blog

dewis maethu cymru oedd y penderfyniad gorau i ni ei wneud erioed

Mae maethu plentyn neu berson ifanc yn un o’r pethau mwyaf gwerth chweil y gallwch chi ei wneud. Mae’n daith sy’n rhoi cyfle i chi wneud gwahaniaeth mawr, ac yn gyfle i chi eu cynorthwyo wrth iddyn nhw dyfu i fyny gan greu dyfodol gwell ar eu cyfer.

Mae maethu yn benderfyniad mawr, rhaid ystyried hefyd gyda phwy y dylech chi faethu?

pam maethu gyda’ch awdurdod lleol?

Un rheswm y dylech chi faethu gyda’ch awdurdod lleol yw ein bod ni’n sefydliad nid er elw. Ein unig nod wrth weithio yw gwella bywydau plant sy’n agored i niwed. Mae pob penderfyniad rydyn ni’n ei wneud yn seiliedig ar beth sydd orau ar gyfer y plentyn a’u dyfodol, a ddim yn ddulliau o wneud elw. Darllenwch ragor am y Bil Gwared ag Elw sy’n cael ei weithredu gan Lywodraeth Cymru yma.

Trwy faethu gyda’ch Awdurdod Lleol, byddwch chi’n dod yn rhan o rwydwaith sydd wedi ymrwymo i ddarparu gofal ystyrlon, o ansawdd i blant. Bydd y cymorth y byddwch chi’n ei dderbyn yn cael ei deilwra i’ch anghenion yn rhiant maeth, gan sicrhau eich bod chi wedi’ch paratoi, wedi’ch grymuso, ac yn cael eich cynorthwyo drwy gydol y broses maethu.

Peidiwch â chymryd ein gair ni’n unig am hynny! Roedd dau o’n rhieni maeth hyfryd yn Rhondda Cynon Taf, Tor a Tim, yn arfer maethu gydag asiantaeth annibynnol, ond fe benderfynon nhw drosglwyddo i ni.

Dyma oedd gyda nhw i’w ddweud:

“Daethon ni’n rhieni maeth yn 2015. Roedden ni wedi maethu gydag asiantaeth maethu masnachol am chwe blynedd. Cyn trosglwyddo i’n Hawdurdod Lleol. Roedd yn gwbl wahanol i’r hyn roedden ni’n ei ddisgwyl.

Dewis maethu gyda Maethu Cymru yw’r penderfyniad gorau rydyn ni wedi’i wneud erioed.”

behind the scenes with foster carers

buddion maethu gyda’ch awdurdod lleol

Mae maethu gyda’ch Awdurdod Lleol hefyd yn golygu ymuno â chymuned ehangach o rieni maeth sy’n rhannu’ch ymrwymiad i helpu plant. Rydych chi’n fwy na rhiant maeth – rydych chi’n rhan o rwydwaith o unigolion, teuluoedd a staff sydd oll yn gweithio tuag at yr un nod cyffredin. Creu dyfodol gwell ar gyfer plant lleol.

“Yn y gorffennol, roedden ni wedi gofalu am blant hŷn bob tro.

Pan ddechreuon ni faethu trwy’r Awdurdod Lleol, roedden ni wedi dechrau gofalu am ferch iau – rhywbeth nad oedden ni wedi’i wneud o’r blaen. Ond roedd yr help roedden ni’n ei dderbyn yn chwa o awyr iach.

Mae ein gweithiwr cymdeithasol wedi bod wrth ben arall y ffôn bob adeg.  Ac, mae cymuned maethu gryf iawn yma.

Nawr, mae mwy o bobl nag erioed yn rhieni maeth, am fod ein Hawdurdod Lleol yn helpu i ddod â nhw at ei gilydd. Mae gyda ni hyd yn oed grŵp WhatsApp.

Rydyn ni wir yn edrych ar ôl ein gilydd.” – Tim a Tor

Mae’r teimlad yma o fod yn rhan o gymuned yn gwneud y profiad yn fwy buddiol yn aml. Mae’r berthynas agos sy’n cael ei ffurfio â rhieni maeth eraill a gweithwyr cymdeithasol yn werthfawr iawn, i chi yn rhieni maeth ac i’r plant rydych chi’n gofalu amdanyn nhw.

cadw plant maeth yn lleol

Mae sefydlogrwydd yn allweddol ar gyfer datblygiad plentyn. Pan rydych chi’n maethu gyda’ch Awdurdod Lleol, rydych chi’n helpu i gadw plant yn eu hardal leol, gan gynnal cysylltiadau â’u hysgol, eu ffrindiau, a rhwydweithiau cymorth. Mae modd i aros yn agos at eu gwreiddiau ddarparu’r cysondeb a’r agosatrwydd y maen nhw eu hangen yn ystod cyfnod heriol.

Y llynedd, roedd 85% o’r bobl ifainc gyda rhieni maeth Awdurdod Lleol wedi aros yn eu hardaloedd lleol. Dim ond 31% o bobl ifainc gydag asiantaethau maethu masnachol oedd wedi aros yn eu hardaloedd lleol, gyda 7% yn cael eu symud y tu allan i Gymru.

Pan mae plant yn aros mewn ardal gyfarwydd, mae’n llai tebygol y bydd tarfu ar eu haddysg, perthynas gyda ffrindiau, neu weithgareddau allgyrsiol. Mae’r rhain oll yn bethau pwysig iddyn nhw, yn enwedig pan mae eu bywyd gartref yn llai sefydlog.

effaith maethu gyda’ch Awdurdod Lleol

Fyddwch chi ddim ar eich pen eich hun ar eich taith maethu. Boed hyn yn gymorth emosiynol, help ymarferol, neu fynediad at wasanaethau ychwanegol, bydd eich Awdurdod Lleol ac ein cymuned maethu yn gefn i chi ar gyfer bob cam.

“A dweud y gwir, dydw i ddim yn gwybod lle bydden ni heb ein Hawdurdod Lleol, ein cymuned maethu leol – ac wrth gwrs, ein plant maeth.

Maen nhw wir wedi newid ein bywydau.” – Tim a Tor

gwneud gwahaniaeth i fywyd plentyn

Mae maethu gyda’ch Awdurdod Lleol yn fwy nag ond cynnig lle i blentyn neu berson ifanc aros – mae’n cael effaith ar eu bywydau, ac yn sicrhau eu bod nhw’n derbyn y gofal, cariad a chymorth sydd ei angen arnyn nhw i ffynnu. Mae’r gwahaniaeth y gallwch chi ei wneud yn rhiant maeth wirioneddol yn rhywbeth arbennig.

Os ydych chi wedi bod yn ystyried maethu, beth am gymryd y cam cyntaf?

Mae gyda ni sesiynau gwybodaeth ac achlysuron galw heibio os hoffech chi ddysgu rhagor, neu cysylltwch â ni yma.

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn