blog

Y rhieni maeth Shan a Steff: yn cynnig cymorth, un seibiant byr ar y tro

Wrth feddwl am faethu, mae pobl yn aml yn dychmygu croesawu plentyn i’w cartref ar sail llawn amser. Ond mae llawer o opsiynau maethu i’w cael – does dim un dull sy’n addas i bawb. Ym Maethu Cymru RhCT, mae gyda ni wahanol ffyrdd o gefnogi plant a phobl ifainc, ac un o’r rheini yw cynnig cymorth tymor byr.

Gall gofal cymorth gynnwys seibiannau byr, arosiadau dros nos, seibiannau dros benwythnos neu ymweliadau rheolaidd. Mae’n cynnig cyfle i blant a phobl ifainc dreulio amser gyda theulu gofalgar arall wrth helpu i gryfhau’r rhwydwaith cymorth o’u cwmpas. Yn wir, rhaid cael cymorth a chydweithrediad cymuned o bobl i roi gofal maeth.

gofalwyr maeth rhct

Mae Shan a Steff yn rhieni maeth sy’n cynnig cymorth am gyfnodau byr, ac mae hyn wedi dod yn ffordd werth chweil iddyn nhw o wneud gwahaniaeth.

“Rydyn ni wrth ein bodd gyda’r hyn rydyn ni’n ei wneud fel cynhalwyr gofal seibiant, ac rydyn ni wedi gwneud llawer o gysylltiadau gwych gyda rhieni maeth a phlant mewn gofal.”

Mae Shan bellach wedi ymddeol, tra bod ei gŵr Steff yn gweithio’n rhan-amser fel parafeddyg. Mae gan y cwpl ddau o blant sydd bellach yn oedolion, ac fe welon nhw’r effaith y mae maethu’n ei gael am y tro cyntaf trwy eu mab ieuengaf a’u merch-yng-nghyfraith, a fu’n maethu am saith mlynedd.

“Fe wnaethon ni chwarae rhan fawr yn eu taith maethu,” meddai Shan. “O weld y gwahaniaeth y gallai maethu ei gael, cawson ni ein hysbrydoli i ddod yn rhan o bethau ein hunain.”

Heddiw, mae Shan a Steff yn darparu seibiannau byr rheolaidd i blant a phobl ifainc, ac mae hyn yn amrywio o arosiadau dros nos i ymweliadau sy’n para hyd at bythefnos. Yn aml, maen nhw’n cefnogi’r un plant dros amser, gan feithrin perthnasoedd dibynadwy a dod yn rhan o gylch cymorth estynedig y plentyn.

Yn ogystal â seibiannau byr wedi’u cynllunio, maen nhw hefyd wedi darparu gofal brys pan fo angen, gan gamu i mewn i helpu ar fyr rybudd.

Un o’r pethau maen nhw’n ei fwynhau fwyaf yw gweld y cysylltiadau maen nhw wedi’u meithrin yn tyfu’n gryfach dros amser.

“Mae llawer o blant yn gofyn am ddod yn ôl aton ni,” meddai Shan.

gofalwyr maeth yn cynnig cymorth

Pam mae gofal cymorth yn bwysig

Mae gofal cymorth yn chwarae rhan bwysig o ran helpu trefniadau maethu i ffynnu.

I rieni maeth a’u teuluoedd ehangach, mae seibiannau byr yn cynnig amser gwerthfawr i fagu nerth, ymdrin ag ymrwymiadau’r teulu a dychwelyd i faethu gan deimlo’n llawn egni. Mae modd iddo greu cyfleoedd i ailgysylltu â phartneriaid a phlant biolegol, mynd i achlysuron pwysig i’r teulu neu gymryd yr amser sydd ei angen i gynnal cydbwysedd iach.

I blant a phobl ifainc, mae gofal cymorth yn cynnig rhywbeth yr un mor bwysig: profiadau newydd, sylw wedi’i ganolbwyntio a’r cyfle i feithrin perthnasoedd ag oedolion diogel a dibynadwy ychwanegol. Wrth gael mwy o bobl ofalgar yn bod yn gefn iddyn nhw, mae modd i hyn helpu plant i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu gwerthfawrogi a’u bod yn creu cysylltiadau.

Mae modd i ofal cymorth hefyd fod o fudd i’r berthynas rhwng plentyn a’i deulu maeth. Yn ystod cyfnodau heriol, mae modd i seibiant byr roi cyfle i bawb adfywio, gan helpu i gryfhau perthnasoedd a hybu sefydlogrwydd hirdymor.

Mae mwy nag un ffordd o faethu

Mae stori Shan a Steff yn tynnu sylw at neges bwysig. Mae mwy nag un ffordd o faethu.

Nid yw pawb yn y sefyllfa i ddarparu gofal llawn amser, ond byddai modd i lawer o bobl gynnig arhosiad dros nos yn achlysurol, seibiant dros benwythnos yn rheolaidd neu roi cymorth yn ystod gwyliau’r ysgol. Mae modd i’r cyfleoedd hyn wneud gwahaniaeth enfawr i blant a theuluoedd maeth fel ei gilydd.

I rai pobl, gall gofal cymorth hefyd fod yn gyflwyniad perffaith i faethu. Mae’n cynnig y cyfle i fagu hyder ac ennill profiad o fewn trefniant clir sydd wedi’i gynllunio. Mae modd i gynhalwyr ddatblygu eu dealltwriaeth o faethu, dysgu beth sy’n gweithio i’w teulu nhw a thrafod pa oedrannau, anghenion ac arferion fyddai o bosibl orau iddyn nhw.

Gall yr hyblygrwydd o ran gofal cymorth wneud maethu’n bosibl ochr yn ochr â chyflogaeth, ymddeoliad, ymrwymiadau’r teulu a chyfrifoldebau eraill. Gall hefyd helpu i roi darlun cliriach o faethu drwy roi profiad uniongyrchol i bobl o’r hyn sydd ynghlwm â maethu cyn iddyn nhw ystyried gofal tymor hwy.

Rhan bwysig o’r gymuned

Mae cynhalwyr cymorth yn rhan hanfodol o’r gymuned maethu. Maen nhw’n rhoi oedolion dibynadwy ychwanegol i blant, maen nhw’n gefn i deuluoedd maeth pan fyddan nhw ei angen fwyaf ac yn helpu i greu’r rhwydweithiau cryf sy’n caniatáu i blant ffynnu.

I Shan a Steff, mae pob arhosiad dros nos, seibiant dros benwythnos ac ail-ymweliad yn gyfle i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ym mywyd plentyn.

Mae eu stori yn ein hatgoffa ni bod maethu yn ymwneud â mwy na darparu cartref yn unig. Weithiau, mae’n ymwneud â bod yn rhan o’r gymuned o amgylch y plentyn. Ac weithiau, mae gwneud gwahaniaeth yn dechrau gydag un arhosiad ar y tro.

Cymerwch olwg ar ein tudalen Mathau o Faethu i ddarganfod sut y gallech chi faethu!

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn