stori

stori maethu kayleigh

Dyma stori maethu Kayleigh. Diolch am rannu dy stori gyda ni.   

beth ddigwyddodd pan es i mewn i’r system gofal??

“Cefais fy mhrofiad cyntaf o’r system ofal pan oeddwn i’n 6 a hanner oed. Rwy’n cofio’r diwrnod pan ddaeth swyddogion yr heddlu er mwyn mynd â fi i’r orsaf yn glir, roedd rhaid i fi aros yno nes bod cartref maeth ar gael. Roeddwn i’n teimlo’n ofnus i ddechrau, ond cyn gynted ag y gwelais fy rhieni maeth, Pat a Stuart, roeddwn i’n teimlo’n gartrefol ar unwaith.

Roeddwn i allan ar y stryd yn chwarae gydag un o’m ffrindiau a oedd yn byw ar yr un stryd â fi ar y noson pan es i i fy nghartref gofal maeth. Rydw i’n cofio clywed sŵn o’r tŷ ac yna car yr heddlu yn gyrru lawr y stryd. Roedd fy mam wedi rhoi rhywfaint o fy nillad i mewn i fag du ac i mewn i gar yr heddlu. Cefais i fy nghymryd i ffwrdd wedyn.

Doedd gen i ddim syniad beth oedd yn digwydd, roedd hi’n eithaf brawychus cael fy nhynnu oddi wrth fy mam heb wybod pam. Roedd swyddog yr heddlu yn gweld bod gen i ofn ac felly fe geisiodd wneud i fi deimlo’n well drwy fflachio’r goleuadau glas i mi. Roeddwn i’n meddwl bod hyn yn eithaf cŵl.

Pan gyrhaeddais i’r orsaf heddlu roeddwn i’n eistedd mewn ystafell yn aros. Doeddwn i ddim yn siŵr am beth roeddwn i’n aros, ond roedd swyddog yr heddlu wedi tawelu fy meddwl a dweud y byddai popeth yn iawn. Prynodd e KitKat i fi hefyd (yr un mawr) – roeddwn i wrth fy modd.

Ar ôl bod yn yr orsaf heddlu am oddeutu awr, daeth dau berson i mewn i’r ystafell a gofyn i fi amdanaf fi fy hun. Cefais wybod wedyn y byddwn i’n mynd adref gyda’r bobl yma am 1 noson wrth iddyn nhw ddod i hyd i leoliad mwy addas.

sut brofiad oedd byw gyda phobl ddieithr yn sydyn

Yn y car ar fy ffordd i gartref Pat a Stuart, roedd Stuart yn dweud jôcs drwy’r amser i wneud i fi deimlo’n well, roedden nhw’n gallu gweld bod gen i ofn. Ar ôl cyrraedd y tŷ, aethon nhw a fi mewn a dangos y tŷ i fi, a chefais weld fy stafell wely – roedd e’n binc gyda llenni a dillad gwely a oedd yn cydfynd â’i gilydd. Y bore wedyn, aeth Pat â fi i Asda i brynu dillad newydd i fi a gŵn tŷ newydd hefyd (gan fod fy rhai i’n fudr ac yn frwnt).

Yn ystod yr amser yr oeddwn i gyda Pat a Stuart, roeddwn i bob amser yn teimlo’n gartrefol. Roedd hi mor frawychus cael fy nghymryd oddi wrth fy mam a mynd i fyw gyda dieithriaid heb wybod pam, ond roedden nhw bob amser yn gwneud i fi deimlo’n ddiogel – ac roedd Stuart bob amser yn gwneud i fi chwerthin gyda’i jôcs ofnadwy.

Dim ond am un noson roeddwn i fod i aros gyda Pat a Stuart wrth iddyn nhw ddod i hyd i leoliad hir dymor. Roedd hyn oherwydd eu bod nhw’n rhieni maeth tymor byr, ac nid rhieni maeth tymor hir…17 mlynedd yn ddiweddarach a dydy Pat ddim yn gallu cael gwared arna i!

Cafodd fy mrawd ei roi mewn cartref gofal maeth hefyd ychydig fisoedd cyn fi – roedd yn byw gyda’i rieni maeth rhywle arall ond byddai’n dod i fy ngweld i’n aml yn nhŷ Pat a Stuart a byddai’n aros am y penwythnos o bryd i’w gilydd.

Roedd rhai problemau gyda’i leoliad maeth ac roedd Pat a Stuart yn gallu gweld pa mor agos oedden ni, ac yn casáu ein gweld ni’n dweud ffarwel ar ôl pob ymweliad. Gan fod gan Pat a Stuart ystafell sbâr, gofynnodd y Gwasanaethau i Blant a fyddai modd iddyn nhw roi gofal maeth iddo fe hefyd.

Roedd hyn yn gwneud i mi deimlo’n llawer gwell am fod i ffwrdd oddi wrth fy mam. Roeddwn i a fy mrawd yn agos iawn pan oedden ni’n byw gyda’n rhieni ac yna hyd yn oed yn fwy agos pan ddaeth i fyw gyda fi yn nhŷ Pat a Stuart.

Aeth Pat a Stuart â ni ar wyliau’n aml, aethon ni i America ddwywaith, roedd gyda ni garafán yn Sbaen lle bydden ni’n aros drwy gydol gwyliau’r haf, ac roedd gyda ni garafán yn Ninbych-y-pysgod hefyd. Roedden ni’n cael ein cynnwys mewn achlysuron gyda’r teulu, penblwyddi a phriodasau.

Yn anffodus, wrth i fy mrawd fynd yn hŷn, roedd pethau’n anoddach a doedden nhw ddim yn gweithio mwyach. Rwy’n credu taw 15 oed oedd e pan adawodd dŷ Pat a Stuart a mynd i fyw gyda rhieni maeth arall. Roeddwn i mor ddigalon wrth ddweud ffarwel wrth fy mrawd, ond roeddwn i’n gwybod taw dyma oedd y peth gorau. Gan ddweud hynny, roeddwn i’n dal i’w weld yn yr ysgol ac yn rheolaidd ar benwythnosau.

Dydy cael eich cymryd i ffwrdd o’ch mam ar unrhyw oedran ddim yn hawdd, ond yn enwedig gan ystyried pa mor ifanc oeddwn i. Fodd bynnag, roeddwn i mor ffodus i gael fy magu gan y teulu mwyaf anhygoel. Byddai Pat a Stuart yn siarad gyda fi am fy rhieni’n aml ac yn rhannu’r newyddion diweddaraf amdanyn nhw wrth i fi dyfu. Fodd bynnag, wrth i fi fynd yn hŷn, penderfynais i dorri cysylltiad â’m rhieni biolegol.

gall rhieni maeth chwarae rôl bwysig drwy gydol dy fywyd – nid dim ond pan rwyt ti’n blentyn sy’n derbyn gofal maeth

Roedd Pat a Stuart yno i fi trwy bopeth. Ynghyd â’u teulu, bydden nhw’n fy helpu i wrth adolygu ar gyfer fy arholiadau, gwneud cais am le yn y coleg a chyflwyno cais am swyddi.

Pan gefais fy nghanlyniadau TGAU, dywedodd Pat a Stuart pa mor falch oedden nhw ohonof fi, ac aethon nhw a fi allan am fwyd mewn bwyty Eidalaidd.

Doedd pethau ddim yn hawdd bob amser. Bydden ni’n anghytuno’n aml, ond roedden nhw’n fy nghefnogi ac yn fy helpu bob amser, yn enwedig pan wnes i gais am hyfforddeiaeth gyda Chyngor RhCT. Mae gen i swydd llawn amser gyda’r Cyngor erbyn hyn.

Pan oeddwn i’n 20 oed, penderfynais i a’m cariad ein bod ni’n barod i symud i mewn gyda’n gilydd a rhentu tŷ. Roedd Pat a Stuart yn gefnogol iawn o hyn ac wedi fy helpu i bacio fy stafell a symud yr holl ddodrefn i’r tŷ newydd. Symudon ni yn ystod Tachwedd 2017 ond roedden ni’n dychwelyd i dŷ Pat a Stuart yn aml ar ddydd Sul i ymuno â’r teulu am ginio dydd Sul.

Ym mis Awst 2018, darganfyddais i fy mod i’n feichiog, ond doedd pethau rhyngof fi a thad y babi ddim yn wych a byddai Pat a Stuart bob amser yn cadw mewn cysylltiad â fi i wneud yn siŵr fy mod i’n iawn. Penderfynais i a fy nghariad orffen ein perthynas ddiwedd Medi 2018. Roedd Pat yn cadw mewn cysylltiad â fi bob dydd trwy gydol y cyfnod yma. Roedd hi’n gwybod fy mod i bellach yn byw ar fy mhen fy hun, yn bell oddi wrth y teulu.

Aethon ni i siopa un diwrnod ac fe brynodd Pat ddillad mamolaeth i fi. Aethon ni yn ôl i dŷ Pat a Stuart am baned o de ac awgrymodd Stuart efallai y byddai’n well i fi pe bawn i’n dod yn ôl i fyw gyda nhw. Gyrrodd Stuart gyda fi yn ôl i fy nhŷ i gasglu fy nghath er mwyn i ni aros gyda nhw’r noson honno. Ym mis Hydref 2018, fe wnes i ddychwelyd adref. Helpodd teulu Pat a Stuart fi i bacio’r tŷ.

Ar 25 Mawrth 2019, cafodd Stuart ei gymryd i’r adran damweiniau ac achosion brys gan ei fod yn profi poen yn ei gefn a’i goesau. Arhosodd yn yr ysbyty am dros wythnos a byddwn i’n ymweld ag ef bob dydd ar ôl y gwaith. Yn anffodus, ar 2 Ebrill 2019 bu farw, gyda fi a fy nheulu wrth ei wely. Dyma oedd amser anoddaf fy mywyd gan fy mod i’n ystyried Stuart yn dad, tad-cu, athro a ffrind gorau i fi.

Erbyn y cyfnod yma, roeddwn i bron wedi cyrraedd tymor llawn fy meichiogrwydd. Bu farw Stuart ar 2 Ebrill a chafodd Tommy ei eni ar 20 Ebrill.

Roedd Pat a Stuart wedi trefnu gwyliau i America (cyn iddyn nhw gael gwybod fy mod i’n feichiog) gyda’u merch ganol a’i phlant hi, a phenderfynodd Pat a’i merch barhau â’r gwyliau. Roeddwn i 40 wythnos yn feichiog erbyn hyn ac roedd Pat yn poeni am y ffaith fy mod i gartref ar fy mhen fy hun, felly gofynnodd merch ieuengaf Pat, Sarah, os oeddwn i eisiau aros gyda hi tra roedd Pat i ffwrdd. Aeth Pat i America ar 19 Ebrill a symudais i mewn gyda Sarah yr un diwrnod. Ar 20 Ebrill, cafodd Tommy ei eni. Sarah oedd fy mhartner geni. Anfonon ni neges at Pat yn America i roi gwybod iddyn nhw am y newyddion.

Rydw i dal i weithio’n llawn amser i Gyngor RhCT ac yn fam sengl llawn amser i fy mab hardd, Tommy. Tommy yw fy myd a dydw i ddim yn gallu dychmygu bywyd hebddo. Roedd y ffordd gefais i fy magu gan Pat a Stuart, a’u teulu, bendant wedi helpu fy sgiliau rhianta. Mae Pat yn casglu Tommy o’r feithrinfa er mwyn i fi barhau i weithio’n llawn amser. Mae hi’n ei garu’r un fath a’i hwyrion ei hun.

Dros flwyddyn yn ddiweddarach, rwy’n dal i ddisgwyl i Stuart gerdded drwy’r drws gyda’i fag siopa – mae colli Stuart yn rhywbeth fydda i byth yn ei anghofio, ond rwy’n parhau i geisio’i wneud yn falch ohonof fi. Rwy’n gwybod ei fod yn edrych i lawr arnaf i a Tommy, yr un mor falch ag erioed.

Mae Pat yn rhan bwysig iawn o fywyd Tommy,  Gramma ydy hi iddo fe. Mae’n braf, er nad ydw i’n cadw mewn cysylltiad â fy rhieni go iawn, bod dal gan Tommy’r teulu y byddwn i bob amser wedi dymuno ei gael ar gyfer fy mhlentyn. Mae ganddo 3 modryb, 1 ewythr a 4 o gefndryd sy’n ei garu gymaint.

Mae’n gas gen i feddwl sut y byddai fy mywyd wedi bod pe bawn i ddim wedi cael fy rhoi mewn gofal maeth. Dangosodd Pat a Stuart i fi sut y dylai teulu fod. Bod yn fam wych i Tommy yw fy mlaenoriaeth bennaf, ac mae hynny oherwydd y fagwraeth a’r cariad a ddangosodd Pat a Stuart i mi.”

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn

dod yn ofalwr maeth

cysylltwch

  • Nodwch eich cyngor lleol
  • Cyngor Rhondda Cynon Taf yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.