysig i ni. Yn wahanol i asiantaethau maethu eraill, byddwn bob amser yn helpu plant i aros yn eu hardal leol pan mai hynny sydd orau iddyn nhw. Dyna sy’n gwneud y tîm hwn yn
unigryw.
gweithiwr cymdeithasol maethu ymroddedig
Bydd gennych dîm wrth eich ymyl, yn eich cefnogi ac yn eich annog bob dydd. Bydd gennych weithwyr cymdeithasol proffesiynol medrus a phrofiadol wrth law, gydag aelod o’r tîm maethu sy’n ymroddedig i’ch cefnogi chi, eich teulu a’ch rhwydwaith.
Mae eich tîm Maeth Cymru yn rhan o’r awdurdod lleol, gan weithio ochr yn ochr â gweithiwr cymdeithasol y plentyn. Mae hyn yn golygu mynediad at wybodaeth am y plentyn ac adrannau gwasanaethau cymdeithasol eraill a chysylltiadau gwaith agosach â gweithwyr cymdeithasol plant.
cefnogaeth gan gymheiriaid a meithrin cymuned
Byddwch hefyd yn cael eich gwahodd i ddigwyddiadau a gweithgareddau i ddod â chi’n agosach at deuluoedd maeth eraill. I roi profiadau newydd, cyfeillgarwch newydd, ac atgofion newydd i chi. Bydd gofalwyr maeth arloesol profiadol yn eich cefnogi chi.
Mae ymuno â Maethu Cymru RhCT yn golygu y byddwch yn derbyn aelodaeth yn awtomatig i’r Rhwydwaith Maethu (TFN) a Chymdeithas Maethu a Mabwysiadu (AFA) Cymru. Credwn fod y sefydliadau maethu arbenigol hyn yn cynnig y math cywir o gyngor, cefnogaeth, arweiniad ac ystod eang o fanteision eraill.
cyfleoedd dysgu
Mae’r adnoddau a’r cyfleoedd datblygu yn rhan o’r gwasanaethau craidd rydyn ni’n eu cynnig, oherwydd mae eich helpu chi i dyfu’n bwysig i ni. Mae ein fframwaith dysgu a datblygu wedi’i brofi, wedi’i ddatblygu gyda gofalwyr maeth ac yn gyson ledled Cymru.
Rydyn ni’n darparu popeth sydd ei angen arnoch er mwyn diwallu anghenion y plant yn eich gofal yn llawn: cyfleoedd hyfforddi, arbenigedd ein tîm, a chefnogaeth ddydd a nos. Mae’n ymwneud â gwneud yn siŵr eich bod yn hyderus ac yn abl.
Rydyn ni’n cadw cofnod o’ch taith unigol gyda chofnod dysgu personol a chynllun datblygu sy’n unigryw i chi. Mae’r cynllun hwn yn cydnabod yr holl sgiliau a phrofiadau trosglwyddadwy gwerthfawr a oedd gennych chi pan ddaethoch chi aton ni, ac mae’n cynllunio sut gallwn ni adeiladu ar y rhain. Mae’n ffordd o gadw golwg ar yr holl gynnydd rydych chi’n ei wneud, yn ogystal â chynllunio ar gyfer y dyfodol.
mwy o gwestiynau am gymorth ariannol?
Byddwn yn rhannu ac yn esbonio'r holl gymorth y gallwch ei gael. I gael dadansoddiad llawn o'r lwfansau maethu lleol a'r cymorth ariannol yr ydym yn ei gynnig, gofynnwch am becyn gwybodaeth.