blog

Tracy – Rhiant Maeth sy’n Ystyriol o Drawma

Enillodd ein rhiant maeth Tracy wobr rhiant maeth sy’n ystyriol o drawma’r mis gan The Behaviour Clinic!

Mae The Behaviour Clinic yn cyflawni gwaith gwych wrth ‘ddefnyddio gofal sy’n ystyriol o drawma i helpu plant i wella a ffynnu’. Mae eu gwaith yn deillio o wyddoniaeth ymddygiadol ond yn cynnwys amrywiaeth eang o ddisgyblaethau. Mae hyn yn caniatáu i’w therapyddion ac ymarferwyr ddarparu cymorth trylwyr a chynhwysfawr. Mae The Behaviour Clinic yn cynnal hyfforddiant a gweithdai er mwyn helpu rhieni maeth, rhieni, oedolion eraill a phlant.

Yn y blog yma rydyn ni’n clywed gan ein rhiant maeth Maethu Cymru Rhondda Cynon Taf, Tracy, wnaeth ennill gwobr rhiant maeth sy’n ystyriol o drawma’r mis. Cafodd ei chyfweld gan The Behaviour Clinic ac mae hi’n trafod y materion canlynol:

  1. Pam mae deall cefndir trawma plant mor bwysig?
  2. Ym mha ffyrdd oedd y gweithdai ystyriol o drawma o fudd i chi?
  3. Beth ydych chi wedi gallu ei roi ar waith gartref ers i chi fynychu’r hyfforddiant?
  4. Pa argymhellion fyddech chi’n eu rhoi i bobl eraill mewn perthynas â bod yn ystyriol o drawma?
Two women speaking via video call

Yn eich barn chi, pam mae deall cefndir trawma plant mor bwysig?

Y prif beth yn fy marn i yw gallu deall beth mae’r plentyn wedi’i wynebu, mae angen i ni ddysgu cymaint o wybodaeth â phosibl amdanyn nhw, dydy hyn ddim yn hawdd bob tro.

Er mwyn i’r plant symud ymlaen, y rhai iau yn enwedig, mae angen iddyn nhw deall beth sydd wedi digwydd iddyn nhw. Lle bynnag y bo modd, efallai byddai’n ddefnyddiol iddyn nhw wybod y rhesymau pam maen nhw’n cael trafferth wrth wneud ffrindiau, neu pam maen nhw’n cael trafferthion yn yr ysgol ac angen dal i fyny o ran eu haddysg. Yn syml, sicrhau eu bod nhw’n derbyn y cymorth sydd ei angen arnyn nhw wrth symud ymlaen – yn enwedig cymorth emosiynol. Rydyn ni’n arsylwi bod modd helpu drwy gofio am eu teulu drwy sôn amdanyn nhw mewn sgyrsiau o ddydd i ddydd.

Mae gyda fi ddau o blant hŷn ac maen nhw’n wych o ran rhoi’r cymorth emosiynol sydd o bosib ei angen arnyn nhw , sy’n lleihau straen. Er enghraifft, efallai bydd gyda’r plant deimladau o euogrwydd, efallai y byddan nhw’n teimlo mai nhw sydd ar fai, pan nad yw hynny yn wir o gwbl. Rydyn ni’n eu helpu nhw i deimlo’n ddiogel ac i beidio â theimlo mai nhw sydd ar fai.

Mae nifer o bobl yn credu nad oes modd i blant sydd wedi wynebu trawma symud ymlaen,

ond dyw hyn ddim yn wir ac mae modd iddyn nhw fyw bywyd normal. Mae trawma yn ofnadwy, ond mae modd eu helpu nhw os ydyn ni’n mynd i’r afael â’r mater yn y modd cywir yn ogystal â defnyddio’r hyfforddiant cywir. Mae’r hyfforddiant ystyriol o drawma yn wych, ac rwyf wedi dysgu sut i sicrhau fy mod i’n cadw cofnod o’r pethau mae’r plant wedi’i wneud ar hyd y ffordd, gan nodi pethau bychain rydwn i’n sylwi arnyn nhw ar gyfer y cyfnod y byddan nhw’n symud ymlaen. Bydd hyn yn help mawr i’r plentyn pan fyddan nhw’n barod i fwrw golwg yn ôl ar eu taith.

Os oes gyda nhw broblemau ymddygiadol, rydych chi’n ystyried beth sydd wedi digwydd yn y gorffennol, gan nodi beth sydd wedi digwydd yn ystod yr eiliad yna sy’n wahanol i’r arfer. Er enghraifft, penderfynodd un plentyn nad oedden nhw eisiau tost i frecwast, ac roedden nhw’n drist am weddill y dydd o ganlyniad i hyn. Rhaid bod yn effro i sefyllfaoedd a beth sydd wedi digwydd yn y gorffennol, er mwyn lleihau’r straen y bydd yn ei achosi os bydd yn digwydd eto.

Mae ystyried pethau eich hun a pheidio bod ag ofn siarad gyda’r plentyn am beth sydd wedi digwydd yn bwysig. Mae ymddiriedaeth yn beth mawr – dysgu ac ennill ymddiriedaeth y plentyn. Byddwch chi’n synhwyro pan fydd plentyn yn ymddiried ynoch chi, ac mae’n deimlad hyfryd.

I grynhoi:
  • Deall beth mae’r plentyn wedi’i wynebu
  • Helpu’r plentyn i symud ymlaen a’u helpu nhw i ddeall beth sydd wedi digwydd
  • Sicrhau eu bod nhw’n derbyn y cymorth sydd ei angen arnyn nhw wrth iddyn nhw symud ymlaen
  • Darparu cymorth emosiynol iddyn nhw gan leihau’r straen maen nhw’n ei deimlo
  • Ennill ymddiriedaeth y plentyn

Cyfwelydd: Roeddwn i eisiau amlygu rhai o’r sylwadau gwych rydych chi wedi’u gwneud.

  • Mae ystyried teulu’r plentyn a chynnwys hynny yn rhan o fywyd bob dydd eich teulu chi mor bwysig. Mae gyda phob un o’r plant rydyn ni’n gofalu amdanyn nhw deuluoedd, mae gyda nhw bobl y dylai gael eu hintegreiddio drwy sgyrsiau. Mae’n bwysig ein bod ni’n siarad amdanyn nhw, a’u hanes, gan gynnwys hynny yn y gofal a’r cymorth rydyn ni’n eu darparu.
  • Fe wnaethoch chi nodi diffiniad gwych o ofal sy’n ystyriol o drawma. Mae hyn yn cynnwys ystyried pethau o safbwynt y plentyn – beth mae’r gorffennol yn ei olygu iddyn nhw a sut mae’n cael effaith ar y presennol. Dyma yw hanfod gofal sy’n ystyriol o drawma! Beth sydd wedi digwydd yn y gorffennol, sut mae hynny’n cael effaith arnyn nhw nawr, a sut ydyn ni’n integreiddio hynny yn rhan o’n gofal ac arferion.

Rydych chi’n brofiadol iawn, a chithau wedi bod yn rhiant maeth ers 15 mlynedd, ac er hyn rydych chi’n dal i fynychu’r gweithdai MAPPS ar gyfer hyfforddiant bod yn ystyriol o drawma.

Oes modd i chi esbonio ym mha ffyrdd oedd y gweithdai bod yn ystyriol o drawma o fudd i chi, a pham rydych chi’n dal i fynychu er bod gyda chi digonedd o brofiad yn rhiant maeth?

Rwy’n hoffi’r hyfforddiant ar-lein, mae’n gallu bod yn anodd mynychu hyfforddiant wyneb-yn-wyneb gyda thri o blant gartref. Mae cynnwys yr hyfforddiant yn wych, mae’r deunydd yn berthnasol bob tro! Rwy’n aml yn dewis sesiynau sy’n berthnasol i mi, ond rwyf weithiau yn mynychu’r sesiynau nad ydyn nhw mor berthnasol i mi, mae’n bwysig casglu gymaint o wybodaeth â phosibl, pwy â ŵyr pa fath o blentyn bydd yn fy ngofal yn y dyfodol. Felly os oes gyda chi rhywfaint o wybodaeth am bopeth, bydd gyda chi’r sgiliau i fynd i’r afael â sefyllfaoedd pan fyddwch chi’n gofalu am blentyn sydd wedi wynebu math o drawma sy’n wahanol i’r trawma rydych chi wedi cael profiad ohono yn y gorffennol.

Mae amrywiaeth yr hyfforddiant yn wych. Mae’n gyfoes, mae’r wybodaeth yn ddilys, ac maen nhw’n rhannu gwybodaeth ddefnyddiol arall y mae modd i chi ddod o hyd iddi ar-lein.

Mae’r hyfforddiant yn cael ei gynnal yn ystod y diwrnod ysgol, sydd y wych!

Rwyf wedi cwblhau cwrs therapi ymddygiadol 12 wythnos o hyd gyda Jake, oedd yn hollol wych. Mae’r cwrs 12 wythnos o hyd yma yn eich paratoi chi i feddwl am yr hyn all ddigwydd, beth i’w wneud os bydd hyn yn digwydd, ac yn eich helpu chi i gadw trefn ar bopeth. Dysgu am arferion beunyddiol, a rheolau eich cartref, gan gynnwys y plentyn yn rhan o hyn. Cynnwys y plentyn wrth lunio penderfyniadau ar eu rhan (lle bo’n addas gan ystyried eu hoedran). Pethau syml megis rheolau’r cartref, pan fydd plentyn yn cyrraedd eich cartref ac rydych chi’n nodi bod gyda chi 12 rheol , roedd Jake yn gofyn a oes wir angen 12 rheol ac os oes modd eu crynhoi? Dydyn ni ddim eisiau i’r plentyn boeni am ‘beidio â gwneud yr hyn a’r llall, dydw i methu gwneud hyn na’r llall’. Mae cynnwys y plentyn yn syniad gwych.

Mae’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn yr hyfforddiant yn syml, dyw e ddim yn or-dechnegol. Rwy’n mwynhau pan rydyn ni’n cael ein rhannu’n ystafelloedd sgyrsio gan ei bod hi’n hyfryd cael gwrando ar bobl eraill.  Rydych chi’n dysgu rhywbeth newydd bob tro. Rwyf wedi bod yn gwneud hyn ers 15 mlynedd, ond mae rhywbeth newydd i’w ddysgu ym mhob sesiwn. Rwy’n mwynhau’r hyfforddiant.

I grynhoi:
  • Mae hyfforddiant ar-lein yn help, yn enwedig wrth ofalu am blant gartref.
  • Mae’r hyfforddiant yn gyfoes
  • Mae’n eich paratoi chi ar gyfer yr hyn all ddigwydd
  • Mae’r wybodaeth sy’n cael ei haddysgu yn syml ac yn hawdd i’w ddeall

Cyfwelydd: Gwych, diolch. Rydyn ni’n ceisio eu cynnal nhw yn ystod y diwrnod ysgol gan ei bod hi’n haws i bobl eu mynychu.

Rydych chi wedi nodi eich bod chi’n defnyddio trefn feunyddiol, ffiniau a sicrhau bod gyda chi reolau syml ar gyfer pobl ifainc pan fyddwch chi’n gofalu amdanyn nhw.

Oes yna unrhyw ran arall o’r hyfforddiant bod yn ystyriol o drawma sydd wedi bod yn ddefnyddiol, ac ydych chi wedi gallu ei roi ar waith gartref a chithau’n rhiant maeth?

Pan fyddwch chi’n gofalu am blentyn rhywun arall, ac maen nhw wedi wynebu trawma enfawr, mae’n anodd dechrau sgwrs gyda phlentyn. Rhaid i chi wybod beth i’w ddweud, pryd i’w ddweud, gwrando arnyn nhw’n chwarae, beth maen nhw’n ei wneud, bwrw golwg ar y lluniau maen nhw’n eu llunio ac edrych ar eu hwynebau.

Yn ystod yr hyfforddiant, rydych chi’n cael dysgu pryd i gynnal y sgwrs a pha mor bell i fynd â’r drafodaeth. Rydych chi hefyd yn dysgu pryd i stopio a gadael i’r plentyn siarad yn ôl, neu adael iddyn nhw gyfrannu rhywbeth i’r sgwrs. Os nad yw plentyn eisiau siarad, mae’r hyfforddiant yn nodi sut i adnabod hyn.

Bydd plentyn fel arfer yn dweud rhywbeth pan fyddwch chi’n gyrru – byddwch yn barod! Rwyf wedi dysgu i beidio â gwneud addewidion i’r plant, rwyf bob tro’n dweud ‘Dw i ddim yn gwybod, ond cawn ni weld neu ‘dydyn ni ddim yn gwneud addewidion ond rydyn ni am weld beth mae modd i ni ei wneud’. Mae’n rhaid i chi fod yn agored, yn amlwg pan fo hynny’n addas ar gyfer oedran y plentyn, ond rhaid bod mor onest â phosibl.

I grynhoi:
  • Mae’r ffordd rydych chi’n gwrando a beth rydych chi’n ei ddweud yn bwysig

Cyfwelydd: Mae beth wnaethoch chi ei nodi am gynnal y sgyrsiau anodd yma yn rhywbeth mae llawer o bobl yn ei gweld yn anodd – sut i hyd yn oed dechrau’r sgyrsiau anodd yma. Mae gyda ni ragor o weithdai ar y gweill mewn perthynas â hyn eleni, dylai unrhyw un sydd angen cymorth â hyn fwrw golwg arnyn nhw hefyd [link].

Two girls playing with a ball in the garden

Y cwestiwn olaf, pa argymhelliad fyddech chi’n ei roi i bobl eraill mewn perthynas â bod yn ystyriol o drawma?

Casglwch gymaint o wybodaeth ag y bo modd gan y gweithiwr cymdeithasol ac unrhyw un arall sydd yn rhan o’r broses. Rwyf yn mynd i’r ysgol bob tro, mae gyda ni ysgol gynradd wych gerllaw ac rydw i’n cael gwybod os oes unrhyw beth wedi digwydd yna, ac yn yr un modd, os bydd unrhyw beth wedi digwydd gartref, rwy’n rhoi gwybod i’r ysgol os oes angen iddyn nhw gadw llygad ar y sefyllfa.

Gwnewch yn fawr o’r hyfforddiant sydd ar gael. Fel y nodais, rwy’n cwblhau hyfforddiant sydd ddim yn berthnasol i mi bob tro a hynny a gan ydych chi’n gwybod pa blentyn y byddwch chi’n gofalu amdanyn nhw nesaf. Mae pob plentyn yn wahanol.

Peidiwch â bod ag ofn holi cwestiynau, hyd yn oed yn ystod yr hyfforddiant. Does dim un cwestiwn yn wirion! Bydd gyda rhywun ateb ar gyfer pob cwestiwn, a hyd yn oed os nad oes gyda nhw ateb, byddan nhw yn mynd ati i geisio cynnig ateb i chi yn ddiweddarach.

Byddwch yn eiriolwr i’r plentyn bob tro. Chi yw person y plentyn yna. Os ydych chi o’r farn bod rhywbeth ddim yn gweithio, neu os yw rhywbeth yn anghywir, tynnwch sylw ato, cysylltwch â’ch gweithiwr cymdeithasol, neu pwy bynnag rydych chi’n gweithio gyda nhw.

I grynhoi:
  • Casglwch gymaint o wybodaeth â phosibl gan y gweithwyr cymdeithasol ac unrhyw un sy’n rhan o’r broses.
  • Cymerwch ran mewn cynifer o sesiynau hyfforddiant â phosibl
  • Peidiwch â bod ag ofn holi cwestiynau
  • Byddwch yn eiriolwr i’ch plentyn bob tro

Cyfwelydd: Mae’r sylwadau yma i gyd yn gyngor rhagorol. Rydych chi’n gwbl gywir – does dim un cwestiwn yn gwestiwn wirion… os ydych chi’n meddwl am gwestiwn yn ystod sesiwn, rwy’n eithaf sicr y bydd rhywun arall eisiau holi’r un cwestiwn! Codwch eich llaw, neu nodwch eich cwestiwn yn y sgwrs os yw’r hyfforddiant yn cael ei gynnal ar-lein, bydd yn help i bawb.

Diolch Tracy  am adael i ni eich cyfweld ac am rannu eich profiadau, a chithau wedi’ch enwi’n rhiant maeth sy’n ystyriol o drawma’r mis. Os hoffech chi wylio’r fideo llawn, ewch i YouTube

Diolch i’n holl Rieni Maeth

Diolch yn fawr i’n holl Rieni Maeth! Mae’n amlwg bod gofal sy’n ystyriol o drawma yn gwella bywydau plant, drwy ddeall beth maen nhw’n ei wynebu a’u helpu nhw i symud ymlaen.

Does dim ots beth yw lefel hyfforddiant ein rhieni maeth, rydyn ni’n effro iawn i’r ffaith bod pob un ohonyn nhw’n gwneud eu gorau bob dydd. Mae wir yn gwneud gwahaniaeth mawr ac rydyn ni’n eu gwerthfawrogi nhw.

Os hoffech chi ddysgu am faethu yn Rhondda Cynon Taf, cysylltwch â ni yma.

Os ydych chi’n byw y tu allan i Rondda Cynon Taf ac rydych chi eisiau dysgu rhagor am faethu, ewch i maethucymru.com

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn