Mis Mehefin yma, rydyn ni’n dathlu cyfraniad eithriadol i ofal maeth er anrhydedd y rhiant maeth Ken Mason.
Mae ein gweithiwr cymdeithasol goruchwyliol wedi enwebu rhieni maeth sydd wedi mynd tu hwnt i’r arfer ar gyfer y plant sydd yn eu gofal nhw.
Rhaid i’r sawl sy’n cael eu henwebu ymgorffori’r rhinweddau isod:
- Yn ysbrydoli eraill
- Yn gallu meithrin perthynas broffesiynol gadarnhaol gyda chydweithwyr a phobl broffesiynol eraill yn seiliedig ar barch
- Wedi dangos ymrwymiad personol i hunan-ddatblygiad a hyfforddiant
- Yn canolbwyntio ar y plentyn ac yn hyrwyddo canlyniadau cadarnhaol i blant
- Yn ystyriol ac yn gytbwys yn ei ymagwedd ac yn gweithio mewn modd gwrth-ormesol
Oherwydd Covid-19, doedd dim modd i ni gynnal y seremoni gwobrwyo am y ddwy flynedd ddiwethaf. Gwych oedd cael grŵp bach o’n rhieni maeth gyda’i gilydd eto eleni. Fel mae modd dychmygu, roedd nifer fawr o enwebiadau ar gyfer Gwobr Ken Mason!
Pwy yw Ken Mason?
Roedd Ken Mason yn rhiant maeth am dros 40 blynedd yn Rhondda Cynon Taf ynghyd â’i wraig Yvonne. Yn ystod eu hamser fel rhieni maeth, roedden nhw wedi rhoi gofal i nifer fawr o blant ac wedi sicrhau dyfodol disglair i bawb yn eu cwmni, hyd yn oed yn ystod yr amseroedd heriol a gododd. Gweithiodd Ken ac Yvonne ochr yn ochr â gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol eraill mewn modd positif a oedd yn canolbwyntio ar y plentyn. Fe ddatblygon nhw berthynas arbennig gyda’r plant a oedd yn eu gofal nhw a’r garfan o’u cwmpas. Oherwydd hyn, roedd Ken ac Yvonne wedi sicrhau doedd y plant yn eu gofal ddim yn tyfu i fod yn oedolion hunanddinistriol.
Yn anffodus, bu farw Ken yn ____ ond mae ei ôl troed yn amlwg o hyd! Fe siaradon ni ag Yvonne, ac meddai hi:
“Roedd Ken mor falch pan ddaeth Ann [Gweithiwr Cymdeithasol] i ddweud bydd gwobr yn ei enw yn cael ei chyflwyno i riant maeth. Rwyf wrth fy modd fod y wobr yn parhau i gael ei chyflwyno er cof amdano.
Roedden ni’n rhieni maeth am dros 40 blynedd, ac roedden ni’n ffodus o gael gweithwyr cymdeithasol a oedd yn ein cefnogi ni a’r plant a oedd yn ein gofal.
Rydyn ni wastad wedi bod o’r farn bod modd i blant mewn gofal LWYDDO yn eu bywydau gyda’r cymorth a chefnogaeth iawn.”
“Roedd 2 frawd yn ein gofal pan oedden nhw’n blant; bellach mae un ohonyn nhw’n berchen ar gwmni adeiladu ei hun, ac mae ei frawd yn beiriannydd trydanol. Mae’r plentyn olaf a ddaeth aton ni yn dal i fyw gyda fi nawr, ac mae newydd raddio o’r brifysgol ym myd nyrsio.”
Mae Yvonne hefyd wedi rhannu llun o Ken ag Iris Williams – cantores a oedd mewn gofal maeth ei hun. Daeth hi i gwrdd â rhieni maeth mewn cyfarfod i rannu ei phrofiadau o fod yn y system gofal. Dyma enghraifft arall o angerdd Ken tuag at y gymuned maethu.
Roedd cyfraniad arbennig Ken tuag at ofal maeth wedi ein hysbrydoli ni i gynnal y seremoni Cyfraniad Eithriadol i Ofal Maeth sy’n cael ei chynnal bob blwyddyn i ddathlu rhieni maeth Rhondda Cynon Taf.
Enillydd Gwobr Ken Mason am Gyfraniad Eithriadol i Ofal Maeth 2021
Mae’r gweithiwr cymdeithasol goruchwyliol yn enwebu nifer o rieni maeth. Roedd y rhain yn ddienw ac yn cael eu rhannu â phanel, yna gofynnwyd iddynt feirniadu’r rhieni maeth gan ddefnyddio’r meini prawf uchod.
Enillydd Gwobr Ken Mason am Gyfraniad Eithriadol i Ofal 2021 oedd Maria!
Mae Maria yn ysbrydoliaeth i ni i gyd. Does dim byd yn achosi gormod o straen iddi, ac er bod yna adegau heriol, mae ei phrofiad a’i thymer da yn fraint i’r rhai sy’n derbyn gofal ganddi hi.
Fe siaradon ni â Maria yn dilyn yr achlysur:
“Roeddwn i’n hapus o gael fy enwebu, ac yn hapusach fyth o gael ennill y wobr.
Penderfynais i ddod yn rhiant maeth pan ddes i’n rhiant sengl, roedd modd cynnig gofal maeth wrth fagu fy mhlant fy hun. Roedd y broses o ddod yn rhiant maeth 20 mlynedd yn ôl yn broses hir a thrylwyr.”
[am ragor o wybodaeth yn ymwneud â’r broses o sut mae dod yn rhiant maeth nawr, darllenwch erthygl Maethu Cymru Abertawe sy’n esbonio’r broses o ddod yn rhiant maeth].
“Yn y lle cyntaf roeddwn i’n cynnig gofal maeth i fabanod newydd eu geni, babanod oedd yn gaeth i gyffuriau ac alcohol. Roedd hi’n anodd iawn dweud hwyl fawr pan symudodd y babanod i gael eu mabwysiadu, ond wrth i amser fynd yn ei flaen rydych chi’n dysgu sut mae modd delio â’r sefyllfa’n well. Yna ces i hyfforddiant a ches i fy asesu ar sut i ofalu am rieni a babanod, ac yna plant yn eu harddegau.
Profiad positif iawn ydy fy mhrofiad o gynnig gofal maeth. Rydyn ni wedi wynebu adegau heriol – yn enwedig ar ôl trosglwyddo o ofalu am blant bach am 15 blynedd i ofalu am blant yn eu harddegau. Mae nifer o heriau wrth ofalu am y rhiant a’r plentyn, ond mae’n werth chweil gan fy mod i’n gallu rhoi cymorth i sicrhau bod y babi yn aros gyda’i riant biolegol.
Dydw i ddim wedi ystyried maethu ag asiantaeth breifat, dim ond Cyngor Rhondda Cynon Taf oherwydd dyma fy awdurdod lleol. Faswn i ddim yn newid y perthnasoedd rydw i wedi’u meithrin na’r cymorth rwy wedi’u gael gan Faethu Cymru Rhondda Cynon Taf.”
Enillwyr Gwobr Ken Mason am Gyfraniad Eithriadol i Ofal Maeth 2021
Enillwyr y Wobr Ken Mason am Gyfraniad Eithriadol i Ofal 2022 oedd Tyrone a Graham!
Ar ôl mabwysiadu eu mab yn 2013, gwnaeth Tyrone a Graham gais i fod yn rhieni maeth. Rydyn ni’n lwcus iawn o’u cael nhw fel rhan o’n carfan. Mae’r cariad maen nhw’n ei roi yn rhagorol, ac yn sicr mae’n helpu i greu dyfodol gwell i’r plant sydd yn eu gofal.
Dewch i faethu gyda ni, eich awdurdod lleol yn Rhondda Cynon Taf.
Dim ond hyn a hyn o straeon arbennig am ein rhieni maeth ydy’r rhain. Mae gan bob un ohonyn nhw stori a thaith maethu unigryw. Mae Maethu Cymru Rhondda Cynon Taf yn gwerthfawrogi pob un o’u rhieni maeth.
Bwriwch olwg ar ein tudalen ‘Pwy sy’n gallu maethu am ragor o wybodaeth. Os ydych chi wedi’ch ysbrydoli ac yn barod i gymryd eich cam cyntaf gyda ni ar ôl clywed am Wobr Ken Mason am Gyfraniad Eithriadol i Ofal Maeth , llenwch ein ffurflen ymholi ar ein tudalen Cysylltu â ni.
Os ydych yn byw yng Nghymru, ewch i wefan Maethu Cymru lle mae’r holl wybodaeth ar gael a chysylltu â’ch gwasanaeth awdurdod lleol.
Edrychwn ymlaen at glywed gennych chi!