blog

sut brofiad yw bod yn ofalwr maeth?

Rydyn ni wedi bod yn siarad â’n rhieni maeth ac yn dysgu rhagor am pam y gwnaethon nhw benderfynu maethu, yn enwedig y rhai sydd wedi newid trywydd eu bywydau ac wedi gwneud newid sylweddol i ddod yn rhieni maeth.

Ym mis Mai 2022, bydd Tracy a Lee o Faethu Cymru RhCT wedi bod yn rhieni maeth ers 20 mlynedd.

Smiling man and woman stood by the roadside

Nhw yw dau o’n rhieni maeth sydd wedi gwasanaethu hiraf ac maent wedi gweld sut mae’r dirwedd maethu wedi newid dros y blynyddoedd. Fel ein rhieni maeth arloesol, maen nhw wrth eu bodd yn rhannu eu profiadau maethu a’u gwybodaeth am y broses i annog eraill i ddysgu mwy.

Fe wnaethom ofyn ychydig o gwestiynau i Tracy:

Pam penderfynoch chi faethu?

“Roedden ni eisiau bod yn rhieni, wedi gwneud cais i fabwysiadu, ond yn ystod y broses asesu dyma rywun yn gofyn a oedden ni wedi ystyried maethu.”

Pa mor hir oedd eich proses gymeradwyo ar gyfer maethu?

“Gwelson ni ymgyrch deledu yn hysbysebu wythnos genedlaethol Mabwysiadu. Ffoniais i a gofyn am becyn gwybodaeth ond wnes i ddim gwneud llawer amdano ar y pryd. Rwy’n meddwl mai galwad ddilynol tua 6 mis yn ddiweddarach a ddechreuodd y broses i ni.”

Ydy cael eich plant eich hun yn eich rhwystro rhag maethu?

Mae dynameg pob teulu yn wahanol. Mae gan rai o’n teuluoedd maeth blant yn barod, mae gan rai blant sy’n byw gyda nhw, mae gan rai blant hŷn sydd wedi gadael cartref, ac mae rhai heb blant eu hunain. Yr unig beth rydyn ni’n gofyn amdano yw bod gyda chi ystafell sbâr i’r plentyn maeth gael ei le ei hun.

Rhannodd Tracy ychydig o wybodaeth gefndirol gyda ni am ddeinameg ei theulu:

“Rydyn ni’n cyfri ein bendithion ein bod ni wedi llwyddo i gael 2 o blant biolegol trwy driniaeth ffrwythlondeb, mae’r ddau bellach yn oedolion. Mae ein mab ni’n dysgu mewn ysgol gyfun ac yn gynhaliwr gyda chynllun rhannu bywydau Ategi. Mae ein merch ni’n astudio ym Mhrifysgol Caerfaddon ar hyn o bryd.

Mae’r plentyn cyntaf inni’i faethu bellach yn 24 oed – roedd hi gyda ni dros y Nadolig.

Ar hyn o bryd mae gyda ni blentyn 2 oed, 3 oed a 7 oed yn ein cartref.”

Sut mae maethu yn cymharu â’ch rôl flaenorol?

“Wna i ddim dweud celwydd, mae’n feichus iawn gydag oriau hir ond mae’n rhoi boddhad mawr!”

Mae maethu yn rhywbeth y gallwch ei wneud ochr yn ochr â’ch cyflogaeth, ond mae’n hanfodol bod eich rôl yn ddigon hyblyg i ddarparu ar gyfer gofalu am blant neu bobl ifanc. Yn aml mae pobl yn dewis maethu plant hŷn neu bobl ifanc yn eu harddegau fel y gallant barhau i weithio ochr yn ochr â maethu. Mae Maethu Cymru Sir Fynwy wedi ysgrifennu blog amdano, felly edrychwch arno os hoffech ychydig mwy o wybodaeth!

Beth ydych chi’n ei fwynhau fwyaf am eich taith faethu?

“Mae’r plentyn cyntaf inni’i faethu yn ddyslecsig. Bu raid iddi sefyll ei harholiad TGAU Saesneg 5 gwaith i gael y radd roedd hi’i hangen ar gyfer y brifysgol ond mae hi bellach yn astudio ei gradd meistr.

Mae llawer o’r plant rydyn ni wedi’u maethu wedi mynd ymlaen i gael eu mabwysiadu.

I ni, mae cael helpu’r bobl ifanc yma i gyrraedd eu potensial a ffynnu yn fendith.

Oes unrhyw beth arall yr hoffech chi ei ddweud wrthon ni?

“Mae bod yn hyblyg yn hanfodol i rôl gofalwr maeth. Y gallu i roi gofal i ystod o wahanol blant a phobl ifanc sydd i gyd yn unigolion, ag anghenion gwahanol. Rydych chi’n gwisgo llawer o hetiau fel gofalwr maeth, ac weithiau mae’r gallu i estyn allan a gofyn am gefnogaeth, neu ofyn cwestiynau yn sgil sy’n cael ei hanwybyddu, ond yn un sy’n hynod bwysig.

Rydyn ni wedi dysgu llawer ar hyd y ffordd, ac rydyn ni wir yn teimlo ein bod ni’n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc. Rydyn ni’n plannu’r hadau ac yn eu gwylio’n tyfu.

Mae’n waith caled ond mae’n rhoi boddhad mawr ac mae’n fraint cael helpu a chefnogi’r rhai sydd angen ein cymorth, yn ystod rhai o’r cyfnodau anoddaf yn eu bywydau.”

Ydy hi’n bryd newid?

Yn sefydliad Maethu Cymru RhCT, rydyn ni’n gofyn i chi ystyried y posibilrwydd o groesawu plentyn, neu blant, lleol i’ch cartref, er mwyn darparu amgylchedd sefydlog a gofalgar ar eu cyfer. Bydden ni wrth ein boddau’n clywed gennych chi os ydych chi’n angerddol am helpu eraill ac eisiau cychwyn ar daith gwerth chweil a boddhaus wrth helpu i lywio dyfodol plant lleol.

Mae digon o wybodaeth ar ein gwefan ond rydyn ni’n eich annog chi i gysylltu, gofyn cwestiynau a dechrau’r sgwrs am faethu gyda ni!

Rydyn ni eisiau helpu cynifer o blant lleol â phosib, ac mae’r cyfan yn dechrau gyda thi yn 2022.

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn