blog

Syniadau Da ar faethu dros y Nadolig

Mae’r Nadolig yn amser hyfryd o’r flwyddyn ac felly y dylai fod. Fodd bynnag, i lawer o blant maeth, gall eu teimladau adeg yma’r flwyddyn fod yn llethol oherwydd yr hyn maen nhw wedi’i brofi. Rydyn ni wedi cynnig rhai awgrymiadau da ar faethu dros y Nadolig, yn seiliedig ar gwestiynau a allai boeni plant maeth.

Dyw hi ddim yn syndod bod rhai plant ei chael hi’n anodd, yn enwedig pan rydyn ni’n ystyried bod y rhan fwyaf o’r hyn rydyn ni’n ei weld a’i glywed ar y cyfryngau cymdeithasol, y teledu ac ar hysbysebion ac ati yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig yn aml yn darlunio’r teulu ‘perffaith’ yn mwynhau eu hunain. Rydyn ni wedi siarad â rhieni maeth newydd a phrofiadol i ddeall yn fanwl sut brofiad mae’r Nadolig wedi bod i blant yn eu gofal, a phethau pwysig i fod yn effro iddyn nhw.

Nid yw’n fêl i gyd, felly dyma rai awgrymiadau defnyddiol i’ch helpu os ydych eisoes yn maethu neu’n ystyried dod yn ofalwr maeth.

“Beth sy’n digwydd, pwy yw’r bobl yma, a sut ydy hi’n bosibl fy mod i ddim wedi profi hyn erioed o’r blaen?”

 Mae cyfathrebu’n allweddol!

Mae cyfathrebu’n hynod bwysig yn ystod y tymor y Nadolig, fel mae hi ar hyd y flwyddyn. Yn gyffredinol, mae plant a phobl ifainc yn aml yn ei chael hi’n anodd mynegi’r hyn maen nhw’n ei deimlo, yn enwedig os dydyn nhw ddim wedi cael cyfle i wneud hynny o’r blaen. Efallai na fyddan nhw hyd yn oed yn deall yr hyn maen nhw’n ei deimlo. Byddwn ni’n awgrymu rhoi cynnig ar yr isod a byddwn wrth ein boddau’n gwybod sut aeth hi…

Rhannwch eich cynlluniau ar gyfer cyfnod y Nadolig – beth i’w ddisgwyl, pwy fydd yn ymweld o bosibl, dangoswch luniau o’r rheiny fydd yn galw heibio os nad yw’ch plentyn maeth wedi cwrdd â nhw eto, rhannwch luniau o wyliau Nadolig blaenorol. Bwriad yr holl bethau hyn yw lleihau sypreis/pryder yn ystod y cyfnod cyffrous yma.

Esboniwch beth yw’r Nadolig i chi fel deulu, beth rydych chi fel arfer yn ei wneud yn ystod y cyfnod yma, amlygwch a pharatowch ar gyfer y newid yn eich trefn arferol. Po fwyaf y gallwch chi rhannu ac egluro, yr hawsaf fydd hi i’r plentyn addasu. Dydyn ni ddim yn mynd i esgus y bydd popeth yn berffaith, ond bydd yn help mawr ar adeg sy’n hynod wahanol i arferion bywyd pob dydd mae e/hi o bosibl yn gyfarwydd ag e.

“Mae pob plentyn yn unigolyn, efallai na fydd yr hyn sy’n gweithio i un plentyn, yn gweithio i blentyn arall”. Wrth drin sefyllfaoedd heriol mae dau brif beth y byddwn ni’n awgrymu i chi eu cofio sef dangos eich bod chi’n deall, a dangos bod ots gyda chi. Mae ymadroddion syml fel ‘Rwy’n deall eich bod chi wedi cynhyrfu’ yn dangos eich bod chi’n cydymdeimlo, ac yn aml, gall hynny helpu’r plentyn maeth i deimlo bod ei emosiynau’n ddilys ac felly’n helpu i ddechrau sgwrs agored.

Cofiwch fod yn ofalus ynghylch yr wybodaeth rydych chi’n ei rhannu gyda ffrindiau a theulu. Mae gorffennol y plentyn maeth yn gyfrinachol ond bydd gwneud y teulu estynedig yn effro i’r sefyllfa cyn iddyn nhw ymweld/cyn y parti, o bosibl yn helpu’r ffordd mae’ch plentyn/plant maeth yn teimlo. 

Cyngor Craff: Syniad da efallai byddai gwneud cynlluniau i ymweld â rhai ffrindiau a theulu i ffwrdd o’ch cartref chi. Os gwnewch chi hynny, bydd modd i chi adael ar unrhyw adeg os yw’r sefyllfa ychydig yn ormod i’r plentyn/plant.

“Byddaf i yn y ffordd y Nadolig hwn?”

Dyma gyfle gwych i rannu traddodiadau ac efallai i greu rhai newydd.

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn mwynhau eu traddodiadau Nadoligaidd. P’un a yw’n mynd i achlysuron penodol yn eich tref leol, rhoi’r goeden i fyny ar ddyddiad penodol, neu wylio hen ffilmiau Nadolig clasurol – mae pob un ohonon ni’n unigryw. Ond ynghanol miri’r ŵyl, efallai na fyddwch chi’n ystyried y posibilrwydd fod llawer o blant maeth yn ei chael hi’n anodd teimlo’n rhan o bethau. Byddai modd i hynny fod am nifer o resymau fel y gallwch chi ddychmygu…gwahaniaeth mewn crefydd/diwylliant, neu o bosibl dydyn nhw ddim wedi cael y profiad o fod yn rhan o deulu hapus adeg y Nadolig, neu ddim yn teimlo eu bod nhw wedi integreiddio i mewn i’ch teulu eto.

Mae’n bwysig cadw golwg ar y ‘darlun mawr’. Hynny yw, efallai mae’r ffordd rydych chi’n dathlu’n wahanol i’r ffordd mae Barry lawr yr heol neu Gwyn drws nesaf yn dathlu! Gan gofio hynny, byddwn ni’n eich annog chi i siarad â’r plentyn sydd yn eich gofal, i weld peth yw eu profiad nhw o’r cyfnod yma fel arfer. Oes ganddyn nhw eu traddodiadau eu hunain? A fyddai modd i chi gynnwys y rhain yn eich cartref chi hefyd?

Ar ôl siarad â rhieni maeth, rydyn ni wedi darganfod mai rhai o’r ffyrdd gorau o annog y plentyn/plant yn eich gofal yw cynllunio ychydig o weithgareddau y mae modd i’r teulu cyfan edrych ymlaen atyn nhw.  Pethau fel rhoi’r goeden i fyny gyda’ch gilydd, caniatáu i’r plentyn maeth ddewis ei hoff addurniadau a ble i’w rhoi nhw ar y goeden. Calendr adfent i’r teulu gyda phawb yn y teulu yn cymryd eu tro i agor drws bob dydd. Efallai nad ydyn ni’n ystyried y pethau hyn yn anrhegion, ond maen nhw’n brofiadau y gallwch eu rhannu gyda’ch gilydd – ffilm Nadolig, siocled poeth cyn mynd i’r gwely, gêm y gallwch ei chwarae ar ôl cinio ac ati.

Ar wefannau fel https://www.penguin.co.uk/articles/children/2016/the-christmasaurus-christmas-cards.html mae modd i chi lawrlwytho cardiau ‘Christmasaurus’ i’w hargraffu a’u lliwio. Byddai modd i chi wneud gweithgareddau sydd ddim yn gysylltiedig â’r Nadolig pe byddai rheiny’n fwy priodol. Mae gan Hobby Craft restr hir o syniadau gweithgaredd i danio’ch dychymyg https://www.hobbycraft.co.uk/ideas.

Wrth annog eich plentyn maeth i rannu ei brofiadau ei hun am y Nadolig, rydych chi’n dod i’w adnabod e/hi’n well, ac yn gwneud holl brofiad y Nadolig yn well iddo fe/iddi hi, ac yn wir i’r teulu cyfan. Cofiwch efallai na fyddant yn barod i ddweud popeth wrthych.

Cyngor Craff: Mae peli gloyw neu/a hosanau personol yn ffordd wych ond syml o wneud i’r plentyn yn eich gofal deimlo’n rhan o’r teulu!

“Beth fydd fy nheulu yn ei wneud hebddo i?”

Cysylltu â theulu’r plentyn/plant os yw’n berthnasol

Bydd llawer o blant yn gweld eisiau eu rhieni, neu’n poeni am aelod o’r teulu, yn enwedig os yw’r plentyn wedi bod yn brif gynhaliwr. Mae’n bwysig cydnabod yr ansicrwydd yma ac mae llawer o ffyrdd i chi gynnwys teulu genedigol y plentyn os yw hynny’n briodol.

*Byddwn ni wastad yn awgrymu siarad â’r gweithiwr cymdeithasol sy’n eich goruchwylio a gweithiwr cymdeithasol y plentyn cyn mynd ati i wneud unrhyw beth.*

Yn y pen draw, y nod yw bod y plentyn yn teimlo eich bod chi’n estyniad o’i deulu, yn hytrach na rhywun sydd yno i’w ddisodli. Rydyn ni’n awgrymu eich bod chi’n gofyn i’r plentyn i lapio anrheg feddylgar fach i’w deulu genedigol, neu efallai byddai modd i chi ei helpu i greu cardiau Nadolig iddo/iddi roi yn ystod amser cyswllt neu i’w postio.

Fe drefnon ni i’n plentyn maeth ni siarad â’i fam-gu enedigol ar fore Nadolig, a diolch i waith caled pawb, roedden ni i gyd yn hapus dros ben ac roedd pawb yn teimlo’n rhan o dîm”. Efallai y bydd yn briodol trefnu galwad fideo gyda’r teulu genedigol ar fore Nadolig, ac fe fyddai modd i hynny wneud gwahaniaeth mawr i bawb dan sylw. Rhywbeth syml arall byddai modd i chi ei wneud byddai dangos ffotograffau o weithgareddau a chyngerdd Nadolig yr ysgol i’r rhieni genedigol, er mwyn helpu oedolion i gyfathrebu â’i gilydd.

Yn ddelfrydol, dylai’r plentyn deimlo bod pawb ar yr un tîm. Rydyn ni’n gwybod bod ein rhieni maeth yn griw gofalgar dros ben, ond mae bod ag agwedd anfeirniadol, yn enwedig mewn perthynas â theulu genedigol y plentyn/plant, yn gwbl hanfodol wrth feithrin yr ymdeimald yna o dîm.

“Beth os caf i fy ngorfodi i gymryd rhan yn rhywbeth dydw i ddim yn ei fwynhau?”

Mae pawb angen ychydig o lonydd o bryd i’w gilydd.

Mewn byd delfrydol, bydd eich plentyn maeth yn gyffrous am y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, ond rydyn ni’n gwybod nad yw hyn bob tro’n wir. Y peth olaf rydych chi ei eisiau yw i blentyn deimlo ei fod yn cael ei orfodi i wneud unrhyw beth. Gall gwneud hynny darfu ar ei emosiynau ac effeithio ar brofiadau’r teulu cyfan.

Efallai y byddai’n syniad da esbonio i’r plentyn/plant yn eich gofal bod ei ystafell wely (neu ardal briodol arall yn y tŷ) yn le diogel a bod modd mynd yno os yw’n teimlo bod pethau’n ormod iddo/iddi dros gyfnod y Nadolig. Efallai byddai’ch plentyn maeth yn hoffi pe baech chi roi ychydig o oleuadau i fyny yn ei ystafell, neu greu cuddfan fach iddo/iddi ddefnyddio fel dihangfa pan fydd e/hi eisiau amser tawel neu eisiau teimlo’n well (naill ai yn ei (h)ystafell wely neu ardal arall lle mae’n haws cadw llygad arno fe/arni hi).

Parchwch y ffaith fod angen ei (g)ofod ei hun arno fe/hi. Rhowch eich hun yn ei (h)esgidiau e/hi – byddech chi siwr o fod yn teimlo’n eithaf rhwystredig pe bai rhywun yn cadw gofyn i chi wneud rhywbeth, a’r cyfan roeddech chi eisiau ei wneud oedd cael bach o amser tawel i chi’ch hun! Os ydyn nhw’n dweud wrthoch chi nad ydyn nhw eich eisiau chi yn eu lle diogel nhw, parchwch hynny. Rhowch wybod iddyn nhw ble byddwch chi ac y byddwch chi’n dod i weld bod popeth yn iawn mewn deg munud, neu hanner awr – ond yna gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cadw at eich gair.

Cyngor Craff: Byddai modd i gardiau arwyddo fod yn syniad da a syml y gall pawb gadw atyn nhw. Dyma ffordd syml i blentyn roi gwybod os yw e eisiau cwmni neu os byddai’n well ganddo/ganddi fod ar ei ben/phen ei hun. Mae gwyrdd yn dweud ‘Dewch i mewn’, ac mae’r coch yn dweud ‘Byddai’n well gen i gael bach o lonydd’

Ac yn olaf … er mor amhosibl mae’n ymddangos, gwnewch amser i chi’ch hun!

Ymhlith yr holl ganu, cweryla, cymdeithasu a bwyta, byddwn ni’n awgrymu’n gryf eich bod chi’n trio sicrhau bach o amser i chi’ch hun. Gall hynny fod ar ddiwedd y dydd a chithau yn eich gŵn tŷ a phaned yn eich llaw ar ôl i’r plant fynd i’r gwely. Neu beth am drio ffeindio amser i gael bath twym nawr ac yn y man, neu ymweld â’ch siop goffi leol am hanner awr i ddarllen llyfr? Rhannwch y gwaith gofalu gyda’ch partner, neu’ch rhieni, neu unrhyw un yn eich rhwydwaith cymorth. Byddai modd i chi drefnu i’ch plentyn/plant maeth fynd i chwarae â theulu arall rydych chi’n ymddiried ynddo fe er mwyn i chi ac i’ch plentyn/plant maeth dreulio’r prynhawn fel y mynnwch. 

Beth bynnag byddwch chi’n ei wneud a beth bynnag byddwch chi’n ei wynebu dros yr ŵyl eleni, anogwch eich hun a rhieni maeth eraill i sylweddoli cymaint o waith da rydych chi’n ei wneud – hyd yn oed os na fydd hi bob tro’n teimlo felly! 

Mae bod yno iddo/iddi a dangos gofal tuag ato/ati yn aml yn fwy na’r hyn y mae llawer o’r plant hyn wedi’i brofi yn y gorffennol.

Rydych chi’n gwneud gwahaniaeth. Rydych chi’n darparu cartref cariadus a chynnes.

Pe hoffech chi wybod rhagor am sut i ymdopi â’r Nadolig, neu am faethu yn gyffredinol, rydyn ni’n eich hannog chi i fynd i’r dudalen ‘cysylltu â ni‘ neu gadw llygad ar ein sianeli cymdeithasol (Facebook).

Os ydych yn byw yng Nghymru, ewch i wefan Maethu Cymru lle mae’r holl wybodaeth ar gael a chysylltu â’ch gwasanaeth awdurdod lleol.

Hoffwn ni ddymuno Nadolig Llawen iawn i bawb, a Blwyddyn Newydd Dda.

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn