blog

Trosglwyddo i faethu awdurdod lleol

Yma yn Maethu Cymru RCT rydym am annog mwy o bobl i ddod yn ofalwyr maeth a/neu drosglwyddo i faethu awdurdod lleol fel y gall plant aros yn eu hardal leol, yn agos at eu ffrindiau a’u teuluoedd ac yn eu hysgolion.

Rydyn ni’n cefnogi nod Llywodraeth Cymru o roi terfyn ar achosion o wneud elw yn y system ofal, gan na ddylai neb wneud elw o blant dan ofal.

Fel eich gwasanaeth maethu awdurdod lleol, dydyn ni ddim yma i wneud elw, a fyddwn ni byth. Ein nod yw darparu gofal a sefydlogrwydd i’n plant lleol gan sicrhau ein bod ni â rhieni maeth ymroddedig. Ein blaenoriaeth yw lles a dyfodol y plant hynny sydd wir angen ein cymorth.

The young man shows the little boy the soil he is holding

Allech chi faethu gyda’ch awdurdod lleol?

Mae llawer o ganfyddiadau am faethu gydag awdurdod lleol o’i gymharu ag asiantaeth annibynnol, ond, rydyn ni wedi bod mewn cysylltiad ag Amanda, un o’n rhieni maeth yn RhCT, a benderfynodd trosglwyddo o asiantaeth:

“Clywais i hysbyseb ar y radio yn 2009 am faethu gydag asiantaeth maethu.

Fe wnes i gofrestru am becyn gwybodaeth, ond flwyddyn yn ddiweddarach fe wnaethon ni benderfynu bod yr amser yn iawn. Roeddwn i’n anymwybodol o’r gwahaniaethau rhwng maethu ag awdurdod lleol neu ag asiantaeth, felly ar yr adeg yna nes i benderfynu maethu gydag asiantaeth.

Mae’n bwysig ymchwilio i’r gwahaniaethau rhwng gwasanaethau maethu ag awdurdod lleol, asiantaethau annibynnol ac elusennau. Mae’n werth siarad â phobl rydych chi’n eu hadnabod, edrych ar eu gwefan, neu gysylltu â nhw i drafod eich opsiynau. Beth am gael golwg ar ein blog ‘Rhesymau i faethu gyda’ch awdurdod lleol’.

Cawson ni ein derbyn i fod yn rhieni maeth ym mis Mehefin 2011 ac felly fe wnes i roi gorau i fy ngwaith fel Rheolwr Swyddfa gyda chwmni yswiriant. Fe wnaethon ni ddisgwyl 6 wythnos am ein plentyn maeth cyntaf…. a chawson ni dripledi 6 wythnos oed!

A allaf weithio a maethu?

Does dim rhaid i rieni maeth roi’r gorau i’w swyddi i faethu. Mae’n bosibl maethu a bod mewn gwaith amser llawn, ond efallai y bydd angen rhywfaint o feddwl a chynllunio ychwanegol. Gallai olygu y bydd angen cymorth ychwanegol gan deulu a ffrindiau arnoch chi wrth i chi ymgymryd â’r rôl o fod yn rhiant maeth. Neu, mae modd i chi ddewis maethu’n rhan-amser neu gynnig seibiannau byr. Mae Maethu Cymru Sir Fynwy wedi ysgrifennu blog defnyddiol am faethu a gweithio.

Mae gyda ni lawer o deuluoedd maeth sydd ag amgylchiadau gwahanol, ond mae cefnogaeth ar gael iddyn nhw gyd. Dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Rydym yn hyrwyddo ymagwedd tîm a byddwch chi’n gweithio gyda gweithwyr cymdeithasol ymroddedig, athrawon, therapyddion, heb anghofio eich teulu a’ch ffrindiau eich hun.

Cawson ni sawl plentyn dan ein gofal gyda’r asiantaeth am dros 2 flynedd, ond ar un achlysur fe wnaethon ni ddisgwyl 9 mis heb hyd yn oed gael ein hatgyfeirio (gydag Asiantaeth, does dim gwariant y bydd y plentyn yn dod dan eich gofal, gan fod asiantaethau eraill hefyd yn chwilio am riant maeth addas). 

Gyda’r asiantaeth, roeddwn i’n teimlo ein bod ni’n disgwyl yn rhy hir rhwng cael plant dan ein gofal. Yn hwyrach fe wnaethon ni sylweddoli ein bod ni’n maethu plant nad oedd yr awdurdod lleol yn gallu dod o hyd i gartref iddyn nhw ei hunain.  Yn sgil cyfnodau hir heb blentyn, fe wnes i benderfynu rhoi’r gorau i faethu gydag asiantaeth a gwneud cais yn uniongyrchol â fy awdurdod lleol.

Fe wnes i gysylltu â Chyngor RhCT ac roedd modd i mi gael sgwrs am ba oedran byddai’n well gyda mi ei faethu (o ystyried oed fy mhlant fy hun ar yr adeg). Fe wnaethon ni benderfynu trosglwyddo i RiCT gan eu bod nhw wedi gwrando arnom ni ac roedd yn glir eu bod nhw eisiau gweithio gyda ni i sicrhau’r canlyniadau gorau. Roedd y mwyafrif o blant roedd dan fy ngofal yn flaenorol gyda’r asiantaeth yn blant o RhCT felly roeddwn i’n rhagweld y byddwn i’n brysur!

Heb fod yn syndod i mi, roedd hynny’n wir ac erbyn hyn rydyn ni wedi maethu 53 o blant drwy leoliadau brys, seibiannau byr ac arosiadau tymor byr. Dydyn ni byth yn cael ein gadael am gyfnod hir o amser ble nad oes plentyn dan ein gofal, a dyna sut rydyn ni’n hoffi pethau!

Roedd y broses drosglwyddo yn hawdd ac yn weddol gyflym.

10 mlynedd yn ôl, efallai, rydw i’n credu roedd cyfraddau cyflog asiantaethau ychydig yn uwch na’r awdurdod lleol. Ond, erbyn hyn rydw i’n meddwl bod yr hyn y mae awdurdodau lleol yn ei gynnig llawer yn well, e.e. cynnydd cyflog, taliadau cadw, cardiau hamdden, cardiau disgownt ac ati. Mae’n teimlo fel eu bod nhw wedi dal i fyny â’r hyn sydd gan asiantaethau i’w gynnig.

Rydyn ni’n teimlo bod y cymorth sydd ei angen arnom ni yno bob amser, o fore gwyn tan nos.

Rydyn ni wedi maethu gyda RhCT ers 9 mlynedd. Dydyn ni ddim yn difaru trosglwyddo o’r asiantaeth, dyna oedd y dewis iawn i ni.  Byddwn ni wir yn argymell i unrhyw un faethu gyda RhCT.”

Efallai eich bod chi â syniad yn eich pen o bwy sy’n gallu maethu – ond mewn gwirionedd, mae gan unrhyw un sydd ag ystafell wely sbâr y potensial i ymuno â ni. Mae’n hollbwysig ein bod ni a rhieni maeth amrywiol, sydd â chefndiroedd, profiadau a straeon amrywiol. Rydyn ni’n dathlu popeth sy’n eich gwneud chi’n unigryw. Yn gyfnewid am hynny, rydyn ni’n cynnig yr arbenigedd lleol, cymorth ariannol a’r hyfforddiant sydd eu hangen arnoch chi i gefnogi plentyn neu berson ifanc. Byddwch chi’n gweithio gyda charfan o bobl ymroddedig a brwdfrydig, sydd oll yn gweithio gyda’i gilydd i adeiladu dyfodol disglair i blant lleol.

Ymunwch â ni i wneud gwahaniaeth, trwy faethu gyda’ch awdurdod lleol

Os hoffech drosglwyddo i faethu awdurdod lleol, neu os hoffech wybod mwy am faethu yn RhCT, cysylltwch â ni yma.

I bobl sy’nbyw y tu allan i RCT, am ragor o wybodaeth neu i ddod o hyd i wasanaeth maethu yn eich awdurdod lleol, ewch i https://maethucymru.llyw.cymru/

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch

  • Nodwch eich cyngor lleol
  • Cyngor Rhondda Cynon Taf yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.