Bob mis Hydref, mae’r Rhwydwaith Maethu yn cynnal ymgyrch sy’n canolbwyntio ar Blant Rhieni Maeth. I gyd-fynd â hyn, mae Megan, merch i rieni maeth Sarah a Richard, wedi ennill Gwobr Rhagoriaeth Maethu – y gwobrau maethu mwyaf mawreddog a gynhelir bob blwyddyn.
Mae plant i rieni maeth yn rhan annatod o daith plentyn maeth, ac yn aml, gallan nhw fod yn elfen allweddol wrth helpu plentyn newydd. Ond, mae’n bwysig cofio’r heriau’r gallen nhw fod yn eu hwynebu wrth groesawu plant newydd i’w cartrefi.
Rhannu eu cartref, rhannu eu rhieni, a hyd yn oed rhannu eu teganau.
Serch hynny, dro ar ôl tro, mae’r plant yma’n dangos cymaint o ymrwymiad ac ymroddiad â’u rhieni i adeiladu bywyd gwell i blant eraill sydd ei angen fwyaf. Ac yn amlach na pheidio, byddan nhw’n teimlo ymdeimlad o foddhad o wybod eu bod nhw’n gwneud rhywbeth da i rywun arall.
Gan bob un ohonon ni, hoffen ni ddweud diolch.
Diolch am fod yn agored.
Diolch am estyn eich cariad.
Diolch am groesawu eich brodyr a chwiorydd maeth i mewn i’ch cartref.
Mae’n debyg bod yr hyn a wnewch yn cael ei werthfawrogi’n fwy nag y byddwch chi byth yn gwybod.
Megan, merch i rieni maeth, yn ennill gwobr rhagoriaeth maethu
Mae un ferch arbennig i rieni maeth, Megan, wedi ennill Gwobr Rhagoriaeth Maethu fawreddog.
Y Gwobrau Rhagoriaeth Maethu blynyddol yw gwobrau gofal maeth mwyaf mawreddog y DU, sy’n dathlu llwyddiannau eithriadol ym maes maethu ac yn cydnabod y rhai sy’n gwneud cyfraniadau eithriadol i ofal maeth bob dydd.
Cafodd hi ei henwebu gan Sarah, gweithiwr cymdeithasol goruchwyliol. Meddai hi:
“Mae Megan wedi bod yn gefn i’w theulu ers iddyn nhw ddechrau maethu yn 2008. Mae ei mam wedi bod yn sâl, yn treulio amser yn yr ysbyty, ac mae hi wir wedi helpu gyda gofal o ddydd i ddydd yr efeilliaid y mae’r teulu’n gofalu amdanyn nhw. Mae Megan yn ystyried y bechgyn yn frodyr iddi hi.
Nid yn unig y mae Megan wedi gallu cefnogi ei theulu, ond mae hi wedi astudio, wedi llwyddo yn ei harholiadau ac mae hi bellach yn fferyllydd cymwys! Mae’r ffaith ei bod wedi gallu sefyll ei harholiadau tra bod ei mam yn ddifrifol wael a bod yn rhan o deulu maeth yn anhygoel ac yn dangos ei phenderfyniad.”
Nid yw cefnogaeth amhrisiadwy Megan, o dasgau cartref, mynd â’r bechgyn i sesiynau ar ôl ysgol a gofalu amdanyn nhw yn ystod gwyliau’r ysgol wedi mynd heb i neb sylwi – yn hollbwysig, hi yw’r gwahaniaeth sydd wedi galluogi’r bechgyn i aros gyda nhw.
Oes modd i mi faethu os oes gen i blant fy hun?
Weithiau bydd pobl yn gofyn inni “a oes modd i mi faethu os oes gen i blant fy hun?”, oherwydd, yn gwbl briodol, mae angen i bobl ystyried yr effaith y bydd maethu yn ei chael ar eu teulu a’u cylch agos eu hunain.
Y gwir amdani yw bod llawer o blant yn ffynnu o fod yn rhan o deulu maeth. Gall gweld bywyd o safbwynt rhywun arall fod yn brofiad cyfoethog. Gall helpu plentyn i ddysgu a datblygu fel unigolyn. Mae sgiliau hanfodol megis empathi a rhannu yn gwella’n fawr, ac mae gyda nhw ymdeimlad o falchder.
Ynghyd â Megan, mae Harriet ac Olivia yn blant i rieni maeth ac yn enghreifftiau gwych o sut mae maethu wedi bod yn brofiad gwerth chweil. Fe wnaethon nhw rannu’r canlynol:
“A ninnau’n chwiorydd maeth, rydyn ni eisiau gwneud i blant deimlo’n gyfforddus a’u bod nhw’n teimlo’n rhan o’n teulu ni.”
Meddai Harriet: “Rydw i wedi mwynhau cwrdd â llawer o wahanol blant a’u helpu nhw. Drwy eu helpu, rydw i’n teimlo fy mod i’n gwneud peth da, sydd wedyn yn gwneud i mi deimlo’n dda y tu mewn.”
Ychwanegodd Olivia: “Rydw i’n teimlo fy mod i’n berson caredig, a galla i ddangos caredigrwydd i eraill trwy eu taith faethu.”
Rydyn ni’n diolch i blant rhieni maeth
Hoffai ein carfan faethu ddweud:
Hoffen ni ddiolch o waelod ein calonnau i bob plentyn i rieni maeth am bopeth rydych chi’n ei wneud i gefnogi eich teulu i faethu. Peidiwch â thanbrisio’r rôl rydych chi’n ei chwarae. Nid yw bob amser yn hawdd croesawu plentyn i’ch cartref, ond bob dydd rydych chi’n darparu gofal a hwyl i’r plant hynny sydd ei angen fwyaf. Mae eich ymdrechion yn newid bywydau, ac rydyn ni wir yn diolch i chi.”
Os hoffech chi ddarganfod rhagor am faethu gyda Maethu Cymru Rhondda Cynon Taf, gwasanaeth maethu eich awdurdod lleol, cysylltwch â ni yma.
Os ydych chi’n byw y tu allan i Rondda Cynon Taf, ewch i’n gwefan Maethu Cymru genedlaethol i gael gwybod rhagor am faethu gyda’ch awdurdod lleol yng Nghymru.