blog

Wythnos Gofal gan Berthnasau

Mae Wythnos Gofal gan Berthnasau 2022 (3 – 7 Hydref) yn wythnos genedlaethol i gydnabod gwaith cynhalwyr sy’n berthnasau a chodi ymwybyddiaeth a gwella dealltwriaeth ohono.

Beth yw gofal carennydd?

“Mae gofalwr perthynas yn perthyn, yn ffrind neu’n berson arall cysylltiedig sy’n gofalu am blentyn sydd ddim yn gallu byw gyda’u rhieni’n ddiogel. Weithiau gelwir gofalwyr sy’n berthnasau yn ofalwyr teulu a ffrindiau” (Grŵp Hawliau Teuluol, 12fed Medi 2022).

Pan does dim modd i blentyn fyw gyda’i rieni/rhieni oherwydd eu bod yn methu â gofalu amdano/amdani, mae’r plentyn yn byw gyda pherthynas neu ffrind drwy’r amser, neu’r rhan fwyaf o’r amser – dyna yw ‘Gofal gan Berthnasau’. Mae tua hanner y cynhalwyr yma yn neiniau a theidiau, ond gall brodyr a chwiorydd hŷn, modrybedd, ewythrod, yn ogystal â ffrindiau teulu a chymdogion fod yn ‘gynhalwyr sy’n berthnasau’ hefyd.

Rydym yn gwerthfawrogi pob gofalwr sy’n berthnasau yn RhCT

Mae gofal gan berthnasau yn rhan bwysig o’r gwasanaeth maethu yn RhCT ac rydyn ni’n dra ddiolchgar i bawb sy’n gwneud ymrwymiad tymor hir i ofalu am blant RhCT naill ai yn ein hardaloedd lleol neu y tu allan i’r sir. 

Mae #WythnosGofalGanBerthnasau yn rhoi sylw penodol i gynhalwyr sy’n berthnasau. Ond nid am wythnos yn unig y mae eisiau eu cydnabod. Rydyn ni am i gynhalwyr sy’n berthnasau gael eu cydnabod, eu gwerthfawrogi a’u cefnogi trwy’r amser. 

Mae dros 50% o’r rhieni maeth yn ein hardal leol yn gynhalwyr sy’n berthnasau. Mae hyn yn golygu eu bod nhw’n maethu ac yn magu plant o’u teulu neu’u cylch cyfeillgarwch eu hunain. Lle bo modd, rydyn ni’n ceisio cadw plant gyda’u teuluoedd neu ffrindiau, ond os nad oes modd i ni wneud hyn, rydyn ni’n dod o hyd i gartrefi i’r plant yma gyda rhieni maeth prif ffrwd.

Rydyn ni’n cydnabod bod y rhan fwyaf o blant yn teimlo’n ddiogel a bodlon gyda chynhalwyr sy’n berthnasau, ac yn ffurfio perthynas agos a chadarnhaol gyda nhw. 

Diolch

Yn ôl yr ymchwil, mae deilliannau cadarnhaol ar gyfer plant sy’n cael eu magu gan eu teuluoedd neu ffrindiau. Serch hynny, rydyn ni hefyd yn cydnabod y straen ychwanegol ar gynhalwyr sy’n berthnasau a’r ddeinameg deuluol a all fod yn gymhleth, a dyna un o’r rhesymau rydyn ni’n cynorthwyo ein cynhalwyr sy’n berthnasau gymaint â phosibl a dangos ein gwerthfawrogiad am eu gwaith.

Yma yn ‘Maethu Cymru RhCT’, rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed i fod yn gefn i’n Cynhalwyr sy’n Berthnasau. Mae’r teuluoedd yma’n ganolog i faethu llwyddiannus yn ein hardal ac rydyn ni wedi datblygu carfanau o weithwyr cymdeithasol, a chyfleoedd dysgu a datblygu i gynorthwyo ein cynhalwyr.

Mae cymorth ychwanegol hefyd ar gael i bob math o gynhalwyr sy’n berthnasau – cynhalwyr cymeradwy, cynhalwyr anffurfiol neu’r rheiny sy’n gofalu am blant o dan orchmynion gwahanol gyda sefydliadau trydydd sector fel Kinship.org.

Yn yr un modd â gofal maeth prif ffrwd, gall lleoliadau gyda pherthnasau ddod i ben os bydd y plant yn dychwelyd at eu rhieni neu’n dod yn oedolion. Mae modd i blant sy’n cael gofal perthnasau neu ffrindiau yn RhCT barhau i aros mewn amgylchedd sefydlog a gallan nhw weld aelodau eraill o’u teulu a’u ffrindiau. Rydyn ni’n gwybod bod hyn yn gwneud sefyllfaoedd anodd yn haws. Weithiau mae cynhalwyr sy’n berthnasau wedi parhau â’u taith faethu gyda ni trwy gael eu hasesu a dod yn gynhalwyr prif ffrwd ar ôl i’w lleoliadau teuluol ddod i ben.

Hoffen ni ddiolch i bob un o’n cynhalwyr anhygoel sy’n berthnasau yn RhCT ac rydyn ni’n gobeithio y gallwn ni wneud ein rhan i godi ymwybyddiaeth o’r gwaith gwerthfawr y mae’r teuluoedd yma yn ei wneud.

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn