blog

A ddylwn i ystyried maethu nawr bod fy mhlant wedi gadael cartref?

Syndrom Nyth Wag yw’r enw am y teimlad rydych chi’n ei deimlo pan fydd y ‘cyw melyn olaf’ wedi gadael yr aelwyd ac rydych chi’n teimlo ychydig ar goll neu’n wag heb eu presenoldeb dyddiol. Mae’n digwydd fel arfer yn ystod yr Hydref, pan fydd plant (sydd ddim yn blant mwyach!) yn cychwyn ar eu hantur nesaf, fel arfer i’r brifysgol. Gall fod yn amser da i ystyried maethu.

Gall fod yn anodd i rieni reoli eu teimladau pan fydd eu plant yn gadael yr aelwyd. Ar un llaw, rydych chi’n hapus eu bod nhw’n gadael i anturio’r byd ac yn falch eu bod nhw’n dysgu i fyw’n annibynnol. Ar y llaw arall, efallai fe wnewch chi sylweddoli bod byw mewn heddwch (yr hyn oeddech chi’n meddwl byddai’n ddelfrydol) yn dechrau dod yn ddiflas a byddwch chi’n methu eu cwmni nhw!

Fe wnaeth Sky Mobile gynnal ymchwil yn 2021 ymhlith rhieni oedd â phlant a oedd yn gadael yr aelwyd a chanfod bod bron i hanner (47%) yn dechrau poeni am y posibilrwydd o gael aelwydydd mwy gwag. Mae hyn yn awgrymu ei fod yn deimlad mwy cyffredin nag ydyn ni’n meddwl. Mae’n werth, felly, archwilio opsiynau i leihau’r teimladau yma.

Ydych chi wedi meddwl am faethu?

Mae llawer o rieni yn teimlo bod gyda nhw ragor i’w gynnig. Wrth gwrs, byddwch chi bob amser yn rhiant ni waeth beth yw oedran eich plentyn. Ond gyda’i annibyniaeth gynyddol, efallai eich bod chi’n sylweddoli nad ydych chi’n barod i gael tŷ heb blant ynddo eto. A chithau gydag ychydig mwy o le gwag yn eich aelwyd, ac o bosibl, gyda mwy o amser rhydd, ydych chi wedi ystyried croesawu plentyn neu frodyr/chwiorydd sydd eich angen chi i’ch aelwyd? A fyddech chi’n ystyried maethu?

Roedd Paula a Dave yn ‘nythwyr gwag’ ac yn rhannu ychydig am eu stori:

“Pan adawodd ein merch gyntaf ein haelwyd, roedd hi’n bendant yn dawelach, ond dim ond ar ôl i’n merch arall adael y gwnes i wir sylwi cymaint roeddwn i’n gweld eu heisiau nhw… hyd yn oed yr holl ffraeo!

Dywedodd fy ngŵr, fel jôc, ‘O na, rydyn ni nawr yn rhieni sydd â nyth wag!’

Mae gyda ni ffrind sy’n rhiant maeth ac awgrymodd y gallwn ni ddefnyddio’r gofod gwag sydd gyda ni i gynnig cartref i blant eraill sydd ei angen.  Roedden ni braidd yn ansicr i ddechrau, gan nad oedden ni eisiau i’n merched deimlo bod plant eraill yn cymryd eu lle nhw. Felly, fe wnaethon ni benderfynu y bydden ni’n dechrau maethu fel rhieni maeth gofal seibiant [cynnig gofal dros dro pan fo rhieni/gwarcheidwaid eraill angen seibiant].

Roedd hynny ychydig o flynyddoedd yn ôl. Bellach mae gennym ddau frawd mewn gofal maeth hirdymor. Mae ein merched ni wedi bod yn ofnadwy o gefnogol ac yn falch iawn ohonon ni am wneud rhywbeth defnyddiol gyda’r amser a’r gofod oedd gyda ni.

Yn amlwg, nid yw’n hawdd bob amser, ac rydyn ni’n brysur unwaith eto…ond mae gweld y wên ar eu hwynebau a’u gweld nhw’n rhannu eu teimladau yn gwneud bob eiliad heriol yn hollol werth ein hamser.”

ystyried maethu

Mae yna wahanol fathau o faethu

Mae sawl math gwahanol o faethu, felly peidiwch â chael eich annog i beidio ei wneud os ydych chi’n ansicr am ymrwymo i faethu yn amser llawn. Yn debyg i Paula a’i gŵr, gallech chi, i ddechrau, gynnig seibiannau tymor byr i blant mewn gofal maeth. Mae ein carfan yn gweithio’n galed i’ch paru â phlentyn/plant addas gan ein bod ni eisiau’r deilliannau gorau posibl i bawb sy’n rhan o’r broses. Ceir ychydig mwy o wybodaeth ar ein tudalen cwestiynau cyffredin, ond mae’r rhain yn bethau y gallwch chi eu trafod gyda’n swyddog recriwtio pan fyddwch chi’n ymholi.

A allai maethu fod yn eich dyfodol chi?

Fe wnaeth Allison a’i gŵr gynllunio ymlaen llaw i frwydro yn erbyn y ‘syndrom nyth wag’:

“Roedd [maethu] yn rhywbeth yr oeddwn i a fy ngŵr a bob amser eisiau ei wneud.

Fe wnaethon ni hyd yn oed symud i fyw i dŷ mwy er mwyn gallu maethu pan nad oedd ein plant ni’n dangos unhrhyw arwydd o adael yr aelwyd; roedden nhw dal i fyw gartref drwy gydol eu hamser yn y brifysgol!

Dros y deg mlynedd diwethaf yn maethu, mae ein plant ni ein hunain wedi mynd rhagddo i greu eu haelwydydd a’u teuluoedd eu hunain.

Yn bendant, fe wnaeth maethu wneud ein cartref ni yn lle hapus yn ystod cyfnod a fyddai heb os wedi bod yn gyfnod o ‘syndrom nyth wag’ i mi.” – Allison

Allech chi ystyried maethu?

P’un a ydych chi’n gwybod yr hoffech chi fod yn rhiant maeth ers blynyddoedd, yn ansicr a fyddech chi’n dda, neu os hoffech chi wybod ychydig mwy, mae gyda ni swyddog recriwtio penodedig sy’n hapus i gael sgwrs anffurfiol.

Yn syml, llenwch y ffurflen gyswllt a chysylltwch â ni heddiw – pwy a ŵyr…efallai dyma’r peth gorau a wnewch chi!

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn