
Yn y blog hwn rydym yn dathlu llwyddiant ac yn dymuno ymddeoliad hapus i John a Joy ac yn diolch iddynt am faethu gyda ni am yr holl flynyddoedd hynny. Llongyfarchiadau i chi’ch dau ar eich pen-blwydd priodas yn 50 oed!
Cafodd John a Joy Crosby eu cymeradwyo fel rhieni maeth ym mis Mai 1975.
Cawson nhw eu cymell i faethu ar ôl clywed am babis gefeilliaid ac roedden nhw eisiau cynnig cartref iddyn nhw. Dyma oedd dechrau perthynas hir a diflino rhwng Gwasanaethau i Blant Rhondda Cynon Taf a John a Joy.
Yn ystod y 45 mlynedd hynny, croesawodd John a Joy 100 o fabanod i’w cartref. Gyda chefnogaeth eu merched eu hunain, teimlodd John a Joy falchder a boddhad mawr wrth faethu ac yn fuan, daeth yn ffordd o fyw i’r ddau ohonyn nhw.
Bellach mae gan John a Joy fainc a choeden ym Mharc Ynysangharad Pontypridd i ddiolch iddynt am bopeth a wnaethant i ni.
I ddathlu eu hymddeoliad haeddiannol o’r gwasanaeth maethu, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi plannu coeden ac wedi codi mainc er anrhydedd iddyn nhw ym Mharc Coffa Ynysangharad. Y gobaith yw y bydd y rhain yn etifeddiaeth barhaol i John a Joy, a does dim modd gorbwysleisio’r cyfraniad cadarnhaol maen nhw wedi’i roi i fywydau cynifer o bobl.
Mae’r goeden yn symbol o’r 100 o fywydau y gwnaethon nhw eu meithrin a’u helpu i dyfu trwy gydol eu gyrfaoedd maethu ac mae’r fainc yn cynnwys cysegriad, a ysgrifennwyd gan eu merched Rebecca a Rachel sy’n darllen: “I John a Joy Crosby, na eisteddodd yn eu hunfan yn ystod eu 45 mlynedd o faethu ond a chafodd eu cymell i ofalu am 100 o fabanod yn Rhondda Cynon Taf.” Cafodd y goeden a’r fainc eu dadorchuddio’r yn ystod Covid ym mis Rhagfyr 2020. Hoffai llawer o bobl o garfan Gwasanaethau i Blant Rhondda Cynon Taf ddiolch i John a Joy am eu cyfraniad sylweddol at faethu yn yr awdurdod lleol. Meddai’r Cynghorydd Christina Leyshon, Aelod o’r Cabinet ar faterion Gwasanaethau i Blant ar y pryd: “Mae’n anodd amgyffred hir oes gyrfa John a Joy a’r cyfraniad eithriadol y maen nhw wedi’i wneud i faethu yn Rhondda Cynon Taf. Bydd colled fawr ar eu hôl gan bawb sydd wedi cael y pleser o weithio gyda nhw dros y blynyddoedd.”
Yn 2007 aethant i Lundain i ymweld â’r Frenhines!
Yn 2007, cafodd John a Joy eu cydnabod gan y Frenhines a dyfarnwyd MBE iddyn nhw am eu gwasanaethau i faethu.
Roedd John a Joy wedi’u plesio’n fawr bod eu gweithwyr cymdeithasol goruchwyliol wedi llwyddo i gadw’r gyfrinach hon oddi wrthynt wrth iddynt wneud y cais ar eu rhan ac wedi gweithio’n galed yn y cefndir i gael cydnabyddiaeth i’w gofalwyr maeth.
Fe wnaeth Annabel Lloyd, Cyfarwyddwr Gwasanaethau i Blant Rhondda Cynon Taf, gyfleu ei gwerthfawrogiad i’r cwpl trwy ddweud: “Diolch John a Joy, mae eich gofal a’ch caredigrwydd yn ysbrydoliaeth i ni i gyd. Rydych chi’n deulu rhagorol. Gan ddymuno ymddeoliad hir a hapus haeddiannol i chi.”
Ydych chi’n meddwl am Faethu?
Er eu bod wedi ymddeol erbyn hyn, mae John a Joy yn dal i ymwneud â Maethu Cymru RhCT ac yn ein cefnogi mewn sawl ffordd.

A yw John a Joy wedi eich ysbrydoli i ystyried dod yn rhiant maeth? Maethu Cymru RhCT yn awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â lle yn ei gartref ac amser yn ei fywyd i ofalu am blentyn neu berson ifanc. Gallwch ddysgu mwy ar ein gwefan neu ffoniwch ni ar 01443 425007 am sgwrs hamddenol am ddod yn ofalwr maeth.