blog

y plentyn sydd wrth galon popeth wrth faethu gyda’r awdurdod lleol

Pa ffordd well o ddysgu am faethu gydag awdurdodau lleol, a sut mae’r plentyn wrth wraidd popeth, na thrwy glywed gan ddau o’n cynhalwyr maeth gwych!?

Mae Catherine ac Alan wedi bod yn gynhalwyr maeth ers blynyddoedd, ond penderfynon nhw drosglwyddo o asiantaeth faethu annibynnol, aton ni – Maethu Cymru RhCT. Maen nhw’n rhoi gofal maeth hirdymor i fachgen, sy’n golygu bod y plentyn wedi dod yn aelod hanfodol o’u teulu, a bydd yn aros gyda nhw hyd nes y bydd e’n oedolyn.

Bydd y blog yma’n canolbwyntio ar brofiadau maethu Catherine ac Alan, gan gwmpasu’r pynciau canlynol:

  • Sut brofiad oedd y broses drosglwyddo o asiantaeth maethu annibynnol i faethu gydag awdurdod lleol i chi?
  • Allech chi rannu ychydig am y cymorth rydych chi wedi’i dderbyn wrth faethu gydag awdurdod lleol Rhondda Cynon Taf?
  • Sut brofiad y mae modd ei ddisgwyl wrth faethu gyda’u hawdurdod lleol?
  • Sut beth yw’ch perthynas â staff yr awdurdod lleol?
  • Sut mae bywyd wedi bod i’r plentyn maeth yn eich gofal?

(Os ydych chi’n brin o amser, bydden ni’n argymell darllen y pwynt olaf a dod yn ôl i ddarllen y gweddill!)

Two foster carers smiling

sut brofiad oedd y broses drosglwyddo o asiantaeth maethu annibynnol i faethu gydag awdurdod lleol i chi?

“Roedd y broses drosglwyddo’n hawdd, hyd yn oed wrth orfod ail-lenwi’r ffurflen F*, cafodd y rhan fwyaf o’r wybodaeth ei throsglwyddo, gyda ninnau ond yn gorfod cadarnhau pethau. Ni chymerodd yr holl broses amser hir.

Roedd pawb mor glên a chyfeillgar trwy gydol y broses, ac fe helpodd hynny.  Trosglwyddo oedd y profiad gorau i ni, yr Awdurdod Lleol ac roedd pawb rydyn ni wedi’i gael fel Gweithiwr Cymdeithasol Goruchwylio, hyd yn oed cyn trosglwyddo, mor gyfeillgar a phroffesiynol. Roedd hyn yn gwneud y penderfyniad i drosglwyddo yn un hawdd!

Wrth faethu gyda’r awdurdod lleol, mae’r plentyn yn ganolog i bopeth ond gyda phwyslais ar ‘deulu’, ac mae hyn yn bwysig i ni. Oherwydd natur ein taith faethu, a’r plentyn sydd gyda ni, rydyn ni wedi cael ein gadael ar ein pen ein hunain yn bennaf, a hynny fel bod modd i ni fod yn ‘deulu cymysg cyffredin’. Rydyn ni’n maethu yn y tymor hir a bydd ein plentyn yn aros gyda ni tan ei fod yn oedolyn, a thu hwnt. Felly mae’r awdurdod lleol yn ein helpu i deimlo ei fod yn blentyn i ni, ond rydyn ni’n gwybod bod cymorth ar gael trwy alwad ffôn  os oes ei angen arnon ni ar unrhyw adeg.

Oherwydd bod y ddau ohonon ni’n gweithio, mae hyfforddiant ar-lein yn beth gwych i ni, ac rydyn ni’n cael ei gyflawni fel hyn heb orfod mynd i unrhyw hyfforddiant wyneb yn wyneb.

*Mae Ffurflen F yn offeryn asesu generig lle byddwch chi’n gweithio gyda’ch gweithiwr cymdeithasol asesu i roi’r holl wybodaeth at ei gilydd ar gyfer eich asesiad a’ch cymeradwyaeth – mae’n rhaid i bob gwasanaeth maethu gadw at hyn.

allech chi rannu ychydig am y cymorth rydych chi wedi’i dderbyn wrth faethu gydag awdurdod lleol Rhondda Cynon Taf?

Mae gyda ni gefnogaeth anhygoel gan Weithiwr Cymdeithasol Plant, Gweithiwr Cymdeithasol Goruchwylio, Swyddog Adolygu Annibynnol.

Rydyn ni’n cael ein gwahodd i lawer o achlysuron ac mae’n cael ei barchu os nad ydyn ni’n gallu mynychu oherwydd ymrwymiadau gwaith. Does dim beirniadaeth am beidio â mynychu.

Mae yna grŵp Facebook caeedig ac mae’n wych i gynhalwyr rannu syniadau, cefnogi/helpu ei gilydd, a chael diweddariadau gan y gwasanaeth maethu. 

sut brofiad y mae modd ei ddisgwyl wrth faethu gyda’u hawdurdod lleol?

Mae’r cymorth wedi bod yn anhygoel gan bawb.

Un peth cadarnhaol mawr i ni yw ein bod ni’n gweithio gyda’r teulu biolegol yn barhaus ac yn eu cynnwys yn rhan o’n teulu ein hunain. Rydyn ni’n hyrwyddo hyn fel teulu cymysg. Mae’n helpu ein plentyn i deimlo wedi’i gynnwys ac mae’n dangos nad oes unrhyw hollt, gyda theuluoedd yn gweithio yn erbyn ei gilydd.

Rydyn ni’n cael ein caniatáu i wneud ein penderfyniadau ein hunain ynglŷn â gofal ein plentyn cyn belled ag y bo modd i ni egluro’r rhesymeg os oes angen. Mae’n amlwg oherwydd hyn bod y plentyn wrth galon popeth, ac nad yw arian yn effeithio ar ddull gweithredu’r awdurdod lleol. 

sut beth yw’ch perthynas â staff yr awdurdod lleol?

Rydyn ni wedi bod mor ffodus i gael cefnogaeth wych gan y Gweithiwr Cymdeithasol Plant a’n Gweithiwr Cymdeithasol Goruchwylio. Er bod sawl un ohonyn nhw wedi bod, mae pob un wedi gwneud yr ymdrech i ddod i adnabod fy mhlentyn ac i ddarganfod beth sy’n bwysig iddo, a’i gynnwys fel unrhyw blentyn arall. Mae’r Swyddog Adolygu Annibynnol wedi bod yn gefn cyson i ni, sydd unwaith eto yn wych. 

sut mae bywyd wedi bod i’r plentyn maeth yn eich gofal?

Mae ein plentyn wedi bod gyda ni ers 10 mlynedd, ers pan oedd e’n 6 oed.

Cafodd ei ddiystyru fwy neu lai gan nifer o ysgolion, a doedd e ond wedi mynd i wersi ym mlwyddyn 10 yn 14 oed – felly breuddwyd yn unig oedd sefyll unrhyw arholiadau. Fodd bynnag, roedd yr ysgol y llwyddodd ymgartrefu ynddi o’r diwedd wedi caniatáu iddo gymryd yr awenau gyda’i ddysgu. Cafodd yr un arferion a ffiniau â’r rhai sydd ar waith yn ein cartref eu rhoi ar waith, gan greu perthynas wych rhwng ein cartref a’i ysgol olaf, ac mewn dim ond 2 flynedd, llwyddodd i basio ei arholiadau TGAU gydag 1A, 3B, 1C yn ogystal ag ennill Gwobr y Pennaeth!

Ei eiriau oedd “pe bawn i’n gwybod y byddai mor hawdd â hyn, byddwn i wedi ymdrechu’n galetach yn gynt”. Ymateb nodweddiadol i’w hiwmor unigryw, sarcastig, cariadus a twyllodrus!

Foster carers celebrating

Doedd e ddim yn gallu mynychu achlysur prom yr ysgol, byddai wedi bod yn ormod iddo, felly fe wnaethon ni gynnal un yn yr ardd a chynnwys ei deulu geni. 

os ydych chi wedi bod yn ystyried maethu, beth am gymryd y cam cyntaf?

Mae gyda ni sesiynau gwybodaeth ac achlysuron galw heibio os hoffech chi ddysgu rhagor, neu cysylltwch â ni yma.

Os ydych yn byw y tu allan i RhCT, ewch i wefan maethu cymru i ddod o hyd i wasanaeth maethu eich awdurdod lleol.

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn