blog

8 camsyniad am bobl ifainc mewn gofal maeth

Rydym wedi siarad â gofalwyr maeth, pobl ifanc a gweithwyr cymdeithasol ar y mythau am bobl ifanc yn eu harddegau mewn gofal maeth. Yn y blog hwn byddwn yn ymdrin â’r pwyntiau canlynol:

  1. Ydy pobl ifainc mewn gofal yn anniolchgar?
  2. Ond dyw pobl ifainc ddim gwir eisiau teulu arall nac ydyn nhw?
  3. Ydy pobl ifainc yn eu harddegau mewn gofal yn waith caled?
  4. Fyddai person ifanc yn ei arddegau yn cyd-fynd yn iawn gyda fy nheulu maeth?
  5. Ydy pob person ifanc mewn gofal yn achosi trwbwl?
  6. Ydy ffoaduriaid yn eu harddegau yn beryglus?
  7. A fydd maethu pobl ifainc yn eu harddegau yn teimlo’n werth chweil?
  8. A fydd pobl ifainc mewn gofal maeth yn gwneud llanast a thorri pethau yn fy nghartref?

Efallai ar ôl darllen, efallai y byddwn yn newid eich meddwl am eich barn am bobl ifanc yn eu harddegau mewn gofal maeth!

1. Ydy pobl ifainc mewn gofal yn anniolchgar?

Weithiau mae’n gallu cymryd amser i blentyn mewn gofal o unrhyw oedran ymgartrefu mewn cartref newydd, ond gall pobl ifainc fod yn gariadus ac yn ddiolchgar iawn. Weithiau, y ffordd orau o feithrin perthynas wych yw darganfod pa hobïau a diddordebau ydych chi’n gallu mwynhau gyda’r arddegau yn eich gofal.

Rhannodd Jo, rhiant maeth awdurdod lleol: “Rydyn ni’n gwylio ffilmiau gyda’n gilydd, yn mynd i siopa, yn mwynhau cerddoriaeth a gigs ac yn mynd am fwyd, sy’n wahanol iawn i’r hyn rydych chi’n ei wneud gyda phlant iau. Mae eu gweld yn datblygu i fod yn oedolion ifainc yn rhoi boddhad mawr”.  Mae hi wedi maethu sawl plentyn yn eu harddegau dros y blynyddoedd ac mae bob amser yn darganfod “pan fyddwch chi’n darganfod y tir niwtral hwnnw, maen nhw’n llawer mwy agored, maen nhw’n sgwrsio, ac maen nhw’n dueddol o ddweud diolch yn llawer mwy aml!”

Buon ni’n siarad ag un o’r bobl ifainc yn ei gofal a ddywedodd: “Rhoddodd fy rhieni maeth ail gyfle i mi i gael bywyd teuluol. Rydw i’n falch o fod yn blentyn maeth iddyn nhw, ac yn ddiolchgar am bopeth y maen nhw wedi’i wneud i mi.”

Teen girl in foster care

Waeth beth fo’n hoedran, rydyn ni i gyd eisiau teimlo bod rhywun yn gofalu amdanon ni. Pan mae rhieni maeth yn cymryd yr amser i ddangos bod ots gyda nhw, ac yn dangos bod y person ifanc yn eu gofal yn bwysig, mae’n gallu gwneud gwahaniaeth enfawr.

2. Ond dyw pobl ifainc ddim gwir eisiau teulu arall nac ydyn nhw?

Efallai fydd hi ddim yn hawdd croesawu pobl ifainc yn eu harddegau i’ch cartref. Ac mae llawer o bobl yn betrusgar am faethu pobl ifainc yn eu harddegau oherwydd eu bod nhw’n credu y bydd yn rhy anodd. Fel y soniwyd eisoes, mae pobl ifainc yn dal i chwilio am yr hyn sydd ei angen ar bob plentyn arall – lle i deimlo eu bod nhw’n perthyn. Lle i deimlo eu bod nhw’n bwysig, a lle maen nhw’n cael eu gwerthfawrogi.

“Wna i byth anghofio’r diwrnod y dywedodd ‘ga’ i aros yma?’ Mae’r teimlad hwnnw mor werthfawr – rydych chi am ei roi mewn potel a’i gadw am byth.”

Fostered teen cutting pizza

Roedd Jeevan a’i wraig Carole yn bryderus i ddechrau pan ddechreuon nhw faethu pobl ifainc. Gan ddefnyddio pizza fel ffordd o chwalu rhwystrau, fe wnaethon nhw annog y person ifanc yn eu gofal i ddysgu sgiliau newydd a dod yn fwy hyderus. “Dw i ddim yn meddwl ei fod wedi cael ei ddysgu sut i goginio unrhyw beth o’r blaen. Fe wnaethon ni gymryd yr amser i’w helpu i ddysgu – gan fod coginio yn rhywbeth rydw i wrth fy modd yn ei wneud beth bynnag – ac mae’n rhaid ei fod wedi gwerthfawrogi hynny’n fawr gan ystyried ei fod eisiau aros!”

Darllenwch ragor yma https://maethucymru.llyw.cymru/llwyddiannau/stori-jeevan-a-carole/

3. Ydy pobl ifainc yn eu harddegau mewn gofal yn waith caled?

Byddai llawer o rieni maeth yn dweud bod maethu pobl ifainc yn eu harddegau yn brofiad gwahanol, yn hytrach nag yn brofiad mwy heriol. Bydd gennych chi fwy o amser rhydd tra byddan nhw yn yr ysgol, maen nhw’n fwy annibynnol, ac yn gallu gofalu amdanyn nhw eu hunain ar lefel ymarferol.

Mae gan bob un o’n rhieni maeth ffyrdd o helpu i leihau straen. Mae Helen yn defnyddio ei chi Bella: “Mae ein ci Bella yn wych yn helpu’r bobl ifainc rydyn ni’n eu maethu. Mae hi’n eu helpu i setlo i mewn, ac mae hi’n bresenoldeb cyfeillgar sydd ddim yn gallu eu barnu!”

Mae’n bosibl bydd eich anifail anwes yn helpu i wneud y broses bontio’n haws i’r person ifanc sy’n symud i mewn. Mae ymchwil wedi’i wneud sy’n awgrymu bod cael anifail anwes mewn teulu maeth o fudd i bawb.

Two teenagers with dog

4. Fyddai person ifanc yn ei arddegau yn cyd-fynd yn iawn gyda fy nheulu maeth?

Mae gyda ni system gadarn o’r enw ‘paru’ [link to matching blog], lle rydyn ni’n edrych ar holl amgylchiadau a nodweddion plant maeth a theuluoedd maeth. Rydyn ni’n gweithio gyda chi i wneud yn siŵr bod y plant rydych chi’n gofalu amdanyn nhw yn cyd-fynd yn dda â chi ac yn ffitio i mewn gyda’ch teulu.

Teen girl and two mums by lake

Mae digon o gyngor, arweiniad a hyfforddiant ar gael gan wasanaethau maethu awdurdodau lleol i’ch paratoi ar gyfer pa bynnag fath o faethu rydych chi’n ei ddewis.

Mae ychydig o amynedd, empathi a dealltwriaeth yn mynd yn bell.

“Dydw i erioed wedi gwybod lle rydw i’n ffitio i mewn, ond mae Jenny a Kate wedi gwneud i mi deimlo’n gartrefol yn eu cartref. Rydw i’n rhan o’u teulu nawr.” – Lilly

5. Ydy pob person ifanc mewn gofal yn achosi trwbwl?

Mae rhai o’n pobl ifainc yn defnyddio ymddygiadau i guddio eu teimladau o boen ac ofn. Ond gyda’r amgylchedd cywir, gwaith meithrin, amynedd a disgwyliadau realistig, bydd llawer o’n pobl ifainc yn mynd ymlaen i gyflawni deilliannau cadarnhaol. Dydy hyn ddim yn hawdd, a byddwch chi ddim yn gweld canlyniadau dros nos, ond gyda chefnogaeth eich Tîm Maethu Cymru lleol mae modd i chi wneud gwahaniaeth enfawr.

“Efallai bod pobl ifainc mewn gofal wedi cael profiadau anodd a bod angen cymorth ychwanegol arnyn nhw i brosesu eu hemosiynau…ond dydyn nhw ddim yn ddrwg nac yn afreolus. Maen nhw angen rhywun i’w caru a’u helpu.” – Kristen Gweithiwr Cymdeithasol Awdurdod Lleol

Teen girl smiling

6. Ydy ffoaduriaid yn eu harddegau yn beryglus?

Mae Mike wedi bod yn maethu ffoaduriaid yng Nghasnewydd ers dros 5 mlynedd. Mae wedi agor ei lygaid i wahanol ddiwylliannau, ffyrdd o fyw…a bwyd! Yn aml, mae ffoaduriaid yn eu harddegau yn gwerthfawrogi’r cartref rydych chi’n ei roi iddyn nhw. Mae eu bywydau cyfan wedi’u dadleoli ac maen nhw mewn gwlad dydyn nhw erioed wedi ymweld â hi o’r blaen mae’n debyg. Mae tosturi yn mynd yn bell iawn.

“Maen nhw wedi dod o deulu sefydlog, cariadus ac yna wedi cael eu byd wedi’i rwygo’n ddarnau yn eu harddegau, felly dydyn nhw ddim o reidrwydd yn cyflwyno’r un problemau [â phlant eraill rydw i wedi’u maethu].

Mae wedi ehangu fy nealltwriaeth o wahanol ddiwylliannau…a gwneud i mi sylweddoli pa mor debyg yw pawb.

Rydw i’n gwybod fy mod i’n gwneud gwahaniaeth. Dwi’n gwybod.”

Two boys on a pitch

Os hoffech chi wylio’r fideo o Mike yn sôn am faethu ffoaduriaid ifanc, mae’r ddolen yma.

7. A fydd maethu pobl ifainc yn eu harddegau yn teimlo’n werth chweil?

Mae maethu pobl ifainc yn eu harddegau yn fath o ofal maeth sy’n rhoi boddhad mawr ac sy’n aml yn cael ei anwybyddu.

Y foment maen nhw’n sylweddoli bod modd iddyn nhw ymddiried ynoch chi. Eu helpu i fagu hyder a gweld hynny’n cael ei adlewyrchu yn eu bywyd bob dydd. Hyd yn oed yr eiliadau bach hynny lle rydych chi’n rhannu gwên neu’n cael ‘jôcs preifat’. Bod yn dyst i’w twf a’u trawsnewidiad.

Weithiau mae modd i bobl ifainc yn eu harddegau mewn gofal fod â diffyg hyder, neu deimlo eu bod ar y droed ôl o gymharu â’u cyfoedion. Meddai Gwen: “Pan oedd James yn byw gyda mi am y tro cyntaf, roedd yn ei chael hi’n anodd siarad â chyfoedion ac roedd ar ei hôl hi yn y dosbarth. Mae bellach yn gwneud yn dda yn yr ysgol ac mae ganddo grŵp agos o ffrindiau. Allwn i ddim bod yn fwy balch ohono ac mae’n rhoi boddhad mawr ei weld yn ffynnu.”

Daeth rhan enfawr o’r newid yma o ganlyniad i James yn teimlo’n sefydlog a bod rhywun yn gofalu amdano.

Foster teen boy smiling

8. A fydd pobl ifainc mewn gofal maeth yn gwneud llanast a thorri pethau yn fy nghartref?

Fel unrhyw blentyn, maen nhw’n gallu ymddwyn yn heriol weithiau.

Efallai y bydd drws yn cael ei gau’n glep, gallai pethau gael eu torri, yn union fel gydag unrhyw blant yn eich cartref. Os bydd damweiniau’n digwydd, mae’n hawdd trwsio’r rhan fwyaf o bethau a chael rhai newydd yn eu lle pan fyddwch chi’n maethu gyda’ch awdurdod lleol. Rydyn ni gyda chi, yn darparu’r sgiliau a’r gefnogaeth y bydd eu hangen arnoch chi ar hyd y ffordd.

“Pan symudais i mewn gyda Sam a Mark, fe wnaethon nhw roi croeso mawr i mi. Es i mewn gyda meddylfryd ychydig yn ddi-hid ond dwi’n meddwl oedd angen i mi wybod bod rhywun yn gofalu amdanaf i, ac fe wnaethon nhw … ac maen nhw’n dal i wneud. Eu cartref yw fy nghartref i bellach ac rydw i wrth fy modd!” – Hannah

Foster family playing a game

Mae gwir angen yng Nghymru am deuluoedd i faethu pobl ifainc yn eu harddegau. Mae bron i hanner yr holl blant sy’n derbyn gofal mewn cartref gofal rhwng 11 a 18 oed.

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am faethu gyda ni, cysylltwch â ni yma.

Os ydych chi’n byw y tu allan i RhCT, ewch i Maethu Cymru a chwiliwch am eich awdurdod lleol yno.

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn