blog

Pryd yw’r amser iawn i mi faethu?

I rai pobl, mae maethu yn rhywbeth y maen nhw wedi bod eisiau ei wneud ers amser hir. I bobl eraill, mae’n bosibl mai ystyriaeth ddiweddar ydyw. Pa bynnag gam rydych chi wedi’i gyrraedd, mae angen i chi ystyried pryd mae’r amser iawn i chi faethu.

Os na nawr, pryd?

Mae’n werth cofio efallai na fydd amser ‘perffaith’, ond os oes gyda chi le yn eich cartref a lle yn eich calon, ac rydych chi’n barod i greu dyfodol gwell i blant lleol – byddai modd i chi faethu.

Rydyn ni’n annog rhieni maeth o bob cefndir – ni waeth beth fo’ch oedran, rhywioldeb, statws perthynas, os ydych chi’n sengl neu’n briod, yn rhentu neu’n berchen ar dŷ. Eich profiad bywyd a’ch gallu i ofalu yw’r hyn rydyn ni’n edrych amdano.

Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio gyda theuluoedd ledled Cymru i’w cael nhw mewn sefyllfa lle maen nhw’n hyderus yn eu gallu i faethu, a hynny trwy ein hyfforddiant a’n cefnogaeth.

Sut ydych chi’n gwybod mai dyma’r amser iawn i faethu?

Fe wnaethon ni ofyn i rai o’n rhieni maeth i rannu beth wnaeth eu cymell nhw i ddechrau maethu.

I Rachel, fe sylweddolodd hi nad oedd ei swydd flaenorol yn caniatáu iddi hi dreulio amser gyda’i theulu, ac felly fe newidiodd hi ei gyrfa a dechrau maethu. Meddai hi:

“Doedd fy swydd flaenorol ddim yn gweddu i ddynameg fy nheulu o gwbl. Mae maethu yn fy ngalluogi i fod gyda fy nheulu wrth ddarparu cariad, gofal a chymorth ychwanegol i ragor o blant sydd eu hangen.” – Rachel

Woman smiling and supporting teenage boy gardening

Mae Michelle wedi gweithio’n agos gyda phlant ers amser maith fel cynhaliwr cyswllt i deuluoedd [gwasanaeth i blant ag anghenion ychwanegol a’u rhieni, sy’n eu cysylltu â theuluoedd/unigolion eraill i roi seibiant byr iddyn nhw yn rheolaidd]. Fe wnaeth ei helpu hi i sylweddoli beth fyddai modd iddi hi ei gynnig i blant lleol fel rhiant maeth. Rhannodd Michelle:

“Fe wnes i gwympo i mewn i faethu gan fy mod i wedi gweithio’n gynhaliwr cyswllt i deuluoedd o’r blaen. Rydw i’n meddwl bod rhai pobl yn ofni na fydd maethu yn gweithio iddyn nhw, ond mae yna’r opsiwn o faethu yn y tymor byr a rhoi ‘seibiant’ i rieni maeth eraill os ydych chi’n ansicr am faethu yn hir dymor.

Yr hyn sy’n fy ngwneud i’n hapus yw eu gweld nhw yma gyda fi. Rydych chi’n dysgu cymaint amdanoch chi eich hun fel person ac mae gyda chi ragor o gariad i’w rannu. Byddwn ni’n parhau i roi cymorth am flynyddoedd i ddod.” – Michelle

Mae dechrau maethu yn aml yn ymwneud â dod o hyd i ddiben newydd, a’r amser iawn

Roedd Allison a’i gŵr yn gwybod eu bod nhw eisiau maethu am nifer o flynyddoedd, ond roedd angen iddyn nhw aros hyd nes ei fod yn amser iawn i’w teulu nhw. Roedden nhw’n gwybod y byddai gyda nhw ragor i’w gynnig ar ôl i’w plant eu hunain adael y cartref. Roedden nhw eisiau bod yn rhagweithiol a cheisio osgoi’r ‘syndrom nyth wag’, ond, aeth pethau ychydig yn wahanol i’r disgwyl:

“Roedd yn rhywbeth yr oeddwn i a fy ngŵr bob amser eisiau ei wneud. Fe wnaethon ni hyd yn oed symud i fyw mewn tŷ mwy yn fwriadol er mwyn gallu maethu ond doedd ein plant ni ddim yn dangos unrhyw awydd i adael yr aelwyd; fe wnaethon nhw hyd yn oed fyw gartref drwy gydol eu hamser yn y brifysgol!

Dros y deng mlynedd diwethaf yn maethu, mae ein plant ni ein hunain wedi symud ymlaen i greu eu haelwydydd a’u teuluoedd eu hunain. Heb os, fe wnaeth maethu wneud ein cartref ni yn lle hapus yn ystod cyfnod a fyddai wedi bod yn gyfnod o ‘syndrom nyth wag’ i mi.” – Allison

Fe wnes i aros hyd nes bod fy mhlant wedi cyrraedd oedran lle yr oedden nhw’n gallu deall oherwydd heb eu cefnogaeth a’u sêl bendith nhw, roeddwn i’n gwybod na fyddwn i wedi gallu parhau â’r broses. Pan ofynnais i, roedden nhw i gyd yn eu harddegau yn 13, 15 a 19 oed, a dechreuodd ein taith!” – Karen

Weithiau newid mewn amgylchiadau bywyd sy’n caniatáu i bobl gyflawni eu hangerdd i faethu. Dyna oedd sefyllfa Martine:

“Roeddwn i eisiau maethu flynyddoedd yn ôl, ond doedd fy nghyn-ŵr ddim eisiau gwneud. Ar ôl i ni ysgaru, fe wnes i gais i ddod yn rhiant maeth.” – Martine

Os nad chi, yna pwy?

Roedd newid mewn amgylchiadau bywyd i Lynnett, hefyd:

“Roeddwn i a fy ngŵr eisiau maethu am sawl blwyddyn ar ôl i’n plant adael ein cartref, ond, yn dilyn marwolaeth fy ngŵr, fe wnes i benderfynu pe na bawn i’n ei wneud bryd hynny, y byddai’n rhy hwyr, a byddwn i bob amser yn difaru peidio â’i wneud.

Fe wnes i gais, ac rydw i’n teimlo fel fy mod i’n maethu dros y ddau ohonon ni. Rydw i wrth fy modd.” – Lynnett

Female adult playing Uno with daughters

Efallai bod gyda chi gysylltiad â’r gwasanaethau maethu/mabwysiadu/plant. Rydych chi wedi gweld â’ch llygaid eich hun sut y mae modd i rieni maeth cariadus wella bywydau plant yn sylweddol, ac yn teimlo bod gyda chi’r profiad iawn i gynnig hyn eich hun, fel Diane a’i phartner:

“Fe wnaethon ni fabwysiadu ein merch pan oedd hi’n 9 mis oed. Fe wnaethon ni ystyried maethu pan oedd hi’n 3 oed ac yn dechrau yn yr ysgol gan fod gyda ni berthynas arbennig â’i rhiant maeth blaenorol a ofalodd amdani hi cyn i ni ei mabwysiadu.

Fe wnaethon ni benderfynu ein bod ni eisiau bod yn deulu maeth a rhoi’r cyfle i fabanod gael dechrau da mewn bywyd, fel cafodd ein merch ni.

15 mlynedd yn ddiweddarach, 15 babi, ac rydyn ni’n dal i fwynhau!” – Diane

Ai nawr yw’r amser iawn i chi faethu?

Fel y gwelwch chi, does dim un dull maethu yn ‘addas i bawb’. Mae cymaint o wahanol amgylchiadau sy’n annog pobl i ddechrau ar eu taith faethu, ac efallai bod bywyd ychydig yn rhy fyr i fod yn aros am yr amser ‘perffaith’ beth bynnag (rydyn ni’n ansicr a yw’r fath beth yn bodoli). Beth sydd bwysicaf yw bod gyda chi le, eich bod chi’n gallu cynnig gofal, ac eich bod chi’n agored i ddechrau’r sgwrs.

A family enjoying some snacks in garden

Eisiau clywed mwy gan ein gofalwyr maeth?

Gwyliwch ein fideos a gwrandewch ar ofalwyr maeth cymru go iawn yn siarad am sut beth yw maethu plant gyda’r awdurdod lleol https://youtu.be/6Eni6269F3A

Felly, ni waeth beth fo’ch sefyllfa, byddai modd i chi gymryd y cam cyntaf i ddechrau maethu, fel y mae ein rhieni maeth arbennig wedi ei wneud. Mae’n amlwg bod pawb sydd wedi rhannu eu taith yn teimlo bod maethu wedi gwella eu bywydau, ac mae’n parhau i roi boddhad mewn ffyrdd sy’n wahanol i unrhyw beth arall.

Os hoffech chi ragor o wybodaeth, neu os hoffech chi sgwrs am eich amgylchiadau, cysylltwch â ni.

Os ydych chi’n byw y tu allan i RCT a hoffech chi ragor o wybodaeth am faethu yn eich ardal leol, ewch i Maethu Cymru a dewis carfan faethu eich awdurdod lleol.

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn