blog

plant gofalwyr maeth yn RhCT

Mae Wythnos Plant Gofalwyr Maeth yn cael ei chynnal ym mis Hydref ac rydyn ni wedi bod yn sgwrsio â rhai o’n teuluoedd maeth am eu teithiau maethu. Mae nifer o rieni yn poeni am faethu pan fo gyda nhw blant yn barod, am unrhyw effeithiau negyddol y gallai eu cael, ac am fynd â sylw oddi arnyn nhw. Fodd bynnag, rydyn ni wedi sgwrsio ag Alex, William, Paisley ac Willow – plant teuluoedd maeth yn Rhondda Cynon Taf am sut mae croesawu eraill i’w cartref wedi llenwi eu bywydau â balchder, empathi a sgiliau newydd.

Fe ofynnon ni’r cwestiynau canlynol iddyn nhw:

  • Sut oeddech chi’n teimlo cyn dod yn deulu maeth?
  • Sut ydych chi bellach yn teimlo am fod yn rhan o deulu maeth?
  • Sut ydych chi’n croesawu plentyn maeth i’ch teulu a’ch cartref?
  • Beth yw’r peth gorau am faethu?
  • Sut mae gwybod eich bod chi’n helpu plant eraill yn gwneud i chi deimlo?
  • Hoffech chi rannu unrhyw beth arall am sut rydych chi’n teimlo am faethu?

Wedyn fe wnaethon ni sgwrsio â mam Paisley ac Willow, Ruth, am sut mae ei phlant wedi tyfu yn ystod eu hamser yn maethu, yn ei barn hi.

Two children from foster families in RCT

Sut oeddech chi’n teimlo cyn dod yn deulu maeth?

Paisley – Roeddwn i’n edrych ymlaen yn fawr iawn! 

Willow – Roeddwn i’n teimlo’n hapus ac ychydig yn drist. 

William – Mae’n anodd dweud sut roeddwn ni’n teimlo a dweud y gwir, roedd wedi digwydd pan oeddwn i’n ifanc felly dydw i ddim yn cofio llawer. Rydw i bob tro’n cofio pobl yn gofyn i mi am bob plentyn a fyddai’n ymuno â ni ac am a oeddwn i’n gyfforddus i ddweud, ond mae’n od disgrifio teimlad gan ei fod wedi bod yn normal i ni erioed

Sut mae plant yn teimlo am fod yn rhan o deulu maeth?

Alex – Rydw i’n teimlo ei fod yn rhywbeth sydd wedi agor fy llygaid i agweddau ar fywyd nad yw llawer o bobl yn ymwybodol ohonyn nhw, ac rydw i’n ddigon ffodus i gael profi’r teimladau a’r pethau newydd yma ar y cyd â’r plant/pobl ifainc. Rydw i’n ystyried fy mrawd a chwaer maeth yn frawd a chwaer biolegol i mi, ac rydw i’n gwybod eu bod nhw’n fy ystyried i yn yr un modd – mae fel cael teulu mawr iawn! 

A minnau’n oedolyn, dydw i ddim yn gymaint o ran o’r broses gan nad ydw i’n byw yn yr un aelwyd bellach. Ond wrth gwrdd â phlant newydd, eu helpu nhw i ymgartrefu, eu cyflwyno nhw i weithgareddau newydd, mae’n gyffrous gallu gweld yr hwyl a’r hapusrwydd ar eu hwynebau nad ydyn nhw efallai wedi’u cael o’r blaen, ac rydw i’n gwerthfawrogi hynny hyd yn oed yn fwy nawr fy mod i’n oedolyn.

Paisley – Rydw i’n teimlo’n ddefnyddiol a charedig iawn, ac rydw i’n hoffi cael plant eraill yn ein cartref (does dim ots os mai bachgen neu ferch ydyn nhw).

Willow – Rydw i’n teimlo’n dda bod modd i mi helpu a gwneud gwahaniaeth i fywydau’r plant yma. 

William – Rydw i’n teimlo braint fawr mewn ffordd gan ein bod ni wedi helpu cynifer o bobl ond hefyd yn ddidaro. Dydw i ddim yn teimlo fel rhan o deulu maeth, yn lle hynny, rydw i’n teimlo fel rhan o deulu sy’n cynnwys pobl â chyfenwau gwahanol.

Sut ydych chi’n croesawu plentyn maeth i’ch cartref a’ch teulu?

Paisley – Dangos cariad a bod yn chwaer dda iddyn nhw gan eu tywys o amgylch ein cartref. Byddwn i hefyd yn helpu fy mam a dad i brynu’r pethau y byddwn ni eu hangen ar eu cyfer nhw. 

Willow – Rydw i’n gwneud iddyn nhw deimlo’n gynnes ac yn eu croesawu drwy ddangos cariad, rhoi gwybod iddyn nhw fy mod yma o hyd ac esbonio eu bod nhw’n rhan o’n teulu. 

William – Ceisio gwneud iddyn nhw deimlo’n gyfforddus, does dim un ffordd orau o wneud pethau a gall pawb ymateb yn wahanol i’w hamgylchiadau. Does dim canllawiau, dim ond gwneud iddyn nhw deimlo’n ddiogel ac yn gyfforddus

Beth yw’r peth gorau am faethu?

Paisley – Gallu gwneud iddyn nhw deimlo’n hapus. 

Willow – Y peth gorau yw gallu rhannu fy mywyd hapus a’u croesawu nhw i’n teulu cariadus pan fo angen hynny arnyn nhw fwyaf. 

William – Cael gwneud gwahaniaeth boed hynny’n lleoliadau hirdymor neu rywbeth byrrach.

Sut mae gwybod eich bod chi’n helpu plant eraill yn gwneud i chi deimlo?

Alex – Rydw i’n meddwl mai cariad a deinameg deuluol yw’r sylfaen ar gyfer gweddill eich bywyd. Mae cael rhoi’r cyfle i fod mewn lle diogel, gyda chyfathrebu agored, a chyfleoedd megis mynd i’r ysgol a gwneud ffrindiau, yn gymaint o fraint gan fy mod i’n gwybod pa mor ffodus oeddwn i o ran cael hynny yn awtomatig pan oeddwn i’n blentyn. Mae’r perthnasoedd a’r cysylltiadau rydych chi’n eu ffurfio rhwng bod yn blentyn ifanc ac oedolyn (yn blentyn maeth ac yn blentyn rhieni maeth) yn aros gyda chi, ac rydych chi’n parhau i weld y bobl yma ac yn gobeithio’r gorau ar eu cyfer yn yr un modd ag y byddech chi’n ei wneud ar gyfer eich teulu eich hunain.

Young woman from RCT smiling with a pink jumper on

Paisley – Mae’n gwneud i fi deimlo’n ddiolchgar am yr hyn rydyn ni’n ei wneud ac mae’n gwneud i mi deimlo fel y chwaer fawr orau i bawb. 

Willow – Mae’n gwneud i mi deimlo fy mod yn cael effaith gadarnhaol yn eu bywydau ac rwy’n teimlo’n ffodus iawn o gael bod yn rhan o deulu maeth. 

William – Yn debyg i’r ateb i’r cwestiwn arall, mae’n anrhydedd o’r mwyaf ac rydw i’n falch, yn enwedig o fy rhieni. Dim ond yn ddiweddar rydw i wedi sylweddoli arwyddocâd maethu. Mae’n normal i mi, rydw i wedi cael fy magu yn rhan o deulu maeth, mae’n rhan normal o’n teulu, ond wrth i mi fynd yn hŷn ac wrth i bobl glywed, mae cynifer yn dweud “waw, mae hynny mor anodd, fyddwn i byth wedi gallu gwneud hynny” – felly yn falch iawn

Hoffech chi rannu unrhyw beth arall am sut rydych chi’n teimlo am faethu?

Paisley – Rydw i’n meddwl y dylai llawer o bobl eraill ddod yn rhieni maeth a helpu’r plant bach sydd angen help. 

Willow – Rydw i eisiau annog teuluoedd eraill i ddod yn rhieni maeth ac eisiau rhoi gwybod iddyn nhw fod maethu gwerth pob eiliad, trwy’r dyddiau da a’r dyddiau drwg, gan ein bod ni’n gwybod ein bod ni’n helpu’r plant yma ym mhob ffordd y gallwn ni. 

A chithau’n rhiant maeth, sut mae eich plant eich hun wedi addasu i fod yn rhan o deulu maeth?

Ruth – Mae ein merched wedi addasu i fod yn rhan o deulu maeth mor dda – maen nhw wedi dangos amynedd, cydnerthedd, ac wedi croesawu eraill i’n cartref mor agored yn naturiol. O’r cychwyn cyntaf, maen nhw wedi bod yn chwilfrydig, yn ofalgar, ac yn awyddus i helpu, sydd wedi gwneud cyfnod pontio’r plant sy’n dod i aros gyda ni llawer yn haws. Rydyn ni wedi eu gweld nhw’n datblygu cysylltiadau cryf yn sydyn, gan gynnig cysur, yn chwerthin ac yn rhoi ymdeimlad o berthyn iddyn nhw. Mae wedi bod yn anhygoel eu gwylio yn dod yn fwy ymwybodol ac yn gallu addasu, gan ddysgu bod modd rhannu teulu a bod cariad yn cynyddu.  

A chithau’n rhiant maeth, beth ydych chi’n fwyaf balch ohono o ran agwedd eich plentyn tuag at faethu?

Ruth – Rydyn ni’n fwyaf balch o sut mae ein merched wedi croesawu maethu yn rhan o bwy ydyn nhw. Maen nhw wedi dangos cymaint o empathi a thosturi – boed hynny trwy rannu eu teganau, cynnig cwtsh ar yr eiliad gywir, neu helpu plant newydd i deimlo eu bod nhw’n cael eu cynnwys mewn bywyd bob dydd. Maen nhw’n fwy hyderus ac yn fwy aeddfed, ac wedi dysgu i weld y byd drwy lygaid pobl eraill. Mae eu gwylio nhw’n dod yn chwiorydd cefnogol wedi bod yn hyfryd, ac rydyn ni’n falch iawn o sut maen nhw wedi helpu i wneud maethu yn brofiad ar gyfer y teulu cyfan.  

Dysgwch ragor am sut y gall maethu helpu eich teulu cyfan i dyfu, bwriwch olwg ar ein gwefan, neu cysylltwch â ni yma er mwyn dechrau ar eich taith maethu Awdurdod Lleol gyda Maethu Cymru Rhondda Cynon Taf.

Os ydych chi’n byw y tu allan i ffiniau Rhondda Cynon Taf, ac mae gyda chi ddiddordeb mewn maethu gyda’ch Awdurdod Lleol mewn lleoliad arall yng Nghymru, ewch i wefan Maethu Cymru.

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn