stori

annabelle a jason

Mae gan y cwpl ifanc, Annabelle a Jason, blant ifanc eu hunain, ac maen nhw hefyd yn maethu plant o ardal leol yn y Rhondda.

y teulu maeth

Roedd Annabelle a Jason yn teimlo bod ganddyn nhw fywyd braf iawn ac roedden nhw eisiau ei rannu ag eraill, drwy faethu. Ar ôl i ffrindiau argymell cysylltu â’n tîm yn Rhondda Cynon Taf gawson nhw eu synnu gan faint o opsiynau oedd ar gael.

“Roedden ni wedi tybio y byddai gennym blant yma’n byw gyda ni am amser hir. Dim ond ar ôl i’n tîm maethu ddweud wrthyn ni am ofal tymor byr y gwnaethon ni feddwl y gallai hynny fod yn opsiwn gwell i ni.”

Mae’r cwpl bellach wedi bod yn maethu ers tair blynedd, ac wedi dechrau gofalu am nifer o blant yn y tymor byr – a oedd i gyd yn rhoi boddhad mewn gwahanol ffyrdd.

“Rydyn ni wedi cael cwpl o blant yn aros gyda ni am ofal dydd neu yn y tymor byr. Rydyn ni hefyd wedi cael mam ifanc a’i babi newydd-anedig yn aros gyda ni am ychydig fisoedd. Roedd hynny’n anodd ond roedd yn anhygoel hefyd.”

“mae maethu wedi ein helpu i fod yn rhieni gwell”

Yn ogystal â’r boddhad o weld y gwahaniaeth maen nhw’n ei wneud, mae Annabelle a Jason hefyd yn trysori’r holl sgiliau a’r profiadau newydd maen nhw wedi’u meithrin drwy faethu.

“Rhoddodd ein tîm maethu hyfforddiant arbenigol i ni cyn y lleoliad sydd wedi ein helpu i fod yn rhieni gwell yn gyffredinol. Mae ein gweithiwr cymdeithasol yno bob amser pan fydd ei hangen arnom ni; mae fel cael yr hyfforddiant magu plant gorau drwy’r amser!”

“y cyfan rydyn ni eisiau yw rhoi cyfle iddo fod yn hapus”

Ar hyn o bryd mae Jason ac Annabelle yn gofalu am fachgen ifanc sy’n aros gyda nhw yn y tymor hir. Mae’n gweld ei fam unwaith yr wythnos ac mae’r cwpl yn gwybod pa mor bwysig yw’r berthynas honno i bawb. 

Gyda’i gilydd, maen nhw i gyd yn gweithio fel un teulu estynedig. Yn y pen draw, mae’n ymwneud â gwneud yn siŵr bod y plentyn yn ddiogel ac yn fodlon, mewn cartref cynnes a chariadus.

“Y cyfan rydyn ni eisiau yw rhoi cyfle iddo fod yn hapus a chael plentyndod hapus. Dyna beth yw maethu, rwy’n meddwl.”

hoffech chi ddechrau eich stori faethu eich hun?

Os yw darllen stori Annabelle a Jason wedi gwneud i chi feddwl mwy am faethu, beth am gysylltu â’n tîm heddiw. Rydyn ni’n fwy na pharod i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi, neu i’ch helpu chi i ddechrau’r broses o ddod yn ofalwr maeth eich hun. Cysylltwch â ni heddiw.

hoffech chi ddysgu mwy?

Rhagor o wybodaeth am faethu a beth allai ei olygu i chi.

Mae ein llwyddiannau maethu yn seiliedig ar brofiadau bywyd go iawn Gofalwyr Maeth Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Er mwyn diogelu eu preifatrwydd, a phreifatrwydd y plant a’r bobl ifanc y maent yn darparu gofal, cariad a chefnogaeth iddynt, mae’r holl enwau wedi’u newid ac mae actorion wedi camu i mewn i’n helpu i adrodd eu straeon anhygoel.

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn

dod yn ofalwr maeth

cysylltwch

  • Nodwch eich cyngor lleol
  • Cyngor Rhondda Cynon Taf yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.